成人快手

Cofio'r trafodaethau am godi atomfa niwclear ym Mhen Ll欧n

Atomfa Wylfa gydag arwydd Croeso i Edern arnoFfynhonnell y llun, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru/Becky Roberts
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ai dyma sut fyddai'r atomfa wedi edrych?

  • Cyhoeddwyd

Wyddoch chi fod cynllun wedi bod ar un adeg i godi atomfa niwclear ym Mhen Ll欧n?

Ddiwedd yr 1950au, roedd pentref Edern yn cael ei ystyried fel safle ail atomfa yng ngogledd Cymru, ar 么l i'r gyntaf gael ei sefydlu yn Nhrawsfynydd.

Er mai yn Wylfa yn Ynys M么n y cafodd yr orsaf ynni ei sefydlu yn y diwedd, yn 么l yr hanesydd Dr Mari Wiliam o Brifysgol Bangor, mae鈥檙 dadleuon oedd yn yr ardal rhwng y bobl oedd o blaid ac yn erbyn y cynlluniau, bron yn fwy diddorol na鈥檙 penderfyniad ei hun.

Y cenedlaetholwyr o blaid...

Roedd nifer yn dadlau鈥檔 frwd dros gael yr atomfa yn Edern, yn bennaf oherwydd y gwaith a fyddai'n dod i bobl yr ardal, ond hefyd yr effaith posib ar Gymreictod yr ardal, eglurodd Dr Wiliam ar raglen Dei Tomos ar 成人快手 Radio Cymru.

鈥淢ae 鈥榥a ddau ffigwr gwleidyddol go arwyddocaol yn hyn, sef T.W Jones oedd yn Aelod Seneddol Llafur (Sir Feirionnydd) a Goronwy Roberts oedd yn Aelod Seneddol yn Sir Gaernarfon, ac oedd y ddau yn eirioli mor gryf fod rhaid cael yr atomfeydd 鈥榤a yng ngogledd orllewin Cymru, neu oedd y diwylliant Cymraeg a鈥檙 iaith Gymraeg yn mynd i gael ei disodli; roedd di-boblogi gwledydd yn broblem, diffyg gwaith mewn ardaloedd gwledig a siaradwyr Cymraeg yn symud i lefydd eraill.

鈥淚ddyn nhw roedd 鈥榥a gyswllt hynod o gryf rhwng yr atomfeydd - dod 芒 diwydiant oedd, bryd hynny yn fodern, i ogledd Cymru - a goroesiad y Gymraeg.

"Roedd 鈥榥a ddadleuon cenedlaetholgar cryf dros eu cael nhw.鈥

Ffynhonnell y llun, Casgliad Geoff Charles, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yr Aelodau Seneddol lleol, Goronwy Roberts a T.W Jones, ar eu ffordd i D欧'r Cyffredin

... a'r cenedlaetholwyr yn erbyn

Fodd bynnag, eglurodd, roedd cenedlaetholwyr blaenllaw ar ochr arall y ddadl hefyd, rhai fel Saunders Lewis a Iorwerth Peate, a oedd yn gwrthwynebu cael atomfa yno, rhag dinistrio鈥檙 鈥榟en ffordd Gymreig o fyw鈥.

鈥淢ae gennych chi鈥檙 cenedlaetholwyr Cymreig mwy ceidwadol oedd isho cadw Cymru fel oedd hi, a Phen Ll欧n yn arbennig. Fel 'da ni鈥檔 ei weld efo llosgi鈥檙 ysgol fomio yn 1936, mi oedd 鈥榥a ryw dinc arbennig yng ngwlad Ll欧n. Dyma oedd Cymru, dyma oedd Cymreictod.鈥

Fodd bynnag, nid ar sail cenedlaetholdeb oedd pawb yn gwrthwynebu, gyda rhai yn poeni am yr effaith ar y diwydiannau amaeth a thwristiaeth:

鈥淥ngl arall i鈥檙 gwrthwynebiad ydi r么l Cymdeithas Gwarchod y Gymru Wledig ar y pryd, ac roedd hon yn gymdeithas mwy Seisnig ei naws. Be鈥 鈥榙a ni鈥檔 gweld efo Edern ydi fod y Chwiorydd Keating, o鈥檇d wedi prynu Plas-yn-Rhiw ym Mhen Ll欧n yn eirioli鈥檙 gry' iawn yn erbyn yr atomfa, ac oedden nhw鈥檔 sicr wrth gwrs ddim isho fo ar eu stepen drws nhw.

"Dwi鈥檔 ei weld o鈥檔 hynod ddifyr, bod 鈥榥a ryw fath o gynghrair rhyngddyn nhw, Iorwerth Peate, R.S Thomas, Saunders Lewis. Y syniad, 鈥榙a ni ddim isho newid y tirlun鈥, yn eironig iawn efo dadl cymdeithas Gwarchod y Gymru Wledig, 鈥榤ae hwn yn mynd i ddinistrio y diwydiant twristiaeth ym Mhen Ll欧n鈥.

Ffynhonnell y llun, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llun awyr o safle Atomfa Trawsfynydd yn 1960. Cafodd ei hadeiladu rhwng 1959 ac 1963, ei hagor yn 1965, cyn dod i ddiwedd ei hoes yn 1991

Teimladau cymysg

Roedd gan drigolion yr ardal deimladau cymysg am nifer o鈥檙 datblygiadau posib a allai effeithio ar y gogledd orllewin bryd hynny, a phobl ddim bob amser yn cytuno鈥檔 union, meddai.

鈥淩oedd (yr athronydd) J.R Jones yn pledio鈥檔 erbyn yr atomfa, ac yn eitha鈥 brwdfrydig yn erbyn Butlins hefyd. Goronwy Roberts ddim yn keen ar Butlins ond yn cefnogi鈥檙 atomfa... felly allwn ni ddim rhoi鈥檙 bobl 鈥榤a mewn bocsys.

鈥淯n o鈥檙 enghreifftiau cyntaf 鈥榙a ni鈥檔 ei gael o gr诺p yn galw am atomfa yng ngogledd orllewin Cymru, ydi cangen Bala Plaid Cymru yn galw am 鈥榝fatri atomig鈥 yn yr ardal.

鈥溾橠a ni鈥檔 dueddol o edrych ar hanes Tryweryn, heb edrych ar beth arall oedd yn mynd ymlaen yn yr un cyfnod, a dwi鈥檔 meddwl be鈥 鈥檇a chi鈥檔 ei gael ydi pobl yn gwrthwynebu Tryweryn, achos doedden nhw ddim yn gweld gymaint o fantais i鈥檙 ardal leol, ond yn cefnogi cael atomfeydd.鈥

Ynni diogel?

Yn ddiddorol, meddai Dr Wiliam, doedd ystyriaethau amgylcheddol na iechyd yn sgil cael ffatri niwclear gerllaw ddim yn cael lle amlwg yn y trafodaethau yn 么l yn yr 1950au:

鈥淒yna be' o鈥檔 i鈥檔 disgwyl ei ffeindio, cyfrolau o lythyrau, erthyglau, pobl yn pryderu am y gwastraff niwclear a鈥檙 peryglon i iechyd, ond o鈥檔 i鈥檔 anghywir.

鈥淩oedd y 鈥50au, o ran y Rhyfel Oer a鈥檙 ofn 鈥榤a am ryw apocalyps niwclear, yn amlwg mewn cymdeithas, ond doedd pobl ddim yn cysylltu hynny efo cael atomfa ar eu stepen drws; doedden nhw ddim yn gweld hynny鈥檔 beryglus.

鈥淢ae hynny鈥檔 dod ddegawdau wedyn 鈥 ella鈥檙 80au, efo Chernobyl - lle mae pobl yn gweld 鈥榙im jyst rhyfel niwclear sy鈥檔 beryg i ni, mae鈥檙 atomfeydd 鈥榤a hefyd鈥.

鈥淢ae 鈥榥a dystiolaeth bod pobl yn y chwareli oedd eisiau mynd i weithio yn atomfa Trawsfynydd achos ei fod o鈥檔 鈥榮affach鈥 na gweithio yn y chwareli. Ar y pryd, roedd niwclear yn cael ei weld fel diwydiant modern, gl芒n oedd yn talu鈥檔 go dda; doedd y chwareli ddim yn cymharu.鈥

Ffynhonnell y llun, Casgliad Geoff Charles, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Peilon yn cario trydan o atomfa Wylfa yn 1966

Golwg ar gymdeithas

Wrth gwrs, i Sir F么n aeth yr atomfa, ac mae Dr Wiliam yn cofio ei thad yn s么n am y tensiwn rhwng 鈥楳och M么n a Lloeau Ll欧n鈥 yn dilyn y cyhoeddiad gan y Bwrdd Trydan yn 1960 eu bod am agor atomfa Wylfa yn lle un yn Edern.

Ond, yn 么l Dr Wiliam, mae鈥檙 tystiolaeth yngl欧n 芒鈥檙 drafodaeth yn gallu dweud llawer wrthon ni am y gymuned bryd hynny:

鈥淵n aml pan 'da ni鈥檔 edrych ar hanes, 'da ni鈥檔 dueddol o weld 鈥榖eth oedd y gwleidyddion yn ei ddweud? Yr arweinwyr cymdeithasol? Y tirfeddianwyr?鈥.

鈥淥nd mae tystiolaeth fod gwragedd t欧 Ll欧n wedi dod at ei gilydd i bledio am atomfa i gadw eu gw欧r yn yr ardal a chadw鈥檙 gymuned i fynd. A fasai lot ohonyn nhw ddim yn meddwl mewn ffordd 'genedlaetholgar', ond roedden nhw isho cynnal y Cymreictod naturiol 鈥榤a roedden nhw鈥檔 ei weld o鈥檜 cwmpas ym Mhen Ll欧n.

鈥淢ae鈥檙 hanes bywyd bob dydd 鈥榥a yr un mor bwysig i edrych arno 芒 beth oedd Saunders Lewis yn ei ddweud. Mae鈥檙 trafodaethau ar y pryd yn deud rhywbeth wrthon ni am Gymru.鈥