T芒n a laddodd tad a mab 芒 tharddiad trydanol - cwest
- Cyhoeddwyd
Mae'n debygol mai trydanol oedd tarddiad t芒n yn Abertawe y llynedd a arweiniodd at farwolaethau bachgen tair oed a'i dad, yn 么l crwner.
Daethpwyd o hyd i gorff Muhammad Esmael yn un o ystafelloedd gwely ei gartref yn ardal West Cross y ddinas tua 13:30 ar 1 Gorffennaf y llynedd.
Cafwyd hyd i'w dad 51 oed, Naemat Lawa Esmael, yn gorwedd yng ngardd flaen y t欧 a bu farw yn yr ysbyty ddeuddydd yn ddiweddarach.
Clywodd y cwest y bu farw Muhammad o effaith y mwg a'r fflamau, tra bod Mr Esmael wedi marw o fethiant ei organau, llosgiadau i dros 80% o'i gorff ac effaith anadlu mwg.
Dywedwyd wrth y cwest yn Neuadd y Ddinas Abertawe bod Mr Esmael wedi gwneud gwelliannau i gartref y teulu - t欧 cyngor - gan gynnwys rhywfaint o waith trydanol.
Gan ddod i gasgliad naratif, dywedodd y crwner bod bwriad i gyhoeddi dau adroddiad atal marwolaeth yn sgil yr achos.
Daeth archwilwyr o hyd i gebl estynnol oedd wedi ei weirio i soced yn yr ystafell ble dechreuodd y t芒n, ynghyd 芒 theclyn chwarae gemau trydanol a theledu.
Dywedodd y gwyddonydd fforensig Iain Peck wrth y cwest nad oedd tystiolaeth bod nam ar yr offer yma.
Yn 么l Jason Woodman o Wasanaeth T芒n ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, yn y rhan yma o'r t欧 y dechreuodd y t芒n "ar sail cydbwyso pob tebygolrwydd".
Dywedodd y crwner fod tystiolaeth fod "rhywun wedi gwneud gwaith trydanol oedd yn is na safon trydanwr cymwys".
Ychwanegodd nad oedd Cyngor Abertawe yn ymwybodol, nac wedi awdurdodi, unrhyw waith trydanol yno.
Diffyg tystiolaeth yn 'anffodus'
Dywedodd y crwner cynorthwyol Kirsten Heaven wrth y cwest bod hi'n "anffodus" nad oedd tystiolaeth, ffotograffau a dadansoddiad fforensig mwy manwl o leoliad y t芒n.
Daeth i'r casgliad bod y t芒n "fwyaf tebyg yn drydanol o ran tarddiad" er nad oedd modd cadarnhau'r union nam.
Ychwanegodd efallai na seiniodd synhwyrydd mwg am fod drws yr ystafell wely ar gau, neu am fod y cylched (circuit) trydanol wedi diffodd neu am fod y batris yn fflat.
Dywedodd Ms Heaven y bydd yn cyhoeddi dau adroddiad Atal Marwolaethau yn y Dyfodol - i Lywodraeth Cymru ynghylch methiant larymau t芒n i seinio, ac i'r gwasanaeth t芒n ynghylch symud eitemau trydanol o'r ystafell wely.
Fe gydymdeimlodd 芒'r teulu wedi "sefyllfa drawmatig iawn" gan ddweud wrth fam y bachgen bach, Sharmeen Ahmed ei bod "wedi dangos dewrder mawr wrth roi tystiolaeth".