Pobl yn eu dagrau ar 么l ymosodiad nodwydd ar glown yn Zip World
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio i adroddiadau o ymosodiad ar aelod o staff ar safle Zip World Betws-y-coed nos Lun.
Mewn datganiad dywedodd y cwmni bod yr aelod staff "wedi dod i gysylltiad 芒 dyfais feddygol a allai fod yn beryglus".
Fe gadarnhaodd yr heddlu fore Mercher mai nodwydd oedd y ddyfais dan sylw.
Cafodd yr aelod staff, oedd mewn gwisg ffansi fel clown, ei gludo i'r ysbyty i gael profion meddygol rhagofalus, meddai Zip World.
Ychwanegon nhw ei fod wedi cael ei ryddhau y noson honno.
Bu'n rhaid i bobl oedd yn ymweld 芒'r atyniad aros yn y maes parcio nes wedi hanner nos, meddai dwy oedd yno wrth siarad 芒'r 成人快手.
Roedden nhw o'r farn y gallai'r cwmni fod wedi delio 芒'r sefyllfa yn well.
Dywedodd yr heddlu bod eu hymholiadau yn parhau ac nad oes risg i'r cyhoedd yn ehangach.
Mae digwyddiad Ffear Fforest yn cael ei gynnal ar y safle ym Metws-y-coed pob nos rhwng 11 Hydref a 3 Tachwedd.
Dywedodd y cwmni: "Cafodd y safle ei gau dros dro tra bo'r heddlu'n ymchwilio i'r digwyddiad.
"Ar 么l iddyn nhw gwblhau eu hymchwiliadau, roedd y safle yn ddiogel i'w ailagor.
"Bydd digwyddiadau nosweithiol Ffear Fforest yn parhau fel y cynlluniwyd ac yn rhedeg bob nos tan 3 Tachwedd.
"Hoffem sicrhau cwsmeriaid bod eu diogelwch a diogelwch ein staff yn parhau i fod yn hollbwysig ac, fel mesur rhagofalus, rydym wedi cynyddu diogelwch ar gyfer y nosweithiau sy'n weddill."
'Doedd dim hawl gan neb i adael'
Wrth siarad 芒'r 成人快手, dywedodd dwy fenyw o Wynedd nad oedd am gael eu henwi - un yn 19 oed ar llall yn 21 - y gallai'r cwmni fod wedi delio 芒'r digwyddiad yn well.
Dywedon nhw eu bod wedi cael cyngor i ddychwelyd i'w ceir tua 21:45 ond nid oeddent wedi gallu gadael y lleoliad nes ar 么l hanner nos.
"Fe dreuliom ni awr yn ciwio i fynd ar y reid," meddai un o'r menywod.
"Ni oedd y nesaf yn y llinell, yna fe ddaeth popeth i stop.
"Fe aeth y gerddoriaeth i ffwrdd a gafon ni gyfarwyddyd i ddychwelyd i'n ceir.
"Fe arhosom ni am ddwy awr yn y maes parcio tra bod yr heddlu yn archwilio'r holl geir.
"Doedd dim hawl gan neb i adael, roedd pobl yn mynd yn rhwystredig ac roedd llawer yn canu eu cyrn.
"Roedd nifer yn holi cwestiynau a llawer o grio."
Dywedodd y fenyw ei bod hi wedi talu tua 拢30 am docyn, ac nid yw hi na'i ffrind yn gwybod eto os y cawn nhw ad-daliad.