Tri yn gwadu llofruddio dyn 65 oed ym Mae Colwyn

Ffynhonnell y llun, bbc

Disgrifiad o'r llun, Bu farw David Wilcox mewn digwyddiad ym Mae Colwyn ar 20 Tachwedd 2023

Mae tri pherson sydd wedi eu cyhuddo o lofruddio dyn 65 oed ym Mae Colwyn y llynedd wedi pledio yn ddieuog.

Bu farw David Mark Wilcox, oedd yn byw yn y dref, mewn digwyddiad yn oriau m芒n bore dydd Llun, 20 Tachwedd.

Fe wnaeth David Webster, sy'n 42 oed ac o Widnes yn Sir Gaer, Thomas Whitely, sy'n 33 oed ac o Fae Colwyn, a Lauren Harris, sydd heb gyfeiriad sefydlog, ymddangos yn Llys y Goron yr Wyddgrug drwy gyswllt fideo ddydd Llun.

Mae'r tri'n gwadu'r cyhuddiadau yn eu herbyn, ac mae disgwyl i'r achos ddechrau ar 10 Mehefin.