成人快手

'Anhapus' eithrio'r Brenin rhag erlyniad amgylcheddol

Brenin CharlesFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gytuno i eithrio鈥檙 Brenin rhag cael ei erlyn am droseddau amaethyddol, er i brif gyfreithiwr y llywodraeth ddweud ei fod yn anfodlon 芒鈥檙 penderfyniad.

Gofynnodd Palas Buckingham i鈥檙 llywodraeth sicrhau y byddai imiwnedd i鈥檙 Goron o dan gyfraith newydd.

Mae 鈥榥a gonfensiwn hirsefydlog sy鈥檔 dweud bod yn rhaid i Seneddau Prydain gael caniat芒d brenhinol cyn deddfu mewn ffyrdd a allai effeithio鈥檙 Goron.

Dywedodd y palas nad oedd y llywodraeth wedi datgan gwrthwynebiad i鈥檙 broses o gwbl.

Anhapus ond cydnabod confensiwn

Mae ymchwiliad gan y Guardian wedi datgelu bod swyddogion y palas wedi ffonio鈥檙 llywodraeth tra eu bod nhw鈥檔 llunio deddf i osod rheolau newydd ar y diwydiant amaeth.

Mewn ebost a anfonwyd ym mis Mehefin 2023, mae gwas sifil o鈥檙 llywodraeth yn dweud bod y palas wedi gofyn am sicrwydd y byddai gweinidogion yn dilyn y confensiwn cyfansoddiadol yn erbyn erlyn y Goron.

Mewn ateb y diwrnod canlynol, mae swyddog yn dweud nad oedd y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw 鈥 yr aelod o鈥檙 cabinet sy鈥檔 gyfrifol am gyngor cyfreithiol y llywodraeth yn 鈥渉apus gyda鈥檙 eithriad鈥, ond ei fod yn cydnabod y confensiwn ac yn cytuno iddo.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd gan y Brenin gartref preifat yn Sir Gaerfyrddin tan 2023

Dyw hi ddim yn anarferol i lywodraethau ym Mhrydain ofyn am ganiat芒d gan y Brenin tra eu bod nhw鈥檔 paratoi deddfwriaeth newydd.

Mae hynny鈥檔 wahanol i鈥檙 broses o Gydsyniad Brenhinol, lle mae鈥檙 Goron yn gorfod rhoi s锚l bendith i gyfreithiau newydd.

'Dim pwysau'

Mewn datganiad, fe ddywedodd Palas Buckingham bod 'na gyfraith yn rhwystro Senedd Cymru rhag creu cyfreithiau a allai arwain at y Brenin yn wynebu achosion troseddol.

O ganlyniad, fe gysyllton nhw gyda鈥檙 llywodraeth yng Nghaerdydd i sicrhau y byddai鈥檙 rheol yn cael ei pharchu fel rhan o Ddeddf Amaethyddol 2023.

Mae鈥檙 ddeddf yn disodli nifer o reolau amaethyddol roedd yn rhaid i ffermwyr eu dilyn tra roedd Prydain yn aelod o鈥檙 Undeb Ewropeaidd.

Fe wnaeth llefarydd ar ran y palas gadarnhau bod swyddogion wedi ffonio鈥檙 llywodraeth, ond dywedodd ei bod hi鈥檔 鈥渉ollol anghywir i awgrymu bod hynny鈥檔 rhoi Llywodraeth Cymru dan bwysau鈥.

Dywedodd: 鈥淣i chodwyd unrhyw wrthwynebiadau ar unrhyw adeg gan Lywodraeth Cymru, naill ai鈥檔 ffurfiol nac yn anffurfiol, mewn perthynas 芒鈥檙 broses hon.

鈥淩hoddwyd caniat芒d yn y ffordd arferol, yn ogystal 芒'r Cydsyniad Brenhinol.鈥

Ychwanegodd bod y Brenin wedi rhoi ei ganiat芒d bob tro y mae鈥檙 llywodraeth wedi gofyn amdano.

'Dim lle i arferion anacronistig'

Dywedodd yr Aelod Seneddol Plaid Cymru Liz Saville Roberts bod ganddi bryderon am yr achos.

鈥淒oes dim lle i鈥檙 fath arferion anacronistig yn nemocratiaeth fodern Cymru,鈥 meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth: 鈥淢ae imiwnedd y Brenin rhag erlyniad yn egwyddor sydd wedi鈥檌 hen sefydlu ac nid oes gennym ni ddim i鈥檞 ychwanegu at y wybodaeth rydyn ni eisoes wedi鈥檌 darparu.鈥

Does gan y Brenin ddim cartref preifat yng Nghymru bellach, ar ol iddo ildio鈥檙 brydles ar ystad Llwynywermod yn Sir Gaerfyrddin llynedd.

Pynciau cysylltiedig