成人快手

Darganfod dros 400 o blanhigion canabis ger gorsaf heddlu

Dyma'r adeilad lle cafodd y planhigion canabis eu darganfod
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd 435 o blanhigion canabis eu darganfod ychydig dros 80 llath o orsaf heddlu Castell Newydd Emlyn

  • Cyhoeddwyd

Mae swm mawr o gyffuriau wedi'i ddarganfod mewn adeilad ger gorsaf heddlu yn Sir Gaerfyrddin.

Cafodd 435 o blanhigion canabis eu symud o hen siop Co-op yng Nghastell Newydd Emlyn, bedwar drws o'r orsaf heddlu.

Cafodd Heddlu Dyfed Powys warant i archwilio'r adeilad nos Fercher, 6 Tachwedd.

Dywedodd person sy'n gweithio yn y dref, sydd am aros yn ddi-enw, wrth 成人快手 Cymru "nad yw'n synnu" bod cyffuriau wedi ei ddarganfod yno a bod "arogl wedi bod yno ers mis, o leiaf".

Mae swyddogion yn dweud na chafodd unrhyw un ei arestio a'u bod nhw'n dal i ymchwilio.

Dywedodd yr heddlu bydd swyddogion yn yr ardal tra bod yr ymchwiliad yn parhau.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Dafydd Llywelyn fod y llu "wedi gweld mwy o hyn yn digwydd yng ngorllewin Cymru dros y misoedd a'r flwyddyn ddiwethaf"

Yn siarad gyda 成人快手 Cymru dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn achosion o'r fath yn dod yn fwy cyffredin.

"Ni wedi gweld mwy o hyn yn digwydd yng ngorllewin Cymru dros y misoedd a'r flwyddyn ddiwethaf, ble mae unigolion yn tyfu canabis mewn hen adeiladau sydd yng nghanol cymunedau," meddai.

"Mae'r grwpiau yma'n dod, yn trial darganfod rhywle sydd efallai yn anghysbell - canol tref tawel yng ngorllewin Cymru - ac wedyn yn cynhyrchu'r cyffuriau i werthu lan y gadwyn mewn mannau eraill ym Mhrydain.

"Be' sy'n bwysig yw bod y cyhoedd, pan maen nhw'n gweld rhywbeth amheus neu rywbeth sydd ddim yn taro deuddeg, yn cysylltu 'da'r heddlu.

"Ni'n dibynnu ar y gymuned yn lleol a gwybodaeth yn dod o'r cyhoedd."

Pynciau cysylltiedig