Pryder o'r newydd am domenni glo wedi tirlithriad Cwmtyleri

Disgrifiad o'r fideo, Mae pobl wedi gorfod symud o鈥檜 cartrefi wedi'r tirlithriad yn ardal Cwmtyleri, Blaenau Gwent

Mae nifer o ASau Cymreig wedi codi pryderon am ddiogelwch tomenni glo ac wedi galw am fwy o gefnogaeth gan Lywodraeth y DU ar y mater yn dilyn Storm Bert.

Roedd y gwleidyddion - o sawl plaid wahanol - yn siarad yn ystod datganiad brys yn Nh欧'r Cyffredin ar y llifogydd.

Dydd Llun daeth cadarnhad bod tirlithriad yng Nghwmtyleri wedi dod o domen lo.

Mae'r domen yn un categori D - un sydd 芒'r potensial mwyaf o achosi perygl i'r cyhoedd, ac sy'n cael ei harchwilio ddwywaith y flwyddyn.

Cafodd ei hasesu ddiwethaf ym mis Awst, a ni chafodd unrhyw bryderon eu codi bryd hynny.

Cyhoeddwyd 拢25m i ddiogelu tomenni glo Cymru yng nghyllideb Llywodraeth y DU fis hydref, ond roedd 'na eisoes alw am fwy.

Mae'r llywodraeth yn dweud eu bod wedi cynnig cefnogaeth i Gymru yn dilyn y glaw trwm dros y penwythnos.

Ffynhonnell y llun, PA Media

Disgrifiad o'r llun, Daeth cadarnhad ddydd Llun bod y tirlithriad yng Nghwmtyleri wedi dod o domen lo

Dywedodd AS Plaid Cymru Ynys M么n, Llinos Medi fod tirlithriad o domen lo yng Nghwmtyleri yn "hynod bryderus" ac y byddai鈥檔 "arwain at bryder i eraill sy鈥檔 byw ger tomenni glo".

鈥淢ae鈥檙 tomenni yma'n etifeddiaeth diwydiant a gymrwyd o Gymru i gyfoethogi Llundain, ond eto dim ond 4% o鈥檙 拢600m sydd ei angen i鈥檞 diogelu mae Llywodraeth y DU wedi addo."

Yn ymateb i hynny dywedodd Ysgrifennydd Amgylchedd Llywodraeth y DU, Steve Reed, mai dyma'r "llywodraeth gyntaf i gynnig nawdd i ddelio 芒 thomenni glo".

Ffynhonnell y llun, Reuters

Disgrifiad o'r llun, Cafodd y domen lo ei hasesu ddiwethaf ym mis Awst, a ni chafodd unrhyw bryderon eu codi bryd hynny

Ychwanegodd AS Llafur Blaenau Gwent a Rhymni, Nick Smith fod Storm Bert wedi bod yn "ddinistriol" i'w etholwyr.

Dywedodd ei fod yn croesawu'r 拢25m a gyhoeddwyd fis Hydref, ond o ystyried y "tywydd rhyfeddol" dros y penwythnos gofynnodd a fyddai rhagor o arian yn cael ei ddarparu.

Dywedodd Steve Reed fod Keir Starmer wedi siarad 芒 Phrif Weinidog Cymru Eluned Morgan i'w "sicrhau fod unrhyw gefnogaeth sydd ei angen ar Lywodraeth Cymru i ddelio 芒鈥檙 sefyllfa ar gael".

"Mae鈥檙 cynnig hwnnw ar agor ac rydym yn barod i gefnogi ein cydweithwyr yng Nghymru os, a phryd y bydd angen hynny arnynt."