成人快手

A ddylai Morgan gymryd cyfrifoldeb am restrau aros hir?

Eluned MorganFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Eluned Morgan yn weinidog iechyd am dair blynedd cyn cael ei hethol yn brif weinidog

  • Cyhoeddwyd

Gostwng rhestrau aros mawr, ac yn enwedig nifer y cleifion sydd wedi bod yn aros y cyfnodau hiraf am driniaeth, yn 么l Eluned Morgan fydd un o'i blaenoriaethau mawr fel prif weinidog.

Ond i ba raddau ddylai hi gymryd cyfrifoldeb am y sefyllfa?

Wedi'r cyfan fe fuodd Morgan yn weinidog iechyd am dros dair blynedd cyn ei dyrchafiad.

Yn ystod y cyfnod hwnnw, fe gyhoeddodd gyfres o dargedau - sydd wedi eu methu eisoes neu'n debygol o gael eu methu.

Y targedau

Dylai neb fod yn aros yn hirach na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol - erbyn diwedd 2022.

Ym mis Mehefin 2024, roedd 74,175 o achosion lle roedd rhywun wedi bod yn aros yn hirach na hynny, ac mae'r ffigwr hwnnw bellach yn codi eto.

Dylai neb fod yn aros yn hirach na dwy flynedd am driniaeth yn y mwyafrif o arbenigeddau - erbyn Mawrth 2023.

Ym Mehefin 2024 roedd 22,455 o achosion lle roedd rhywun wedi bod yn aros yn hirach na hyn, ac ar 么l gwella am ddwy flynedd, mae'r ffigwr hwnnw hefyd yn codi eto bellach.

Dylai neb fod yn aros yn hirach na blwyddyn am driniaeth yn y mwyafrif o arbenigeddau - erbyn gwanwyn 2025.

Ym Mehefin eleni roedd tua 160,300 o achosion o rywun wedi bod yn aros dros flwyddyn - a'r ffigwr hwnnw hefyd yn codi eto.

Mae Llywodraeth Cymru yn dadlau nad yw'r targedau yn berthnasol i filoedd sy'n aros am driniaethau mewn meysydd lle'r oedd rhestrau aros yn sylweddol cyn y pandemig, fel trawma ag orthopedig.

Ond mae'r ffaith fod y rhestrau yn parhau'n ystyfnig o uchel mewn cymaint o feysydd wedi achosi rhwystredigaeth i Eluned Morgan yn y gorffennol.

Ym mis Ebrill eleni dywedodd ei bod yn ystyried cosbi neu gyflwyno "sancsiynau" ar fyrddau iechyd nad oedd yn cyflawni digon.

Dros y Sul awgrymodd y dylai penaethiaid byrddau iechyd, sy'n ennill cyflogau sylweddol, fod yn fwy llawer mwy atebol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ym mis Awst roedd amseroedd aros ysbytai yng Nghymru wedi cyrraedd y lefelau uchaf erioed

Does dim syndod fod hyn wedi corddi'r dyfroedd - gyda Chonffederasiwn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, sy'n siarad ar ran penaethiaid, yn mynnu fod nifer o'r problemau y tu hwnt i'w rheolaeth.

Maen nhw'n nodi, er enghraifft, ei bod hi'n anodd gostwng rhestrau aros pan fod cymaint o bobl yn sownd mewn ysbytai oherwydd diffyg gofal ar eu cyfer yn y gymuned.

Felly ar yr un llaw, mae'r prif weinidog newydd yn beio rheolwyr iechyd, a rheolwyr - ynghyd 芒'r gwrthbleidiau - yn pwyntio bys yn 么l am wendidau yng ngofal cymdeithasol, oedd yn gyfrifoldeb penodol i Eluned Morgan yn ei swydd flaenorol.

Yn y pendraw, fel gwleidydd sydd drwy gydol ei gyrfa wedi bod yn barod i gorddi'r dyfroedd, dyw e ddim yn syndod fod y ffrae yma wedi digwydd yn fuan yn ei theyrnasiad.

Yn ei chyfnod fel gweinidog iechyd, byddai o bryd i'w gilydd yn ymweld yn ddirybudd ag unedau brys.

Ar un achlysur penderfynodd ymweld ag uned lawfeddygol oedd wedi cael cyllid ychwanegol i geisio gostwng rhestrau aros.

O gael ei synnu cyn lleied o weithgarwch oedd yn digwydd, rhoddodd bryd o dafod i benaethiaid y bwrdd iechyd yn fuan wedyn.

Ar sawl achlysur yn y gorffennol dywedodd Eluned Morgan wrtha i mai'r hyn oedd yn ei phoeni oedd y gwahaniaethau mewn perfformiad rhwng gwahanol fyrddau iechyd.

Pam, awgrymodd, fod rhai wedi llwyddo'n well nag eraill i ostwng rhestrau aros?

Pam, er enghraifft, fod cymaint yn rhagor o bobl yn aros cyfnodau hir am apwyntiadau a thriniaeth yn ardal Betsi Cadwaladr o gymharu 芒 Bae Abertawe?

O daflu goleuni ar y gwahaniaethau hynny, gobaith Eluned Morgan yw y bydd yn sbarduno rhai byrddau iechyd i weithio'n galetach.

Ond mae'n dacteg allai fod yn beryglus, o ystyried fod y gwasanaeth iechyd yn ei gyfanrwydd yn delio 芒 galw a heriau digynsail, ac ysbryd a mor芒l staff yn dal i fod yn isel wedi cyfnod trawmatig y pandemig.