Carcharu dyn o F么n am daro a thagu ei gariad

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru

Disgrifiad o'r llun, Mae Luke Richard Roberts wedi cael ei garcharu am ddwy flynedd a chwe mis

Mae dyn 32 oed o Niwbwrch ar Ynys M么n wedi cael ei garcharu am daro a thagu ei bartner mewn ymosodiad yng Ngwynedd.

Fe wnaeth Luke Richard Roberts daro ei gariad gyda photel win ac yna ei thagu tan iddi fynd yn anymwybodol yn y digwyddiad yn ardal Deiniolen ar 22 Awst 2023.

Cafodd ei garcharu am ddwy flynedd a chwe mis yn Llys y Goron Yr Wyddgrug, ar 么l pledio'n euog i dagu (strangulation) bwriadol mewn achos blaenorol.

Mae hefyd wedi cael gorchymyn atal, sy'n ei wahardd rhag cysylltu gyda'r dioddefwr na mynd i ardal Deiniolen.

'Canmol dewrder y dioddefwr'

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Saran Henderson o Heddlu Gogledd Cymru: 鈥淔yddwn ni ddim yn goddef ymddygiad treisgar ac anfaddeuol tuag at fenywod.

鈥淩wy鈥檔 canmol dewrder y dioddefwr am ei rhan yn yr ymchwiliad yma.

鈥淒ydi hi ddim yn hawdd codi llais yn dilyn digwyddiadau domestig, ond byddwn bob amser yn gwneud ein gorau i ymchwilio鈥檔 llawn i unrhyw adroddiad a dod 芒 throseddwyr o flaen eu gwell.鈥