C'mon Midffîld: Canfod ffrog 'eiconig' Wali ar ôl 30 mlynedd

Ffynhonnell y llun, S4C/Rondo

Disgrifiad o'r llun, Mae'r ffrog a ymddangosodd yn y gyfres yn 1992 wedi'i chanfod ar Ynys Môn
  • Awdur, Carwyn Jones
  • Swydd, Gohebydd ³ÉÈË¿ìÊÖ Cymru

Mae un o wisgoedd eiconig cyfres boblogaidd C'mon Midffîld wedi’i chanfod dros dri degawd yn ddiweddarach, a bellach am gael bywyd newydd.

Cafodd pennod gyntaf y gyfres C'mon Midffîld ei darlledu ar 18 Tachwedd 1988 ar S4C - cyfres sydd wedi dal dychymyg nifer o Gymry dros y blynyddoedd.

Cafodd ffrog fawr ei gwisgo gan y diweddar Mei Jones yn y bennod ‘Fe Gei Di Fynd i’r Bôl’ yn 1992 - pennod oedd yn dilyn hynt a helynt y cymeriadau mewn pantomeim Nadolig.

Bellach, mae’r ffrog wreiddiol a wisgodd Mei Jones - oedd yn chwarae rhan Wali Tomos - wedi’i chanfod a'i phrynu gan griw Theatr Fach Llangefni ar Ynys Môn, ac am gael bywyd newydd yn eu pantomeim nhw eleni.

Canfod 'trysor'

Catrin Angharad Jones sy'n cael y dasg o gyfarwyddo pantomeim Theatr Fach Llangefni eleni, a dywedodd fod y ffrog eiconig yn "drysor".

"Mi ddaru 'na siop wisg ffansi leol benderfynu bod nhw'n gwerthu eu gwisgoedd a'u bod nhw'n dod i ben ar ôl blynyddoedd," meddai.

"Mi 'nes i weld ambell i bost arlein ganddyn nhw bod 'na ddillad ar werth.

"Es i draw a gweld tair ffrog dame ar werth... yn ddiarwybod i mi, roeddwn i wedi gafael yn y tair ffrog, ac un o'r tair oedd ffrog Mei Jones - un Wali Tomos o'r bennod honno.

"Mae'n rhaid i mi gyfadda', 'nes i'm sylwi am eiliad mai honno oedd y ffrog.

"Be' 'nes i oedd tynnu lluniau ohonyn nhw a rhannu nhw wedyn efo'r cast a holi beth oedd pawb yn feddwl a gofyn os dyliwn i fynd yn ôl a'u prynu nhw."

Disgrifiad o'r llun, Catrin Angharad Jones sy'n cyfarwyddo pantomeim Theatr Fach Llangefni eleni

Ar ôl rhannu'r lluniau o'r ffrogiau gyda'r cast, daeth yn amlwg fod y criw wedi darganfod darn o hanes.

Ychwanegodd Catrin: "Dyma un aelod o'r cast yn dweud 'mam bach Catrin - wyt ti'n sylweddoli bo' chdi wedi gadael ffrog Wali Tomos ar ôl yn y siop?'"

Aeth y criw yn ôl i'r siop wisg ffansi er mwyn ei phrynu.

Roedd y ffrog yn golygu cymaint i gast a chriw Theatr Fach Llangefni.

Dywedodd Catrin: "Mi oedd pawb yn fud yn sbïo arni a jest yn edmygu a methu coelio bod hi yma - ffrog Wali Tomos, Mei Jones yr hogyn o Fôn yma yn Theatr Fach, a'i bod hi wedi bod yn gudd mor hir yn y siop wisg ffansi."

Bwriad y criw ydy arddangos y ffrog er mwyn i'r cyhoedd gael ei gweld hi yn y dyfodol.

'Mi fasa Mei Jones wrth ei fodd'

Alun Ffred Jones oedd yn gyfrifol am greu cyfres C'mon Midffîld gyda Mei Jones.

Roedd hefyd yn gynhyrchydd a chyfarwyddwr y gyfres.

Wrth ymateb i ddarganfyddiad y ffrog, dywedodd fod y darganfyddiad yn "wych iawn, iawn, a llongyfarchiadau mawr i'r gwyliwr llygadog".

"Mi fasa Mei Jones wrth ei fodd... mi fasa fo'n falch iawn, iawn bod rhywun wedi adnabod y ffrog rhywsut neu'i gilydd.

"Beth sy'n fy syfrdanu i ydy bod pobl ifanc - ifanc iawn weithiau - yn gwybod y geiriau ac yn gwybod y sgriptiau, yn llawer iawn gwell na fi."

Disgrifiad o'r llun, Cast pantomeim Theatr Fach Llangefni yn cyfarfod Alun Ffred (pedwerydd o'r dde)

Cafodd y bennod 'Fe Gei Di Fynd i'r Bôl' ei ffilmio yn neuadd Rhosgadfan yng Ngwynedd.

Dywedodd Alun Ffred: "Dwi'n cofio ei gwneud hi.

"Mi oeddan ni'n neuadd Rhosgadfan, lle'r oeddan ni hefyd yn ffilmio [golygfeydd] y pwyllgor yn yr ystafell gefn. Neuadd sydd bellach wedi llosgi i'r llawr.

"Dwi'n cofio 'mod i ychydig yn amheus o'r syniad o wneud y bennod achos mae gofyn i actorion proffesiynol actio fel tasa' nhw methu actio yn beryg bywyd, achos maen nhw wedyn yn mynd dros ben llestri ac yn actio'n wirion.

"Dwi'n cofio ni'n cael y drafodaeth yna.

"Ond nid fi sydd i ddweud os llwyddodd hi neu beidio. Dwi'n credu fod yr actorion wedi gwneud eu gwaith yn ddigon da."

'Yr anorac wedi gweld dyddiau gwell'

Helen Scarborough oedd yn gwerthu'r ffrog, a hi oedd yn gyfrifol am wneud y wisg eiconig ar gyfer y bennod.

Dywedodd: "Roedden nhw'n 'neud golygfa'r panto ochra' Caernarfon, ac fe ofynnon nhw i ni os allwn ni wneud gwisgoedd i'r cymeriadau - y dylwythen deg, y ddwy chwaer hyll ac ati.

"Roedd cyfle i ni fynd i gyfarfod yr actorion, cymryd eu mesuriadau ac roedden ni'n rhan o'r ymarferion ac yn gwnïo ambell beth ac yn gwneud newidiadau funud olaf i'r gwisgoedd."

Disgrifiad o'r llun, Helen Scarborough oedd yn gyfrifol am greu'r wisg i Mei Jones

Ychwanegodd: "Yn ogystal â'r ffrog, roedd o [Mei Jones] yn gwisgo beret ac anorac eiconig yn y gyfres.

"Roedd yr anorac wedi gweld dyddiau gwell, felly ges i'r cyfle i newid y leinin tu mewn iddi, gan gadw'r gôt yr un fath ar y tu allan - felly mi gafon ni ddod i adnabod y cast yn dda iawn."

Yn ogystal ag ambell wisg i'r bennod honno o C'mon Midffîld, roedd Helen yn creu gwisgoedd ar gyfer cyfresi adnabyddus eraill gan gynnwys Anturiaethau Jini Mê ar S4C.

Bellach mae Helen yn gwerthu'r dillad sydd ganddi, ac yn dod â'r cwmni i ben.

Disgrifiad o'r llun, Aelodau'r cast eleni yn ymarfer cyn y pantomeim

Richard Edwards sydd yn actio rhan y dame ym mhanto Theatr Fach Llangefni eleni, ac ef felly fydd yn gwisgo'r ffrog eiconig.

Dywedodd: "Fel un sydd wedi dilyn C'mon Midffîld ac yn ffan mawr o Wali ei hun, Mei Jones, mae'n fraint ofnadwy i mi.

"Dwi 'di bod allan o'r panto ers sawl blwyddyn, a dod yn ôl am un waith arall flwyddyn yma a ffeindio 'mod i'n cael gwisgo ffrog Walter Tomos ers 1992.

"Mae'n fraint mawr iawn a dwi wir yn edrych ymlaen. Dwi'n meddwl fod o'n bwysig iawn.

"Mae 'na lot fawr o gefnogwyr C'mon Midffîld, er toedd fy mhlant i ddim wedi cael eu geni ar y pryd, ond maen nhw'n gwybod bob gair.

"I'r ffrog ddod yma i Theatr Fach yn Llangefni, mae'n hynod o bwysig, nid yn unig i fy nghenhedlaeth i, ond i'r genhedlaeth nesa' hefyd.

"O feddwl bod hi wedi bod yn cuddio mewn atig ers cymaint o flynyddoedd, ac ar hap a damwain yn glanio'n Theatr Fach, mae'n codi 'nghalon i'n fawr iawn."