成人快手

Ydych chi'n gwybod beth yw rheolau tanio t芒n gwyllt?

  • Cyhoeddwyd

Yn 1976, cyflwynwyd deddf oedd yn golygu bod yn rhaid bod yn o leiaf 16 mlwydd oed i brynu t芒n gwyllt.

Aeth rhaglen Heddiw i holi barn pobl Rhydaman am y gyfraith newydd honno ar y pryd.

Disgrifiad,

Beth oedd gan bobl Rhydama i ddweud am gyflwyno deddf newydd i werthu t芒n gwyllt yn 1976?

Beth yw rheolau t芒n gwyllt heddiw?

Erbyn hyn, mae rheolau t芒n gwyllt yn llawer iawn llymach.

I ddechrau, mae'r isafswm oedran i brynu t芒n gwyllt wedi cynyddu i 18 mlwydd oed yn y DU.

Yn ogystal, mae cyfyngiadau ar yr amseroedd y mae modd tanio t芒n gwyllt hefyd.

Ni ddylai pobl danio t芒n gwyllt rhwng 23:00 a 07:00, gydag ambell eithriad sef Noson T芒n Gwyllt, lle mae'r cyfyngiad yn cael ei ymestyn awr i 00:00.

Ceir eithiriadau eraill ar Nos Galan, Diwali a Blwyddyn Newydd Tsieiniaidd lle mae hawl gan unigolion i danio t芒n gwyllt tan 01:00.

Yn 么l y gyfraith, ni ddylech danio t芒n gwyllt ar y stryd na mewn mannau cyhoeddus ac mae hynny'n cynnwys tanio sbarclyrs.

Ffynhonnell y llun, SolStock

Mae'n rhaid i siopau fod wedi cofrestru i werthu t芒n gwyllt a sbarclyrs at ddefnydd preifat.

Yn ogystal 芒 hynny, dim ond rhwng dyddiadau penodol y mae ganddyn nhw hawl eu gwerthu nhw sef:

  • 15 Hydref hyd at 10 Tachwedd

  • 26-31 Rhagfyr

  • Tridiau cyn Diwali a'r Flwyddyn Newydd Tsiein茂aidd

Er mwyn prynu t芒n gwyllt ar gyfer achlysuron eraill mae'n rhaid eu prynu gan siopau sydd 芒 thrwydded arbennig i'w gwerthu.

Ffynhonnell y llun, SOPA Images

Cosb

Mae'r gosb am werthu t芒n gwyllt yn anghyfreithlon yn ddirwy ariannol amhennodol neu'n gyfnod o chwe mis yn y carchar.

Gallai torri'r cyfreithiau hyn hefyd olygu dirwy o 拢90 yn y fan a'r lle.