'Siom gweld rygbi Cymru yn y penawdau am y rhesymau anghywir'

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae'n "siomedig" gweld rygbi Cymru yn y newyddion "am y rhesymau anghywir", yn dilyn honiadau o rywiaeth yn Undeb Rygbi Cymru (URC), meddai gweinidog yn Llywodraeth Cymru.

Ddydd Gwener, ymddiheurodd URC am y ffordd y cafodd trafodaethau cytundeb t卯m y merched eu cynnal, a hynny lai na blwyddyn ers adolygiad annibynnol damniol i'w ddiwylliant.

Fe wnaeth Jack Sargeant, y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, gyfarfod gyda swyddogion URC dydd Llun.

Mae'n dweud ei fod eisiau cwrdd 芒鈥檙 chwaraewyr benywaidd hefyd er mwyn 鈥渄eall yn uniongyrchol ganddyn nhw natur eu pryderon a gweld sut gallwn ni helpu pawb i symud ymlaen yn adeiladol鈥.

Mae'n dweud y bydd URC yn "edrych i gyfarfod 芒'r chwaraewyr yn fuan i gyhoeddi ymddiheuriad".

Disgrifiad o'r llun, Mae Jack Sargeant wedi mynegi ei 鈥渟iom fod rygbi Cymru yn y penawdau am y rhesymau anghywir鈥

Yn y cyfarfod gydag URC dydd Llun, dywedodd y gweinidog ei fod wedi mynegi ei 鈥渟iom fod rygbi Cymru yn y penawdau am y rhesymau anghywir鈥.

Dywedodd: "Dros y dyddiau nesaf, byddaf yn ceisio deall safbwyntiau amrywiol ar y broses hon a bodloni fy hun bod gwersi'n cael eu dysgu."

Yn y cyfarfod fe wnaeth Mr Sargeant gwrdd 芒 Chadeirydd Undeb Rygbi Cymru, Richard Collier-Keywood, Prif Swyddog Gweithredol, Abi Tierney, a Nigel Walker, Cyfarwyddwr Gweithredol Rygbi.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Cerys Hale 49 o gapiau i Cymru cyn iddi ymddeol ym mis Gorffennaf 2024

Mae'r cyn-chwaraewr Cerys Hale, a gafodd 49 o gapiau i Gymru, yn gobeithio bod y chwaraewyr wedi derbyn eu hymddiheuriad olaf gan URC ar 么l cael eu "gadael i lawr" eto gan y corff llywodraethu.

Mae arweinwyr yr undeb wedi cyfaddef bod methiannau yn y broses, a dweud ei bod hi鈥檔 鈥済wbl amlwg鈥 y dylai'r bwrdd ymddiheuro.

Mewn e-bost, a welwyd gan y 成人快手, roedd hi'n ymddangos bod chwaraewyr dan fygythiad o gael eu tynnu鈥檔 么l o gystadleuaeth WXV2 a Chwpan y Byd y flwyddyn nesaf wrth i鈥檙 trafodaethau chwalu.

Cafodd y chwaraewyr "gynnig olaf" ar 2 Awst, a rhybudd na fyddai gemau yn erbyn Seland Newydd, yr Alban ac Awstralia yn mynd yn eu blaenau ac y byddai鈥檙 cytundebau鈥檔 cael eu tynnu鈥檔 么l os nad oedden nhw'n arwyddo o fewn tair awr.

'Gosod sylfaen i'r dyfodol'

鈥淩wy鈥檔 siarad 芒 nifer o鈥檙 chwaraewyr, roeddwn yn ymwybodol eu bod yn cael amser caled ac yn ei chael hi鈥檔 anodd braidd yn emosiynol o ganlyniad i hynny,鈥 meddai Hale.

"Mae wedi bod yn gyfnod anodd iddyn nhw ac o'n i'n meddwl eu bod wedi troi tudalen yn mynd i mewn i'r WXV a'u bod wedi datrys y sefyllfa, ond yn amlwg mae'n debyg nad oedd y cyfan wedi ei wneud yn y ffordd iawn."

Ychwanegodd: 鈥淩ydyn ni mewn sefyllfa wahanol i'r dynion sydd wedi cael profiad o drafod cytundebau dros eu gyrfaoedd, ond roedd yn beth newydd i ni.

"Felly pan gawsom ni ein cytundebau am y tro cyntaf roedden ni'n hapus iawn, ond yna roedden ni wir eisiau i'r broses i fod yn un lle gallwn ni osod sylfaen ar gyfer ein cytundebau wrth symud ymlaen, i arbed y genhedlaeth nesaf rhag gorfod brwydro dros bethau fel y polisi mamolaeth, ac ati."

Dywedodd URC ei fod wedi cychwyn adolygiad annibynnol o'r broses ac y bydd yn cyhoeddi'r argymhellion.