成人快手

Merch yn y llys ar 么l 'trywanu merch arall bum gwaith'

Llysoedd Merthyr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth y ferch ymddangos mewn gwrandawiad byr yn Llys Ynadon Merthyr ddydd Llun

  • Cyhoeddwyd

Mae merch 14 oed wedi ymddangos yn y llys wedi'i chyhuddo o geisio llofruddio ac o fod 芒 chyllell yn ei meddiant.

Clywodd gwrandawiad byr yn Llys Ynadon Merthyr Tudful ei bod yn cael ei honni iddi drywanu merch arall bum gwaith gyda chyllell mewn ymosodiad nos Iau yn ne Powys.

Cafodd ei harestio yn ei chartref am 02:30 y bore wedyn.

Dywedodd y barnwr Stephen Harmes o ystyried difrifoldeb y cyhuddiadau fod yn rhaid trosglwyddo鈥檙 achos i Lys y Goron.

Mae鈥檙 heddlu yn apelio am wybodaeth yn dilyn y digwyddiad ym mhentref Coelbren ger Ystradgynlais.

Cafodd y ferch arall ei chludo i鈥檙 ysbyty gydag anafiadau difrifol, ble mae hi'n parhau mewn cyflwr sefydlog.

Clywodd y llys ei bod wedi dioddef anafiadau i'w arennau, bol, brest, gwddf a'i wyneb.

Does dim modd enwi鈥檙 ddwy ferch am resymau cyfreithiol.

Mae disgwyl i'r ferch sydd wedi'i chyhuddo ymddangos o flaen Llys y Goron Abertawe ar 18 Rhagfyr.