Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Caerdydd yn paratoi i groesawu'r gantores Pink
- Awdur, Megan Davies
- Swydd, Gohebydd 成人快手 Cymru
Bydd Caerdydd yn troi鈥檔 binc ddydd Mawrth, wrth i ddegau o filoedd o bobl heidio i weld un o s锚r amlycaf y byd pop.
Mae鈥檙 gantores Pink yn cychwyn ei thaith Ewropeaidd, Summer Carnival, yn Stadiwm Principality heno.
Mae disgwyl i filoedd o bobl ymweld 芒鈥檙 brifddinas wrth i'r awdurdodau rybuddio y gallai teithwyr wynebu oedi ar draffordd yr M4, ac mae un gwasanaeth tr锚n o Gaerdydd wedi ei atal yn sgil gwaith adnewyddu.
Mae鈥檙 gantores, sydd yn enillydd tair gwobr Grammy, wedi dweud ei bod hi鈥檔 gyffrous iawn i fod yn 么l yng Nghymru.
Mi fydd y gantores wedyn yn mynd i Lundain, Dulyn, Lerpwl a Glasgow i berfformio cyn mynd i鈥檙 Unol Daleithiau ddiwedd yr haf.
Mae hi ymhlith rhai o enwau mawr y byd cerddoriaeth sydd wedi dewis ymweld 芒 Chymru eleni - mae'r rhestr hefyd yn cynnwys Taylor Swift a鈥檙 Foo Fighters.
Mae Julie Jones, 58, o Gaerfyrddin a鈥檌 ffrind Theresa Owen, 62, o Sancl锚r wedi teithio i Gaerdydd i wylio Pink am y tro cyntaf.
Mae Julie鈥檔 edrych ymlaen fwyaf at 鈥渨eld yr acrobats鈥, a Theresa yn cytuno.
鈥淣i 鈥榙i wotcho hi ar y we yn barod, mae鈥檔 ffantastig,鈥 meddai.
鈥淔i鈥檔 ffaelu aros i weld hi.鈥
Mae Madison, 13, a Caitlin, 14, hefyd wedi teithio o Sir Gaerfyrddin i weld Pink mewn cyngerdd am y tro cyntaf, ac yn edrych ymlaen yn fawr.
鈥Trustfall yw hoff g芒n fi,鈥 meddai Madison.
Ychwanegodd Caitlin: 鈥淔i鈥檔 hoffi pob c芒n sydd ganddi.鈥
Amserlen y noson
Mi fydd gatiau鈥檙 stadiwm yn agor am 16:00 gyda disgwyl i fand cyntaf y noson, KidCutUp, ddechrau perfformio am 17:30.
Mae Pink wedyn yn cael cefnogaeth Gayle am 18:15 a band The Script am 19:05, cyn iddi hi ddechrau perfformio am 20:25.
Y disgwyl yw y bydd y gantores ar y llwyfan am ddwy awr gyda tho y stadiwm ynghau.
Mae鈥檙 tocynnau i gyd wedi eu gwerthu ond mae rhai ar gael yn ail-law sy'n costio rhwng 拢155 a 拢372.
Y cyngor, yn 么l rheolwyr y stadiwm, yw y dylai pobl gael ap tocynnau penodol ar eu ffonau symudol cyn cyrraedd.
Maen nhw hefyd yn dweud na ddylai pobl gario bag sy鈥檔 fwy na maint darn o bapur A4.
Cyrraedd y gyngerdd
Y cyngor i gefnogwyr Pink ydy cerdded, seiclo neu gyrraedd y cyngerdd ar drafnidiaeth gyhoeddus pan fo hynny'n bosib.
Mae pobl yn cael eu cynghori i edrych ar amserlenni bysys o fewn y ddinas a hynny oherwydd bod strydoedd ar gau a threfniadau arferol wedi eu haddasu.
Mi fydd Heol Scott a Stryd y Parc ar gau o 07:00, gyda heolydd eraill yn cau am 15:00 tan ganol nos, gan gynnwys Heol y Porth (Westgate Street), Stryd Wood a Heol Ddwyreiniol y Bont-faen (Cowbridge Road East).
Y disgwyl yw y bydd traffordd yr M4 hefyd yn brysur iawn, ac mae'r awdurdodau'n annog gyrwyr i edrych ar y sefyllfa traffig ar-lein cyn cychwyn ar eu teithiau.
Yn 么l Trafnidiaeth Cymru, y disgwyl yw y bydd gwasanaethau tr锚n yn brysur iawn, er y bydd capasiti ychwanegol i fewn ac allan o Gaerdydd lle mae'n bosib.
Mae Cyngor Caerdydd yn rhedeg gwasanaeth parcio a theithio o 09:00 ymlaen, lle bydd modd i bobl adael eu ceir ger Stadiwm Dinas Caerdydd yn Lecwydd a theithio ar fws i鈥檙 ardal gyferbyn 芒 Stadiwm Principality.
I eraill, mi fydd cyfle i dalu i barcio yng Ngerddi Sophia a Chanolfan Ddinesig Caerdydd.