成人快手

Y Seintiau Newydd allan o Gynghrair y Pencampwyr

Seintiau NewyddFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae'r Seintiau Newydd allan o rowndiau rhagbrofol Cynghrair y Pencampwyr ar 么l cael cweir gan bencampwyr Hwngari, Ferencv谩ros.

Roedd y Seintiau eisoes wedi colli cymal cyntaf yr ail rownd ragbrofol 5-0 oddi cartref yr wythnos ddiwethaf.

Ferencv谩ros oedd yn fuddugol yn yr ail gymal yn Neuadd y Parc yng Nghroesoswallt nos Fawrth hefyd, a hynny o 2-1, gan olygu ei bod hi'n 7-1 ar gyfanswm goliau.

Sgoriodd Kristoffer Zachariassen i roi'r ymwelwyr ar y blaen nos Fawrth, cyn i Philippe Rommens ddyblu'r fantais o'r smotyn.

Sgoriodd Josh Daniels g么l gysur i'r t卯m cartref yn ystod y ddwy funud o amser ychwanegol, ac roedd y Seintiau'n haeddu g么l yn dilyn perfformiad mwy cyfartal yn yr ail gymal.

Ond dyw'r golled ddim yn golygu bod ymgyrch Ewropeaidd pencampwyr Cymru ar ben.

Mae nhw nawr yn symud i drydedd rownd ragbrofol Cyngrair Europa a'u gwrthwynebwyr nesaf fydd pencampwyr Moldofa, Petrocub, ar 8 Awst.

Bydd Caernarfon yn herio Legia Warsaw y Stadiwm Nantporth Bangor nos Iau yn ail gymal ail rownd rhagbrofol Cyngres Uefa, wedi iddyn nhw hefyd gael colled drom yn y cymal cyntaf.