Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Yw hi'n deg i bobl weithio'n hybrid o gaffis?
Ydych chi erioed wedi gweithio'n hybrid o gaffi?
Mae rhai busnesau yn dweud fod cwsmeriaid yn gallu cymryd mantais wrth wneud hyn, drwy beidio prynu llawer a threulio sawl awr yno.
Ond i un sy'n defnyddio'r caffi i weithio, dywedodd ei fod yn gyfle i newid "awyrgylch" gwaith.
Uchelgais Llywodraeth Cymru yw gweld 30% o weithwyr Cymru yn rhai sy'n gweithio o bell.
'Llwyth o bobl' yn dod i weithio yn y caffi
Dywedodd Olivia, sy'n gweithio yng nghaffi Ground Bakery yng Nghaerdydd, fod "llwyth o bobl yn dod yma i weithio" ond ychwanegodd eu bod yn "eithaf teg yn prynu bwyd".
"Ar y penwythnos 'da ni'n eitha' busy so weithie ma' rhaid ni cicio pobl mas," meddai.
Dywedodd fod rhai pobl yn "cymryd y mick" ac yn peidio 芒 phrynu llawer yn y caffi ac yn aros yno am oriau yn gweithio.
"Ma' pobl yn dueddol o brynu un black coffee am 拢2.95 ac yna maen nhw'n eistedd 'na am ddwy awr yn 'neud dim byd."
Roedd Poppy Davies, sy'n gweithio yng Nghaffi Ffloc yn Nhreganna, o'r farn nad oes angen polisi er mwyn atal pobl rhag gweithio'n hybrid mewn caffis.
"'Da ni'n cael eithaf lot o bobl yn dod fan hyn, yn gweithio ar laptops nhw neu yn cymryd phone calls," meddai.
Er hyn, dywedodd nad ydyn nhw'n cael llawer o broblemau yno a bod eu cwsmeriaid yn deg.
"Does dim lot o broblemau, mae pobl yn eithaf chilled achos mae'r atmosphere yn eithaf neis," meddai.
"Mae pobl yn eithaf teg fan hyn oherwydd ma' gen ti lot o regulars, so pobl ti'n gwybod bydd ddim yn cymryd y mick."
Dywedodd mai'r oll maen nhw eisiau yw i "bobl fod yn deg".
Mae gan Lywodraeth Cymru uchelgais o weld 30% o weithwyr Cymru yn rai sy'n gweithio o bell.
Fe ddangosodd Arolwg Cenedlaethol Cymru fod 33.9% o'r gweithlu yn gweithio o bell rhwng 2022 a 2023, gyda'r ffigwr ar ei uchaf yn y de ddwyrain - 37.7% ac ar ei isaf yn y gogledd - 28.1%.
Ond i'r rheiny sy'n dod i'r caffis i weithio, mae'n gyfle i "newid amgylchedd" gwaith.
Dywedodd Lara, sy'n defnyddio'r caffis fel lle i weithio ar ei busnes iechyd meddwl a phodlediad, ei bod yn "trin y coffi fel rhent ac yn sicrhau 'mod i'n prynu mwy yn hytrach na jyst un a phara oriau achos ma' hynny'n unfair".
Roedd o'r farn ei fod yn deg i'r cwsmer orfod prynu coffi pob ryw awr a hanner, "ond dwi ddim ishe gorwneud hi ar y caff卯n so ma' rhaid i fi gael bach o balance".