成人快手

Gwasgaru llwch anwyliaid ar safle hanesyddol 'ddim yn syniad da'

Bryn Celli DduFfynhonnell y llun, Jeff Buck/Geograph
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Bryn Celli Ddu yn un o safleoedd Neolithig mwyaf nodedig Prydain

  • Cyhoeddwyd

Mae penaethiaid Cadw yn pryderu bod cymaint o bobl yn mynd i un o鈥檜 safleoedd hanesyddol ar Ynys M么n i wasgaru llwch eu hanwyliaid.

Ers y cyfnod clo mae cynnydd wedi bod yn nifer y bobl sy鈥檔 ymddiddori yn eu treftadaeth.

Un sgil effaith ydy bod mwy yn mynd 芒 gweddillion y meirw i siambr gladdu hynafol Bryn Celli Ddu - yn aml heb ganiat芒d.

Mae鈥檙 safle, ger Llanddaniel Fab, yn un o brif leoliadau Oes y Cerrig sy鈥檔 cael ei reoli gan Cadw.

'Chydig bach o broblem'

Ers blynyddoedd mae wedi dod yn lle poblogaidd er mwyn gweld yr haul yn gwawrio ar ddiwrnod hirddydd haf, gyda defodau gan Dderwyddon M么n yn cael eu cynnal yno.

Ar raglen Beti a鈥檌 Phobol ar 成人快手 Radio Cymru fe ddywedodd yr archeolegydd Dr Ffion Reynolds bod y cyhoedd wedi ail-gysylltu gyda ll锚n gwerin ers iddyn nhw orfod aros yn lleol yn ystod y pandemig.

鈥淢ae ein safleoedd ni, ein safleoedd cyn hanesyddol ni, yn lot, lot fwy poblogaidd nag oedden nhw 10 mlynedd yn 么l," meddai.

鈥淓r enghraifft Bryn Celli Ddu, 10 mlynedd n么l roedden ni鈥檔 cael tua 10,000 o bobl y flwyddyn. Nawr ni鈥檔 cael 30 [mil], so mae 'na lot mwy o bobl yn dod.

鈥淥nd un o鈥檙 pethau sy鈥檔 ddiddorol ydy bod pobl yn dod a gadael gweddillion yna a weithia' ti angen dysgu pobl mae hynny ddim rili yn mynd i fod yn syniad da achos mae鈥檙 henebion yma yn cael eu defnyddio fel henebion i bobl ddod fel safleoedd twristiaeth.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Dr Ffion Reynolds yn sgwrsio am ei gwaith gyda'r cyflwynydd Beti George

Ychwanegodd Ms Reynolds, sy鈥檔 uwch reolwr digwyddiadau treftadaeth a chelfyddydau Cadw, bod pobl yn 鈥済adael gweddillion teuluol - llwch - heb ganiat芒d鈥.

鈥淢ae o鈥檔 'chydig bach o broblem," meddai.

"Mae o jest achos mae鈥檙 safleoedd yma yn llefydd twristiaeth - maen nhw ddim yn llefydd sanctaidd felly dy鈥檔 nhw ddim yn cael eu delio fel llefydd sanctaidd.

"Ar 么l y pandemig mae lot fwy o ddiddordeb, ac un o鈥檙 pethe sy鈥檔 dod mas yw hynne."