成人快手

Starmer am weld Cymru 'wrth galon' cynlluniau ynni gl芒n

Syr Keir Starmer ac Eluned MorganFfynhonnell y llun, PA Media
  • Cyhoeddwyd

Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig am weld Cymru wrth galon yr ymdrech i ddatblygu ynni gl芒n.

Fe wnaeth Syr Keir Starmer ymweld 芒 fferm wynt yn Sir Gaerfyrddin gyda Phrif Weinidog Cymru, Eluned Morgan fore Mawrth.

Dyma ail ddiwrnod ei ymweliad 芒 Chymru ar 么l iddo gyfarfod 芒 Ms Morgan ddydd Llun am y tro cyntaf ers iddi gael ei hethol yn brif weinidog.

Blaenoriaeth y ddau ydi cydweithio a buddsoddi mewn ynni gl芒n er mwyn rhoi hwb i'r economi, creu swyddi a chryfhau gallu'r Deyrnas Unedig i gynhyrchu ynni yn annibynnol.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth Syr Keir gyfarfod 芒 Ms Morgan ac Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens yng Nghaerdydd ddydd Llun

Wrth ymweld 芒 fferm wynt ger Pencader - sydd wedi cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru - dywedodd Syr Keir Starmer y bydd yn parhau 芒 gwaith Llywodraeth Cymru i sefydlu cwmni ynni sydd mewn dwylo cyhoeddus.

Bwriad Syr Keir ydi gostwng biliau ynni ac ansicrwydd o ran prisiau drwy gyflwyno cynllun hir dymor i gynhyrchu ynni gl芒n erbyn 2030.

Llywodraeth Cymru sydd berchen ar gwmni 'Trydan Gwyrdd Cymru' a'r bwriad ydi sicrhau gwerth 1GW o b诺er gwyrdd ychwanegol yng Nghymru erbyn 2040.

Bydd hyn yn ddigon i gyrraedd anghenion hyd at filiwn o gartrefi ac yn gostwng biliau yn y tymor hir.

Mae'r cwmni鈥檔 canolbwyntio鈥檔 bennaf ar ynni gwynt ar y tir.

Dywedodd Syr Keir Starmer: "Rydyn ni wedi etifeddu polisi ynni sydd wedi gadael cartrefi yn agored i filiau ynni uchel.

"Ond mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau pwysig ac rydw i'n benderfynol y bydd Cymru wrth galon ein gwaith i sicrhau fod y DU yn flaengar ym maes ynni gl芒n.

Ffynhonnell y llun, PA Media

'Cymunedau lleol yn elwa'

Dywedodd Eluned Morgan: "Tra bod Llywodraeth flaenorol y DU wedi canolbwyntio ar ffracio a thannwydd ffosil - oedd yn cael ei wrthwynebu gan y rhan fwyaf o gymunedau - fe benderfynon ni ddatblygu cynlluniau amgylcheddol cadarnhaol.

"Mae manteisio ar ein gwynt a'i ddefnyddio i gynhyrchu p诺er yn golygu bod gan Gymru'r gallu i fanteisio ar yr hyn fydd yn fuddsoddiad arwyddocaol."

Mewn cyfweliad ar raglen GB News dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens fod ymweliad Syr Keir "yn dangos y gall Llywodraethau Cymru a San Steffan gydweithio i sicrhau bod yna sicrwydd ynni, i ostwng biliau ac i greu swyddi newydd drwy ynni gwyrdd".

Mynnodd y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn canolbwyntio ar "bob math o ynni adnewyddadwy" ac ar brosiectau sy'n golygu bod cymunedau lleol yn elwa o'r gwaith.

Ychwanegodd fod y safle mae Syr Keir Starmer ac Eluned Morgan wedi ymweld ag o ddydd Mawrth "yn un o'r prosiectau hynny lle mae'r gymuned leol yn elwa drwy gael gostyngiad yn eu biliau".

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu Syr Keir hefyd yn trafod dyfodol swyddi yn ffatri Tata ym Mhort Talbot

Yn ystod yr ymweliad, cafodd Syr Keir ei holi am ddyfodol ffatri Tata Steel ym Mhort Talbot, lle mae disgwyl i 2,800 o bobl golli eu swyddi.

"Dydw i ddim eisiau rhoi addewid gwag i unrhyw un ond dydw i ddim yn mynd i roi'r gorau i geisio diogelu gymaint y swyddi ag y gallwn ni," meddai.

"Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n cynhyrchu dur yn ne Cymru ac mae'n bwysig iawn bod y llywodraeth wedi ymrwymo i hynny.

"Mae'n amser anodd ond byddwn ni'n gwneud popeth allwn ni i ddiogelu'r swyddi."