成人快手

Dim cwest i farwolaethau glofa'r Gleision tan 2026

Charles Breslin, David Powell, Philip Hill a Garry JenkinsFfynhonnell y llun, Lluniau teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu farw Charles Breslin, David Powell, Philip Hill a Garry Jenkins pan lifodd d诺r i lofa'r Gleision

  • Cyhoeddwyd

Bydd yn rhaid i deuluoedd pedwar dyn a fu farw mewn glofa yng Nghastell-nedd Port Talbot dros 13 mlynedd yn 么l aros tan 2026 am atebion o ran union achos y trychineb.

Bu farw Charles Breslin, 62, David Powell, 50, Phillip Hill, 44, a Garry Jenkins, 39, pan ddaeth d诺r i mewn i lofa'r Gleision yng Nghilybebyll ym mis Medi 2011.

Roedden nhw ymhlith saith o lowyr oedd yn gweithio mewn twnnel a gafodd ei orlifo gan alwyni o dd诺r.

Yn 2022, yn dilyn ymgyrch hir, fe gafodd eu teuluoedd wybod y byddai cwest llawn yn cael ei gynnal i'w marwolaethau.

Mewn gwrandawiad cyn cwest yn Abertawe ddydd Gwener, fe ddaeth i'r amlwg na fydd hwnnw'n cael ei gynnal nawr tan o leiaf "ddechrau 2026".

Clywodd y gwrandawiad yn Neuadd y Ddinas, Abertawe bod yna "gymhlethdodau sylweddol" o ran dogfennau angenrheidiol.

Yn 么l cynrychiolydd y teuluoedd, Christian Howells, "mae'r Awdurdod Glo'n credu bod yna 75,000 o dudalennau o ddeunydd ysgrifenedig" sy'n bum gwaith yn fwy nag oedd wedi ei amcangyfrif.

Dywedodd y Crwner Edward Ramsay fod "rhaid symud ymlaen gyda'r cwestau hyn yn gyflym", a bydd y broses yn un "llawn, teg a di-ofn".

Ychwanegodd: "Gallaf roi sicrwydd i'r teuluoedd na fydd unrhyw beth rhad ynghylch yr ymchwiliad yma.

"Mae'r cwestau hyn angen ffocws fforensig a manwl [i gadarnhau] o ble ddaeth y d诺r ac a wyddai unrhyw un ei fod yna.

"Rwy'n benderfynol o gadarnhau a allai'r dogfennau yma helpu ateb yn llawn sut, yn drasig, y bu farw'r dynion yma."

Ffynhonnell y llun, Gwasanaeth Erlyn Y Goron
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyfarnodd rheithgor yn 2014 bod rheolwr a pherchnogion y lofa'n ddieuog o ddynladdiad

Dywedodd Nicholas Moss KC, sy'n cynghori'r Crwner, fod swmp y dogfennau "yn heriol iawn", ac mae tri chwnsler iau wedi eu penodi i helpu gyda'r llwyth gwaith.

Clywodd y gwrandawiad fod yna oedi hefyd oherwydd cysylltiad personol rhwng y crwner blaenorol ac aelod o deulu person sy'n gysylltiedig 芒'r achos.

Clywodd hefyd am "fater dyrys" y feirniadaeth sydd wedi bod o'r ymchwiliad cychwynnol wedi'r digwyddiad.

Dywedodd Mr Moss y bydd angen penderfynu a ddylai'r crwner ystyried cymhelliad y sawl fu'n rhan o'r ymchwiliadau hynny, gan ofyn: "A fu ymgais bwriadol i gelu'r hyn oedd wedi digwydd?"

Dywedodd y crwner fod unrhyw asesiad ar hyn o bryd yn "gynamserol".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd gweddw Charles Breslin, Mavis, ei bod yn "ddiolchgar" fod rhywfaint o gynnydd wedi ei wneud yn y broses

Dywedodd gweddw Charles Breslin ei bod "yn ddiolchgar bod pethau o leiaf yn dechrau symud nawr".

Ond fe ychwanegodd Mavis Breslin ei bod "wedi dechrau meddwl, yn fy oedran i, a fyddai'n fyw i weld diwedd y cwest".

Yn 么l brawd-yng-nghyfraith David Powell, John Kelvin-Davies, roedd gwrandawiad dydd Gwener "yn dipyn o agoriad llygad".

"Mae gyda ni ddwy flynedd arall cyn i ni gael cwest, ond o leiaf mae yna olau ar ddiwedd y twnnel.

"Mae wedi bod yn gyfnod hir iawn o aros ac mae'n achos cymhleth iawn... mae wedi bod yn galed i'r teuluoedd."

Bydd cael atebion ar ddiwedd y broses, ychwanegodd, "yn ryddhad mawr i'r teuluoedd".

Cwestau dan arweiniad barnwr?

Does dim penderfyniad eto ychwaith a fydd y cwest yn cael ei gynnal dan arweiniad barnwr.

Dyna ddylai ddigwydd ym marn y teuluoedd, dywedodd Christian Howells, oherwydd cymhlethdod a hanes y digwyddiad, a'r diddordeb cyhoeddus.

Mae'r Awdurdod Glo a'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi gwrthwynebu'r posibilrwydd.

Mae perchnogion y lofa, MNS Mining LTD, Heddlu De Cymru a Chyngor Castell-nedd Port Talbot yn niwtral o ran y mater.

Dywedodd y Crwner y bydd yn ystyried y cyflwyniadau.

Bydd yna ragor o wrandawiadau cyn cwest yn 2025, cyn y cwest llawn yn 2026.

Pynciau cysylltiedig