Cyhuddo dau fachgen ar 么l i ferch 12 oed gael ei thrywanu

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r heddlu wedi cyhuddo dau fachgen ar 么l i ferch 12 oed gael ei thrywanu yn Ynys y Barri dros y penwythnos.

Dywedodd Heddlu De Cymru fod disgwyl i'r bechgyn, 13 a 15 oed, ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd fore Mawrth wedi'u cyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol bwriadol.

Nid oes modd enwi'r bechgyn oherwydd eu hoedran.

Cafodd yr heddlu eu galw tua 17:00 ddydd Sul yn dilyn adroddiad o ymosodiad ger maes parcio Heol yr Harbwr, Ynys y Barri.

Fe wnaeth y ferch ddioddef sawl anaf o ganlyniad i'w thrywanu, ac mae'n parhau yn yr ysbyty.

Dywedodd yr heddlu nad yw ei hanafiadau yn rhai sy'n peryglu ei bywyd.