成人快手

Gwaith Metro De Cymru i amharu ar deithiau tr锚n

Trenau Metro De CymruFfynhonnell y llun, Trafnidiaeth Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Trafnidiaeth Cymru y bydd Metro De Cymru yn ffordd "fodern, effeithlon a chynaliadwy" o deithio

  • Cyhoeddwyd

Mae teithwyr ar drenau yn y de yn cael eu hannog i wirio eu teithiau wrth i waith ddechrau ar gymal nesaf Metro De Cymru.

Bydd gorsaf Heol y Frenhines yng Nghaerdydd - pedwaredd orsaf brysuraf Cymru - yn cau ddydd Sul ar gyfer dechrau'r gwaith peirianyddol.

Fe fydd hynny yn effeithio ar nifer o wasanaethau o dro i dro tan fis Tachwedd.

Dywedodd Trafnidiaeth Cymru (TC) y bydd Metro De Cymru yn ffordd "fodern, effeithlon a chynaliadwy" o deithio.

Ffynhonnell y llun, Trafnidiaeth Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Map o'r Metro sy'n cael ei gyflwyno yn ne Cymru

"Bydd gwaith trawsnewid yn digwydd ar draws linellau'r cymoedd wrth baratoi ar gyfer Metro De Cymru, a'r llinellau sy'n cysylltu 芒 nhw," meddai llefarydd.

"Mae TC yn annog cwsmeriaid i wirio eu teithiau, gan y bydd bysiau yn rhedeg yn lle trenau mewn rhai llefydd."

Beth ydy Metro De Cymru?

Mae'n wasanaeth trafnidiaeth integredig sy'n cynnwys trenau, tramiau a bysiau, ac mae'n cael ei adeiladu ar hyn o bryd yn y de-ddwyrain.

Mae prif ffocws y gwaith ar reilffyrdd "craidd" y cymoedd - rheiny sy'n cysylltu gyda Chaerdydd.

Mae'r rhain yn cael eu trydaneiddio, gyda'r nod yn y pendraw o osod 36 o drenau-tram newydd ar y rhwydwaith.

Mae rhai o'r rheiny mewn defnydd eisoes, gyda disgwyl iddyn nhw oll fod ar y traciau erbyn diwedd 2024.

Ffynhonnell y llun, Trafnidiaeth Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae rhai o'r trenau newydd eisoes yn cael eu defnyddio

Mae 40 o orsafoedd yn cael eu hailwampio hefyd.

Y gobaith, o fewn dwy flynedd, ydy y bydd modd i deithwyr anghofio am yr amserlenni traddodiadol oherwydd bod gwasanaethau mor gyson, gydag o leiaf un pob chwarter awr.

Sut fydd y gwaith yn effeithio ar wasanaethau?

Bydd gorsaf Heol y Frenhines yn cau ddydd Sul, a dyma'r "cyntaf o sawl gwaith peirianneg fydd yn cael effaith ar wasanaethau'r orsaf", medd Trafnidiaeth Cymru.

Mae disgwyl i'r orsaf fod ar gau eto rhwng 27 Hydref a 1 Tachwedd.

Ddydd Sul, bydd bysus yn rhedeg yn lle trenau ar amryw o wasanaethau o amgylch y brifddinas.

Mae disgwyl i ran gyntaf y gwaith ar Metro De Cymru gael ei gwblhau erbyn dechrau 2026.

Pynciau cysylltiedig