成人快手

Llywodraeth yn talu 拢19m o dreth corff amgylchedd Cymru

TirlunFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae CNC yn gyfrifol am reoli coedwigoedd, ymateb i lifogydd a rhoi trwyddedau amgylcheddol

  • Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru wedi talu 拢19m o fil treth yr asiantaeth amgylcheddol, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Daw yn dilyn ymchwiliad gan Gyllid a Thollau EF (CThEF) i'r ffordd y gwnaeth CNC gyflogi contractwyr arbenigol.

Dywedodd y dirprwy brif weinidog Huw Irranca-Davies bod y llywodraeth yn "cynyddu ei hymgysylltiad" 芒 CNC, ond yn 么l y Ceidwadwyr y dylai'r sefydliad gael ei chwalu.

Mae CNC yn parhau i fod mewn trafodaethau gyda CThEF yngl欧n 芒鈥檙 bil terfynol, a allai fod yn uwch.

Mae CNC yn gyfrifol am reoli coedwigoedd, ymateb i lifogydd a rhoi trwyddedau amgylcheddol.

Yn 么l cyfrifon blynyddol y sefydliad, roedd ymchwiliad gan CThEF wedi datgelu "cyfrifoldeb posib" yn ymwneud 芒 chontractwyr arbenigol.

Dywedodd CNC eu bod wedi talu'r 拢19m "heb dderbyn unrhyw gyfrifoldeb" am dreth incwm heb ei dalu, cyfraniadau Yswiriant Gwladol na'r ardoll prentisiaethau.

Mae'r arian hefyd i fod i dalu am daliadau llog, ond mae trafodaethau am gyfanswm terfynol y ddyled yn parhau gydag "ystod eang o werthoedd yn bosib".

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'n trafod sut y gall CNC ei ad-dalu pan fydd bil terfynol i CThEF.

Dywedodd CNC na allai ddarparu unrhyw fanylion pellach tra bo'r achos yn parhau.

Dywedodd Mr Irranca-Davies, sydd hefyd yn ysgrifennydd newid hinsawdd: "Rwyf wedi gofyn i fy swyddogion weithio gyda CNC i ddatblygu gwell trefniadau monitro i roi sicrwydd a hyder yn y trefniadau goruchwylio a rheoli risg ariannol a risg sydd ar waith.

"Rwyf hefyd wedi gofyn i gadeirydd CNC gymryd nifer o gamau i wella capasiti a gallu ymhellach o fewn CNC."

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig y dylai CNC gael ei ddiddymu.

Pynciau cysylltiedig