Dim cynlluniau i gau chweched dosbarth ysgolion Ceredigion am y tro
- Cyhoeddwyd
Mae'n ymddangos bod dyfodol pob chweched dosbarth yn ysgolion Ceredigion yn ddiogel am y tro wrth i'r cyngor sir atal cynnig i'w cau ar hyn o bryd.
Bydd cabinet Cyngor Sir Ceredigion yn cyfarfod ar 5 Tachwedd i drafod y camau nesaf wedi iddyn nhw gynnal adolygiad ar addysg 么l-16 yn y sir.
Ar hyn o bryd mae chwe ysgol yn y sir yn cynnig addysg chweched dosbarth - Ysgol Uwchradd Aberteifi, Bro Teifi yn Llandysul, Aberaeron, Bro Pedr yn Llanbedr Pont Steffan ac ysgolion Penweddig a Phenglais yn Aberystwyth.
Yn dilyn yr adolygiad cafodd dau gynnig eu cyflwyno ar gyfer ystyriaeth bellach sef Opsiwn 2 a fyddai'n datblygu'r sefyllfa bresennol, ac Opsiwn 4 a fyddai'n cau鈥檙 ddarpariaeth 么l-16 bresennol ac yn sefydlu Canolfan Ragoriaeth.
Beth yw'r cynigion?
Byddai Opsiwn 2 yn adeiladu ar y sefyllfa bresennol yng Ngheredigion gyda'r ddarpariaeth 么l-16 yn parhau ar y chwe safle presennol.
Byddai'r chwe bwrdd llywodraethu yn parhau 芒'u rolau presennol o ran llywodraethu hyd at 16 ond yn cytuno 芒'r awdurdod lleol i ffurfio Bwrdd Strategol a fyddai'n rheoli cyllideb 么l-16.
Byddai'r bwrdd yn sicrhau trefniadau addas ar gyfer cyd-gynllunio'r cwricwlwm ac yna comisiynu'r ddarpariaeth gan yr ysgolion, e-sgol a phartneriaid eraill.
Byddai'r Bwrdd Strategol yn cael ei gefnogi gan Fwrdd Gweithredol er mwyn gweithredu'r cynigion cwricwlaidd.
Y Bwrdd Strategol fyddai'n gyfrifol am fonitro ansawdd y ddarpariaeth a gwneud argymhellion i'r awdurdod lleol a'r darparwyr ar gyfer gwella.
Dros amser gallai'r argymhellion hyn gynnwys addasu nifer y safleoedd a'r hyn a ddarperir ar bob safle.
Byddai Opsiwn 4 yn cynnig newid mwy pellgyrhaeddol.
Byddai'n golygu cau'r ddarpariaeth 么l-16 bresennol a sefydlu Canolfan Ragoriaeth, a fyddai'n cynnwys amrywiaeth o bartneriaid, mewn un neu fwy o safleoedd daearyddol addas.
Corff llywodraethol sy'n annibynnol o'r ysgolion fyddai'n gyfrifol am y cyllid a'r cwricwlwm a byddai'n penodi nifer fach o staff craidd i lywio a rheoli'r gwaith.
Yn Hydref 2023 dywedodd Cyngor Ceredigion ei bod hi'n "glir" nad yw鈥檙 grant 么l-16 gan Lywodraeth Cymru yn ddigon i gynnal darpariaeth 么l-16 yn ei ffurf bresennol ac felly bod yn rhaid cyflwyno newidiadau.
Amcangyfrifwyd fod y gost o gynnal cyrsiau chweched dosbarth yn 2023-24 yn 拢4.2m - dros 拢400,000 yn fwy na鈥檙 grant chweched dosbarth gan Lywodraeth Cymru.
Yn y gorffennol mae rhai rhieni wedi mynegi eu pryderon am gael un ganolfan, ac roedd pryderon gan y gangen leol o Gymdeithas yr Iaith ac eraill y gallai鈥檙 ethos Cymraeg sy鈥檔 bodoli mewn chweched dosbarth gael ei golli.
Mae disgwyl i'r adroddiad a fydd yn mynd ger bron y cabinet ar 5 Tachwedd argymell y dylai'r cyngor gytuno mewn egwyddor i ddechrau'r broses o fabwysiadu Opsiwn 2 ar gyfer Medi 2026.
Ond mae yna argymhelliad iddyn nhw hefyd gymeradwyo'r cynnig i gynnal ymchwiliad pellach i Opsiwn 4 ar gyfer ystyriaeth fanylach.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2023