Angen 'mwy o waith' i ddeall effaith treth etifeddiaeth ar ffermydd

Disgrifiad o'r llun, Huw Irranca-Davies yn annerch cynhadledd NFU Cymru ddydd Iau
  • Awdur, Steffan Messenger
  • Swydd, Gohebydd amgylchedd 成人快手 Cymru

Mae鈥檙 dirprwy brif weinidog wedi dweud bod angen gwneud 鈥渕wy o waith鈥 i ddeall goblygiadau newid i dreth etifeddiaeth ar ffermydd Cymru.

Roedd yn wynebu cwestiynau gan ffermwyr yng nghynhadledd NFU Cymru yn Llandrindod, gydag un yn dweud wrtho y byddai鈥檙 sefyllfa鈥檔 golygu 鈥渕arwolaeth y fferm deuluol鈥.

Dywedodd Huw Irranca-Davies, sydd hefyd yn ysgrifennydd dros gefn gwlad, ei fod yn awyddus i 鈥渟ymud oddi wrth y s诺n a deall y manylder yn llawn鈥 o鈥檙 hyn a gafodd ei gyhoeddi gan y Canghellor Rachel Reeves.

鈥淏e鈥 mae hyn yn ei olygu go iawn i ffermydd teuluol yng Nghymru, o ran dod 芒 phobl newydd i mewn i鈥檙 diwydiant a chynllunio ar gyfer olyniaeth 鈥 mae鈥檙 meysydd yna i gyd angen dipyn bach yn fwy o waith,鈥 meddai wrth y gynulleidfa.

Ers iddo gael ei gyflwyno yn 1984, mae rhyddhad eiddo amaethyddol (APR), wedi caniat谩u i dir a ddefnyddir ar gyfer cnydau neu fagu anifeiliaid, yn ogystal ag adeiladau fferm, bythynnod a thai 鈥 gael eu heithrio rhag treth etifeddiaeth.

Bellach mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd treth o 20% yn cael ei godi ar werth asedau fferm sy鈥檔 cael eu hetifeddu uwch 拢1m, o Ebrill 2026.

Dywedodd Ms Reeves mewn rhai achosion y byddai鈥檙 trothwy鈥檔 cynyddu 拢3m, lle bod modd i ffermwyr elwa o reolau eraill 鈥 gan olygu ei bod hi ond y targedu'r tirfeddianwyr mwyaf cyfoethog.

Disgrifiad o'r llun, Mae Aled Jones wedi bod yn feirniadol iawn o'r newid

Ond mae鈥檙 undebau amaeth yng Nghymru yn herio dadansoddiad y Trysorlys 鈥 gan honni y bydd nifer o ffermydd teuluol yn cael eu taro gan y newid.

Dywedodd llywydd NFU Cymru Aled Jones wrth y gynhadledd nad oedd 鈥渦nrhyw amheuaeth鈥 y byddai鈥檙 penderfyniad yn 鈥済adael nifer o ffermwyr heb y gallu, yr hyder na鈥檙 cymhelliant i fuddsoddi yn nyfodol eu busnesau".

鈥淢ae鈥檙 newidiadau a gyhoeddwyd nid yn unig yn peryglu strwythur y ffarm deuluol, ond hefyd y sector ffermwyr tenant a diogelwch bwyd ein cenedl,鈥 meddai.

Mae鈥檙 undeb yn gweithio ar ei ffigyrau ei hun o鈥檙 nifer o ffermydd allai gael eu heffeithio, a fydd yn cael ei gyflwyno i lywodraethau Cymru a鈥檙 DU, meddai.

'Ofn, poeni a dicter'

Wrth annerch y dirprwy brif weinidog, dywedodd Bernard Llewellyn, ffermwr o Sir Gaerfyrddin, mai un o sgil-effeithiau posib arall y sefyllfa oedd y byddai tir sy鈥檔 cael ei werthu i dalu trethi yn 鈥渃ael ei gymryd lan gan gwmn茂au o dros y ffin (i blannu coed) a lliniaru eu h么l-troed carbon".

Byddai hyn yn lle bod 鈥測 tir hwnnw鈥檔 cael ei ddefnyddio gan deulu ifanc i gynhyrchu bwyd sydd ddirfawr ei angen ar y wlad,鈥 meddai.

Disgrifiad o'r llun, Fe wnaeth Bernard Llewellyn annerch y dirprwy brif weinidog yn y gynhadledd

Dywedodd Kate Miles, rheolwr elusen iechyd meddwl y DPJ Foundation bod y sefydliad yn dod i gysylltiad 芒 ffermwyr sydd wir yn bryderus am y newid.

鈥淩y鈥檔 ni鈥檔 gweld y lefel yma o ofn, o boeni, o ddicter ar draws y wlad, a gyda鈥檌 gilydd mae hynny鈥檔 gyfuniad pwerus o emosiynau sy鈥檔 gallu cael effaith niweidiol dros ben ar iechyd meddwl,鈥 meddai.

Disgrifiad o'r llun, Mae Kate Miles yn dweud bod ffermwyr yn bryderus am y newid

Wrth gael ei holi a oedd yn poeni yngl欧n 芒鈥檙 newidiadau i dreth etifeddiant, dywedodd Mr Irranca-Davies fod ganddo 鈥渂ryderon am unrhywbeth allai beryglu鈥 yr hyn yr oedd wedi鈥檌 ddisgrifio fel y 鈥渓lwybr tuag at ddyfodol cynaliadwy i ffermio yng Nghymru鈥.

鈥淒wi鈥檔 credu bod angen i fynd i fanylder yr hyn sy鈥檔 cael ei gynnig,鈥 meddai.

Roedd dadansoddiad y Trysorlys yn 鈥渄weud yn glir鈥 mai bach iawn fyddai nifer y ffermydd teuluol Cymreig fyddai鈥檔 cael eu heffeithio 鈥 ond 鈥渕ae鈥檙 undebau yn cyflwyno dadl wahanol iawn鈥, meddai.

鈥淒wi鈥檔 gwybod y bydd y trafodaethau鈥檔 parhau,鈥 ychwanegodd.

Ond fe amddiffynnodd y Canghellor am orfod gwneud dewisiadau anodd i lenwi鈥檙 鈥渢wll gwerth 拢22bn鈥 yng nghoffrau鈥檙 wlad.

鈥淏ydd pob teulu yma [yn y gynhadledd] hefyd yn dibynnu ar yr NHS, ar leihau rhestrau aros, ar [gyllid ar gyfer] gwella trafnidiaeth 鈥 a ma' hynny i gyd yn rhan o鈥檙 penderfyniadau cyllidebol yma hefyd.鈥