成人快手

Dynes wedi marw ar 么l cael ei gwasgu gan ei char ei hun - cwest

Mary Wynne WilliamsFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r amgylchiadau yn arwain at farwolaeth Mary Wynne Williams yn parhau'n ddirgelwch

  • Cyhoeddwyd

Bu farw dynes o Sir Conwy ar 么l cael ei gwasgu gan ei char ei hun tra allan yn danfon anrhegion Nadolig, mae cwest wedi clywed.

Cafodd Mary Wynne Williams, 71, o Fetws-y-coed, ei chanfod yn farw yn Abergele ar 23 Rhagfyr 2022.

Ond mae'r amgylchiadau yn arwain at farwolaeth Ms Williams dal yn ddirgelwch yn dilyn y gwrandawiad yn Rhuthun.

Ar 么l ei marwolaeth, cafodd ei disgrifio fel "gwraig, mam a nain gariadus" gan ei theulu.

Mewn datganiad a gafodd ei ddarllen yn y cwest ddydd Mercher, dywedodd Gemma Priestnall bod hi a'i g诺r wedi bod yn gyrru ar hyd Ffordd San Si么r, Abergele, pan ddaethon nhw ar draws car Seat Leon.

Roedd y golau ymlaen, gyda'r car yn pwyso yn erbyn y clawdd.

Wrth iddyn nhw agos谩u, fe welon nhw Ms Williams yn gorwedd yn rhannol tu allan i ddrws y gyrrwr.

Ffoniodd y p芒r 999 a chafodd Ms Williams ei chyhoeddi'n farw yn y fan a'r lle.

'Wedi blino'

Roedd Ms Williams, a oedd yn gyn-ffisiotherapydd gyda'r gwasanaeth iechyd, yn helpu i redeg y fferm deuluol, yn ogystal 芒 chadw bythynnod gwyliau.

Dywedodd merch Ms Williams wrth yr heddlu eu bod nhw wedi bod yn glanhau un o'u bythynnod gwyliau cyn cael coffi yn McDonald's yn Abergele.

Dywedodd bod ei mam yn ddynes ffit a oedd yn mwynhau nofio a cherdded, a'i bod mewn hwyliau da a heb unrhyw broblemau iechyd.

"Roedd hi fel ei hun, hapus, siaradus, normal," meddai.

"Roedd hi wedi blino, ond dim byd i achosi pryder."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Ffordd San Si么r, Abergele yn l么n wledig

Dywedodd ymchwilydd gwrthdrawiad fforensig, Brian Grocott, fod amodau'r l么n yn dda ar y pryd, ac nad oedd unrhyw nam mecanyddol wedi ei ganfod ar y car.

Roedd y br锚c parcio a'r 'autohold' yn gweithio'n iawn, ond heb gael eu defnyddio.

Roedd hi'n ymddangos, meddai Mr Grocott, fod y car wedi rowlio tua 30 metr i lawr llethr.

Fe ddaeth Mr Grocott i'r casgliad fod Ms Williams wedi dod allan o'i char heb ddefnyddio'r br锚c ac, wrth i'r car gychwyn symud, ei bod wedi ceisio cyrraedd trwy ddrws y gyrrwr i un ai roi'r br锚c ymlaen neu i droi olwyn y car.

Dywedodd y patholegydd Dr Mohammed Aslam mai achos ei marwolaeth oedd 'postural asphyxia', y canlyniad o fethu anadlu ar 么l cael ei gwasgu.

Dywedodd y crwner Kate Robertson wrth aelodau o deulu Ms Williams fod sawl cwestiwn heb ei ateb, ac mai'r un mwyaf "dryslyd" oedd pam ei bod wedi gadael y cerbyd.

Daeth i'r casgliad fod marwolaeth Ms Williams yn ddamweiniol.

Pynciau cysylltiedig