Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Amseroedd aros unedau brys wedi鈥檜 tan-gyfrif am ddegawd
- Awdur, Owain Clarke a Ben Price
- Swydd, Gohebwyr 成人快手 Cymru
Mae amseroedd aros unedau brys yng Nghymru wedi鈥檜 tan-gyfrif am ddegawd, gall 成人快手 Cymru ddatgelu.
Yn 么l Coleg Brenhinol y Meddygon Brys, mae miloedd o gleifion "ar goll" o ystadegau sy鈥檔 mesur perfformiad unedau brys.
Mae meddygon unedau brys wedi codi pryderon yngl欧n 芒鈥檙 sefyllfa ers sawl mis.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd yn gofyn i鈥檙 byrddau iechyd am sicrwydd eu bod nhw wedi dilyn y canllawiau er mwyn sicrhau data sy鈥檔 gwbl dryloyw.
Fe wrthododd Llywodraeth Cymru ddarganfyddiadau ymchwil y Coleg Brenhinol yn wreiddiol ond ar 么l craffu ar y manylion fe newidion nhw eu safbwynt.
Ychwanegodd Coleg Brenhinol y Meddygon Brys, os nad yw pob arhosiad hir yn cael ei gyfrif, does dim modd mesur pa mor wael yw sefyllfa unedau brys.
Pa gleifion mae鈥檙 Coleg yn honni sydd ddim yn yr ystadegau swyddogol?
Fel arfer fe ddylai cleifion dreulio cyn lleied o amser 芒 phosib mewn unedau brys cyn cael eu trosglwyddo i ward neu eu rhyddhau o鈥檙 ysbyty.
Ond mae modd i feddygon ddewis cadw claf mewn uned frys yn hirach os ydyn nhw鈥檔 barnu taw鈥檙 uned yw鈥檙 lle mwyaf diogel ar eu cyfer nhw.
Fe allai hyn olygu fod y claf yn aros y tu hwnt i鈥檙 4, 8, a 12 awr sy鈥檔 cael eu mesur yn y targedau, felly mae鈥檙 byrddau iechyd yn categoreiddio鈥檙 cleifion yma fel "eithriadau".
Ymhlith y cleifion all gael eu hystyried yn y categori hwn mae:
- Cleifion sy鈥檔 glinigol 鈥渁nsefydlog鈥 sydd angen mwy o gymorth gan staff brys;
- Cleifion sydd angen profion penodol cyn cael eu derbyn neu ryddhau o鈥檙 ysbyty;
- Cleifion sy鈥檔 aros am gastiau plaster ar 么l torri esgyrn;
- Cleifion sydd angen asesiad gan therapyddion galwedigaethol neu ffisiotherapyddion.
Mae鈥檔 annhebygol y byddai claf, tra eu bod nhw鈥檔 cael eu trin, yn ymwybodol eu bod yn cael eu hystyried yn eithriad, nac yn sylwi ar unrhyw wahaniaeth yn y ffordd y maen nhw鈥檔 cael eu trin.
Ond dadl y Coleg yw bod peidio 芒 chynnwys amseroedd aros y cleifion yma yn yr ystadegau swyddogol yn rhoi camargraff o ba mor hir mae cleifion yn gorfod aros mewn unedau brys mewn gwirionedd.
Yn 么l y Coleg, Cymru yw鈥檙 unig wlad yn y DU sy鈥檔 cyfri鈥檙 ystadegau yn y ffordd yma.
"Dydyn ni ddim yn cael adlewyrchiad cywir o'r hyn sy'n digwydd ar y rheng flaen鈥, meddai Dr Suresh Pillai, Is-lywydd Cymru Coleg Brenhinol y Meddygon Brys.
"Eleni, rhwng Ionawr a Mehefin, maen nhw wedi eithrio tua 45,000 o gleifion [o鈥檙 ystadegau] ac mae hynny'n nifer enfawr.
"Os nad ydych chi'n cynnwys y cleifion hynny, o ystyried bod unedau brys eisoes yn orlawn, allwn ni ddim mesur pa mor wael yw pethau."
Dywedodd Dr Pillai fod y Coleg wedi codi鈥檙 mater droeon yn ystod cyfarfodydd gyda'r gweinidog iechyd a swyddogion y llywodraeth.
Yn 么l ceisiadau rhyddid gwybodaeth gan Goleg Brenhinol y Meddygon Brys 鈥 yn ystod chwe mis cyntaf 2023 roedd 38.7% o gleifion wedi aros dros bedair awr mewn unedau brys mawr yng Nghymru.
Ond o gynnwys amseroedd aros y cleifion gafodd eu heithrio o鈥檙 ffigyrau, maen nhw鈥檔 dadlau fod y ffigwr hwn yn codi i 50%.
Yn 么l y coleg, mae hynny鈥檔 golygu fod 45,000 neu 12% o arosiadau hir mewn unedau brys heb gael eu cynnwys yn yr ystadegau swyddogol.
O edrych yn 么l ymhellach, dywedodd y Coleg bod dros 670,000 o gleifion - 23% o鈥檙 cyfanswm - heb eu cynnwys yn y ffigyrau swyddogol ers Ionawr 2012.
"Rwy'n poeni鈥檔 arw am y gaeaf oherwydd bod y ffigwr sy'n cael ei gyhoeddi yn gamarweiniol," meddai Dr Pillai.
"Rydyn ni bob amser yn ceisio gwneud cynlluniau ar gyfer y gaeaf ond os ydyn ni eisoes ddim yn cynnwys 12% o gleifion [yn chwe mis cyntaf y flwyddyn] a ydyn ni wir yn ystyried hynny wrth i ni gynllunio ar gyfer y gaeaf?"
Mae'r Coleg Brenhinol wedi bod yn ymgyrchu dros ddata ystyrlon a thryloyw i wella ansawdd a diogelwch, gan fod yr amseroedd aros yn gysylltiedig 芒 chanlyniadau gwaeth i gleifion.
Mae dadansoddiad y Coleg hefyd yn awgrymu amrywiaethau rhwng byrddau iechyd yn nifer y cleifion sy鈥檔 cael eu heithrio.
Wnaeth bwrdd iechyd Bae Abertawe ddim cynnwys 27% o gleifion rhwng 2019-2023, o'i gymharu 芒 17% yng Nghwm Taf Morgannwg.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies, bod y sefyllfa yn "gywilyddus ac yn warthus".
"Dro ar 么l tro, mae'r llywodraeth Lafur yng Nghymru wedi methu wrth geisio rheoli'r gwasanaeth iechyd," meddai.
"Mae mynd i'r afael 芒'r sefyllfa ddifrifol yma yn gorfod bod yn flaenoriaeth i'r blaid Lafur nawr, yn hytrach na gwastraffu amser ar greu mwy o aelodau i'r senedd a phrosiectau diangen eraill.
"Mae datrys y sgandal yma yn flaenoriaeth i bobl Cymru - a dwi'n galw ar y blaid Lafur i wrando arnyn nhw o'r diwedd."
Cydnabod camgymeriadau
Mae'r gweinidog iechyd wedi dweud droeon, yn ddiweddar, fod perfformiad mewn adrannau brys mawr yng Nghymru "wedi bod yn well na pherfformiad yn Lloegr" ond dadl y Coleg yw pan fo鈥檙 holl ddata yma yn cael ei gynnwys, mae'n dangos bod y perfformiad yng Nghymru yn waeth ar y cyfan.
Bellach mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod bod camgymeriadau.
Mewn datganiad fe ddywedodd llefarydd: "Dylai鈥檙 eithriadau o gleifion sy'n aros yn yr uned frys yn hirach na鈥檙 targedau aros gael eu cyfrif fel rhan o'r ffigyrau cyhoeddedig.
"Weithiau mae angen cyfnod estynedig o arsylwi neu driniaeth ar gleifion mewn adrannau brys cyn ei bod yn ddiogel i鈥檞 rhyddhau nhw.
"Mae'r canllawiau wedi bod yn eu lle ers 2011 i helpu staff i osgoi penderfyniadau amhriodol i dderbyn neu ryddhau cleifion, mewn ymgais i 'gyrraedd y targed'.
"Rydym wedi gofyn i fyrddau iechyd am sicrwydd eu bod yn dilyn y canllawiau, er mwyn sicrhau bod y data yn gwbl dryloyw."
Cafodd y stori yma ei diweddaru ar 25 Hydref er mwyn ei gwneud yn glir bod y ffigyrau eithriadau yn cael eu tynnu o nifer yr arosiadau hir o fewn ystadegau Cymru, ac nid o鈥檙 data yn gyfan gwbl.