Penodi Gwern ap Rhisiart yn bennaeth addysg Gwynedd

Ffynhonnell y llun, Cyngor Gwynedd

Disgrifiad o'r llun, Mae Gwern ap Rhisiart wedi bod yn gweithio i adran Addysg y Cyngor ers 8 mlynedd

Mae Cyngor Gwynedd wedi penodi Gwern ap Rhisiart yn bennaeth addysg newydd y sir.

Mae wedi gweithio i'r cyngor 2015 ac ar hyn o bryd yn bennaeth cynorthwyol yn yr Adran Addysg.

Bu鈥檔 ddirprwy bennaeth yn Ysgol Dyffryn Nantlle a chyn hynny yn bennaeth Ysgol Coed Menai, Bangor.

Mae鈥檔 olynu Garem Jackson, a adawodd ei swydd ym mis Medi oherwydd rhesymau personol wedi degawd yn gweithio i鈥檙 cyngor.

'Cyfoeth o brofiad addysgu ac arwain'

Yn enedigol o ardal Llwyndyrys, mae Mr ap Rhisiart yn gyn-ddisgybl Ysgol Bro Plenydd y Ffor, Ysgol Glan-y-M么r a Choleg Meirion Dwyfor Pwllheli, a bu鈥檔 fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor.

Dywedodd ei fod yn teimlo鈥檔 freintiedig o gael ei ddewis i arwain yr adran addysg.

鈥淓drychaf ymlaen at weithio 芒 th卯m talentog o athrawon a phenaethiaid, swyddogion addysg a llywodraethwyr i helpu plant a phobl ifanc ym mhob rhan o鈥檙 sir ac o bob cefndir i ffynnu," meddai.

Ychwanegodd y Cynghorydd Beca Brown, aelod cabinet Cyngor Gwynedd dros addysg, ei bod yn falch iawn eu bod wedi 鈥減enodi unigolyn disglair iawn i鈥檙 swydd allweddol hon".

鈥淢ae Gwern yn dod a chyfoeth o brofiad addysgu ac arwain gydag o i鈥檙 r么l.鈥