Cyhuddo Huw Edwards o greu lluniau anweddus o blant
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-gyflwynydd newyddion y 成人快手, Huw Edwards, yn wynebu tri chyhuddiad o greu lluniau anweddus o blant, yn 么l Heddlu'r Met yn Llundain.
Dywed y llu bod y troseddau honedig wedi digwydd rhwng Rhagfyr 2020 ac Ebrill 2022, ac "yn gysylltiedig 芒 delweddau a gafodd eu rhannu mewn sgwrs WhatsApp".
Maen nhw'n dweud bod Mr Edwards wedi cael ei arestio ar 8 Tachwedd 2023 a'i gyhuddo ar 26 Mehefin eleni wedi i Wasanaeth Erlyn y Goron awdurdodi hynny.
Ychwanegodd eu datganiad ei fod "ar fechn茂aeth i ymddangos yn Llys Ynadon Westminster ddydd Mercher 31 Gorffennaf".
Mae'r llu yn rhybuddio'r cyfryngau a'r cyhoedd bod yr achos yn un gweithredol, a ni ddylai unrhyw un gyhoeddi unrhyw beth, "gan gynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol" a allai amharu ar yr achos yn y dyfodol.
Mae Mr Edwards yn cael ei gyhuddo o fod 芒 chwe llun categori A, 12 llun categori B ac 19 llun categori C ar WhatsApp.
Os yn euog fe allai wynebu dedfryd o sawl blwyddyn yn y carchar.
Fe gadarnhaodd y 成人快手 ym mis Ebrill bod Mr Edwards, sy'n 62 oed, yn gadael y gorfforaeth ar sail meddygol.