成人快手

Heddwas 'wedi gwthio a bygwth' menyw mewn cyngerdd

Natalie WoodFfynhonnell y llun, Natalie Wood
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Natalie Wood fod ymddygiad yr heddwas yn "annerbyniol"

  • Cyhoeddwyd

Mae menyw sy'n honni iddi gael ei gwthio a'i bygwth gan heddwas nad oedd ar ddyletswydd mewn cyngerdd yn dweud ei fod wedi dangos ei fathodyn heddlu i osgoi cael ei anfon o'r digwyddiad.

Dywedodd Natalie Wood, 32, o Risga yn Sir Caerffili fod y swyddog wedi rhegi arni hi a'i phartner yng nghyngerdd Tom Jones yng Nghastell Caerdydd nos Lun.

Mae Heddlu De Cymru wedi cyfeirio'r honiad at Adran Safonau Proffesiynol.

Dywedodd Ms Wood fod y swyddog wedi ei hebrwng o'r gyngerdd yn ddiweddarach yn dilyn digwyddiad arall.

'Gwthio mor galed'

Eglurodd Ms Wood ei bod hi'n rhan o gr诺p aeth i Gastell Caerdydd y noson honno.

"Mae gynnoch chi bobl yn eich pasio, yn gwasgu heibio, sydd yn iawn. Mae pawb eisiau bod mewn safle da [mewn cyngerdd].

鈥淵na fe ges i fy ngwthio mor galed wnes i bron a syrthio."

Mae Ms Wood yn honni, ar 么l iddi droi o gwmpas, i b芒r ddechrau rhegi ac ymosod arni'n eiriol.

Fe geisiodd y dyn, meddai, ddechrau ffrae gyda'i phartner Owain cyn i stiwardiaid ymyrryd.

Ffynhonnell y llun, Natalie Wood
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd y dyn ei dywys o'r digwyddiad yng Nghaerdydd

鈥淩oedd yn rhaid iddyn nhw ei ddal e, yn gorfforol, a'i dynnu o 'na," dywedodd.

鈥淩o'n i'n meddwl eu bod nhw'n mynd i'w daflu allan ar y pwynt yma, a dyna pryd dynnodd ei fathodyn heddlu allan."

Fe ddisgrifiodd Ms Wood ymddygiad yr heddwas fel "camddefnydd o b诺er" a'i bod yn methu credu'r hyn a welodd.

Dywedodd ei bod am iddo gael ei ddisgyblu gan Heddlu De Cymru a'i bod wedi mynd at y llu ar 么l y digwyddiad.

Ffynhonnell y llun, Natalie Wood
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Natalie Wood (ail o'r chwith) yn dweud y gwnaeth dyn ei gwthio a rhegi arni hi a'i phartner cyn dangos ei fathodyn heddlu

鈥淢ae'n amlwg yn meddwl na all neb ei gyffwrdd," dywedodd.

鈥淒ydy e ddim ar ddyletswydd. Dydy e ddim yn gweithio. Does dim angen iddo gael ei fathodyn arno.

鈥淢ae ei ymddygiad, beth bynnag yw eich swydd, yn gwbl annerbyniol."

Yn 么l Ms Wood, fe gafodd y swyddog a'i bartner eu symud i sefyll mewn man arall, ond dywedodd ei fod wedi ei hebrwng allan drwy'r dorf yn ddiweddarach am achosi trafferth eto.

'Wedi cyfeirio'r digwyddiad'

Fe rannodd Ms Wood fanylion ynghylch y digwyddiad ar Facebook ac fe gafodd ei neges ei rhannu gan fwy na 4,000 o ddefnyddwyr.

Mewn datganiad dywedodd Heddlu De Cymru: "Ry'n ni'n ymwybodol o neges ar gyfryngau cymdeithasol yn dilyn cyngerdd Tom Jones yng Nghaerdydd yn ddiweddar.

鈥淢ae'r mater wedi ei gyfeirio i'r Adran Safonau Proffesiynol."

Dywedodd llefarydd ar ran digwyddiadau byw DEPOT fod aelodau o'r cyhoedd wedi mynd at staff diogelwch ynghylch digwyddiad ac "yn unol 芒'n canllawiau, fe gafodd dyn rybudd ar lafar".

Dywedon eu bod wedyn wedi cael gwybod am ddigwyddiad arall yn ymwneud 芒'r un dyn a'u bod wedi ei hebrwng o'r safle gan ei fod eisoes wedi cael rhybudd.

"Mae digwyddiadau fel hyn yn cael eu cymryd o ddifrif gan ein t卯m ac rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gynnal amgylchedd diogel a sicr i bawb yn ein digwyddiadau."