Eisteddfod: Mwy o allanfeydd wedi trafferthion parcio
- Cyhoeddwyd
Wedi adroddiadau o oedi hir wrth i bobl geisio gadael maes Eisteddfod yr Urdd nos Lun, mae'r Eisteddfod wedi "dyblu nifer yr allanfeydd".
Dywedodd rhai wrth Cymru Fyw eu bod yn aros dros awr mewn ciw i adael y maes ym Meifod, gydag un ymwelydd yn dweud bod y profiad wedi "difetha diwrnod da".
Mewn datganiad ar wefannau cymdeithasol, dywedodd yr Eisteddfod eu bod yn "ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra" a bod y system newydd yn weithredol o ddydd Mawrth ymlaen.
Dywedodd Cyngor Powys mai "cyfrifoldeb trefnwyr ac unrhyw gwmni rheoli traffig maen nhw鈥檔 ei ddefnyddio yw rheoli traffig digwyddiadau".
- Cyhoeddwyd27 Mai
- Cyhoeddwyd28 Mai
- Cyhoeddwyd28 Mai
Mewn cyfweliad ar raglen Dros Frecwast 成人快手 Radio Cymru, eglurodd Sian Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd, fod diwrnod agoriadol yr eisteddfod yn mynd yn "arbennig o dda, tan tua 17:30".
Dywedodd fod y maes yn "orlawn" a'n "llawn iawn o gynnwrf gan bobl ifanc, llawn iawn o deuluoedd yn mwynhau" dydd Llun, ond ei bod yn "cydnabod ddoe ar ddiwedd y dydd bod 'na broblemau yn y maes parcio".
Fe ymddiheurodd hefyd i'r "nifer helaeth o deuluoedd oedd yn aros yn y ceir am awr neu ddwy", gan ychwanegu eu bod yn "trio datrys y broblem".
Mewn datganiad ar wefannau cymdeithasol, dywedodd yr Eisteddfod bod y drefn rheoli traffig yn y maes parcio bellach wedi newid.
"Mae ein t卯m diogelwch wedi dyblu nifer yr allanfeydd o feysydd parcio Eisteddfod yr Urdd o heddiw ymlaen.
"Wrth adael y meysydd parcio, gofynnwn i bawb ddilyn yr arwyddion at yr allanfeydd newydd yn ogystal 芒 chyngor stiwardiaid a'r heddlu.
"Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra a achoswyd i ymwelwyr ddoe."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Powys: 鈥淢ae鈥檙 cyngor yn ymwybodol o鈥檙 anawsterau a gafodd ymwelwyr wrth iddynt adael maes parcio Eisteddfod yr Urdd neithiwr.
鈥淔odd bynnag, cyfrifoldeb trefnwyr y digwyddiad ac unrhyw gwmni rheoli traffig maen nhw鈥檔 ei ddefnyddio, yw rheoli traffig digwyddiadau gan gynnwys rheoli llif traffig allan o faes parcio dynodedig.
鈥淏ydd y cyngor yn cysylltu 芒 threfnwyr Eisteddfod yr Urdd i roi cyngor ac awgrymiadau fel bod rheolaeth llif y traffig sy鈥檔 gadael y maes parcio yn fwy effeithiol.鈥