Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Prif leisydd Cowbois yn 'sefydlog' wedi digwyddiad yn Sesiwn Fawr
Mae prif leisydd un o fandiau mwyaf poblogaidd Cymru mewn cyflwr "sefydlog" ar 么l cael ei daro'n wael wrth berfformio yn Sesiwn Fawr Dolgellau.
Roedd Cowbois Rhos Botwnnog yn chwarae yn yr 诺yl nos Wener, ond fe ddywedodd y band ar y cyfryngau cymdeithasol y bu'n rhaid torri'r set yn fyr am "resymau iechyd".
Cafodd prif leisydd Cowbois, Iwan Huws, ei gludo i'r ysbyty wedi iddo gael ei daro'n wael.
Ychwanegodd y band yn eu datganiad brynhawn Sadwrn fod "Iwan bellach yn sefydlog yn yr ysbyty ac yn derbyn y gofal gorau posib".
Dywedodd llefarydd ar ran pwyllgor Sesiwn Fawr Dolgellau eu bod "yn dymuno gwellhad buan iawn i Iwan ac yn edrych ymlaen at groesawu Cowbois yn 么l i lwyfan y Sesiwn Fawr".