Dyn wedi marw mewn gwrthrawiad yn Sir Gaerfyrddin
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd yn Sir Gaerfyrddin ddydd Mercher.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar yr A40 rhwng Llanwrda a Llanymddyfri am tua 13:05 yn dilyn adroddiadau o wrthdrawiad rhwng fan a beic modur.
Bu farw gyrrwr y beic modur ar safle'r gwrthdrawiad.
Cafodd y ffordd ei char am rai oriau wedi'r digwyddiad wrth i swyddogion ymchwilio i achos y gwrthdrawiad.
Mae'r llu yn apelio ar i unrhyw dystion neu unrhyw un 芒 gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu 芒 nhw.