'Dylai pawb yn y sector gofal allu siarad Cymraeg sylfaenol'
- Cyhoeddwyd
Dylai pawb sy'n gweithio yn y maes gofal a lles siarad rywfaint o Gymraeg neu gael chwe mis i ddysgu cyfarchion sylfaenol, yn 么l Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod Genedlaethol y llynedd.
Mae'r Albanes Alison Roberts yn gweithio yn y maes ei hun ac yn dweud bod siarad gyda chleifion oedrannus yn eu mamiaith yn gwneud "gwahaniaeth mawr".
Mae hi hefyd yn trist谩u fod pobl yn or-barod i droi i'r Saesneg wrth siarad gyda phobl fel hi sydd wedi dysgu Cymraeg, ac o weld diffyg parch at yr iaith ymhlith pobl sy'n symud i ardaloedd fel Ynys M么n ble mae hi'n byw.
Fe wnaeth ei sylwadau fel gwestai rhifyn diweddaraf rhaglen Beti a'i Phobol 成人快手 Radio Cymru.
- Cyhoeddwyd10 Awst 2023
- Cyhoeddwyd28 Rhagfyr 2023
"'Dwi'n gweithio efo lot o hen bobol - ma' nhw efo dementia - a dwi jyst yn gweld mae o'n bwysig iawn i medru siarad ei iaith gynta' nhw," meddai Ms Roberts, sy'n gymhorthydd gofal iechyd yn Ysbyty Cefni, Llangefni.
"Ti'n gweld y gwahaniaeth mawr rhwng rhywun sy'n siarad Saesneg efo'r cleifion a rhywun sy'n siarad Cymraeg.
"Os ma'r bobol yn siarad Saesneg ma'r cleifion ddim yn agor i fyny i nhw. Wedyn pam ma' pobol fel fi yn mynd i ista efo nhw, yn syth bin ma' nhw'n clywed Cymraeg [ac] ma' nhw'n agor eu calon i chdi... a mae nhw'n gwenu."
'Dydi o ddim yn anodd'
Ychwanegodd: "Pam mae hen bobol yn gorfod troi i'r Saesneg? Mae hwn yn ofnadwy."
Dywedodd mai diffyg hyder yn aml sy'n atal staff rhag siarad Gymraeg gyda chleifion, ond mae'n teimlo bod angen mynd i'r afael 芒'r sefyllfa er lles cleifion.
"Dwi'n meddwl - a mae lot o bobol yn cytuno 芒 fi - os mae rhywun isio job [yn y sector] iechyd a gofal ma' rhaid iddyn nhw ddysgu Cymraeg pan maen nhw wedi ca'l y job, neu maen nhw'n cael chwe mis o dechrau'r job i ddechra' dysgu jyst y basics... bore da, sut 'dach chi, 'dach chi isio paned... 'di o ddim yn anodd."
Un o Perthshire yw Alison Roberts ac fe ddysgodd yr iaith yn y gymuned, heb unrhyw wersi ffurfiol, ar 么l cwrdd 芒 Si么n - ei g诺r erbyn hyn - ac ymgartrefu ym M么n.
Mae'r ddau yn magu saith o blant, yn Gymraeg, ar eu fferm ger Llannerch-y-medd ond mae hi'n poeni ynghylch amharodrwydd eraill i ddefnyddio'r iaith, am ba bynnag reswm.
Dywed ei bod yn nabod llawer o bobl sydd "wedi byw yn Sir F么n ers eu geni [sydd] jest ddim isio siarad Cymraeg".
Testun pryder arall yw amharodrwydd pobl sy'n croesi'r ffin i ymgartrefu yng Nghymru i barchu'r iaith leol a dysgu i siarad rhywfaint ohono.
"Os maen nhw'n cario 'mlaen i wneud hynny dwi yn gweld yr iaith Gymraeg yn anffodus yn mynd i farw fel y Gaeleg os dydy pobl Cymraeg ddim yn gwneud petha' amdano," meddai.
Un cam posib, awgrymodd, fyddai "gwneud si诺r bod nhw yn 'neud cwrs yn Gymraeg cyn maen nhw'n symud a helpu cario'r Gymraeg ymlaen".
Ychwanegodd: "Os yn cael mwy a mwy yn symud mewn o Loegr maen nhw jest yn mynd i ladd yr iaith, a dwi ddim isiohynny ddigwydd."
Beti a'i Phobol, 成人快手 Radio Cymru, 18:00 Sul 7 Gorffennaf ac ar 成人快手 Sounds