Ifor ap Glyn: Beth yw dwyieithrwydd?

Ffynhonnell y llun, Ifor ap Glyn

"Dwyieithrwydd yw鈥檙 norm o gwmpas y byd, nid rhywbeth od mae鈥檙 Cymry鈥檔 mynnu ei wneud..."

Mae'r bardd a darlledwr Ifor ap Glyn wedi bod yn ymweld 芒 dinasoedd yn Ewrop i ddarganfod mwy am sut maen nhw'n yn delio 芒 dwyieithrwydd.

Yn y rhaglen ddiweddaraf o Dwyieithrwydd dros y D诺r ar Radio Cymru mae e'n ymweld gydag ynys Mallorca lle mae'r iaith Gatalaneg wedi鈥檌 hadfer fel prif gyfrwng addysg, ond mae twristiaeth a mewnfudo yn creu pwysau tebyg i鈥檙 rhai a geir yng nghefn gwlad Cymru.

Mewn darn arbennig i Cymru Fyw mae Ifor, a fagwyd yn Llundain, yn egluro cefndir y gyfres ac yn cymharu dwyieithrwydd yng Nghymru i'r sefyllfa mewn gwledydd eraill:

Mae dwy brif iaith yng Nghymru 鈥 ond mae 鈥榙wyieithog鈥 yn derm digon amrywiol ei ystyr! Ym myd addysg bu鈥檔 arfer am gyfnod i gyfeirio at ysgolion Cymraeg eu cyfrwng fel rhai 鈥榙wyieithog鈥 - roedd hynny鈥檔 swnio鈥檔 llai bygythiol i鈥檙 rhai oedd yn amheus o鈥檙 iaith.

Ond os oedden nhw鈥檔 ysgolion 鈥榙wyieithog鈥, oedd hynny鈥檔 golygu fod yr ysgolion eraill yn uniaith Saesneg? Dwi鈥檔 si诺r na fydden nhw鈥檔 ymffrostio yn hynny, a nhwythau鈥檔 cynnwys Ffrangeg ac Almaeneg ac 鈥榓mbell i les媒n fach o Welsh chwara teg鈥 yn eu hamserlenni 鈥 ond mae鈥檔 agos at y gwir.

Methiant addysg

Un o fethiannau mwyaf y Gymru fodern oedd peidio ag arddel iaith y mwyafrif pan gyflwynwyd addysg i bawb, o鈥檙 1870au ymlaen.

(T)he education system,鈥 meddai M. Wynn Thomas, 鈥arrogantly anglophone right up to university level鈥 probably did more harm to the long-term future of the Welsh language than any other single development.鈥

Ouch...鈥 ys dywed y Sais. Ond mae agweddau wedi newid yn araf, gyda thwf addysg Gymraeg, ac mae mwy o ewyllys da tuag at yr iaith heddiw nac a fu.

Pa mor ddwyieithog felly ydi鈥檔 gwlad ni erbyn hyn?

Bron i ugain mlynedd yn 么l, tra鈥檔 ffilmio鈥檙 gyfres deledu Popeth yn Gymraeg, bues i鈥檔 profi dwyieithrwydd nifer o 鈥檔ghyd-Gymry i鈥檙 eithaf - roeddwn i鈥檔 gwneud 鈥榩opeth yn Gymraeg鈥 wrth siarad 芒 nhw - a nhwythau鈥檔 ateb yn Saesneg gan amlaf - ond llwyddwyd dro ar 么l tro i gynnal cyfathrach oedd yn wirioneddol ddwyieithog 鈥 hynny yw, yn y ddwy iaith.

Roedd yn dangos be' sy鈥檔 bosib. Ond fel dywedodd rhyw fardd pryfoclyd ers talwm:

Yn y Gymru ddwyieithog mae pawb yn gyt没n -

dan ni鈥檔 siarad ddwy iaith, maen nhw鈥檔 siarad un.

Baich

Mae鈥檙 faich o fod yn ddwyieithog yn sicr yn disgyn mwy ar ysgwyddau鈥檙 rhai sy鈥檔 siarad Cymraeg, na鈥檙 rhai sy鈥檔 siarad Saesneg yng Nghymru.

Pan on i鈥檔 tyfu fyny yn Llundain erstalwm, on i鈥檔 cael fy ngwneud i deimlo fod siarad mwy nag un iaith ychydig yn 鈥榦d鈥. A dwi鈥檓 yn amau nad oedd yr un peth yn wir i lawer o 鈥檔ghyfoedion yn ninasoedd a chymoedd Cymru hyd yn oed. Paradocs hybu鈥檙 Gymraeg yn y byd sydd ohoni, yw鈥檙 angen i normaleiddio dwyieithrwydd.

Anffawd Cymru yw byw ar ymylon cymdeithas sydd yn bennaf unieithog, sef Lloegr. Ac un o鈥檙 prif ddylanwadau diwylliannol arnom o du hwnt i Loegr, yw cymdeithas arall sydd yn bennaf unieithog, sef yr Unol Daleithiau. Ond nid dyna鈥檙 patrwm sy鈥檔 dominyddu, os edrychwn o gwmpas y byd...

Rai blynyddoedd yn 么l, gofynnwyd imi gadeirio lansiad llyfr o鈥檙 enw Agweddau ar Ddwyieithrwydd, gan Enlli Thomas a Peredur Webb-Davies. Ynghanol y myrdd o ffeithiau difyr yn yr astudiaeth, roedd 鈥榥a un wnaeth fy nharo yn fy nhalcen.

Er nad oes sicrwydd yngl欧n 芒 faint yn union o bobl y byd sy鈥檔 medru dwy iaith neu fwy, mae鈥檙 gwahanol awdurdodau yn gyt没n ar un peth, sef bod dros hanner y byd yn medru mwy nag un iaith.

Dwyieithrwydd felly yw鈥檙 norm o gwmpas y byd, nid rhywbeth od mae鈥檙 Cymry鈥檔 mynnu ei wneud - oherwydd felly, yn rhy aml, y cawsom ein cyflyru i feddwl!

Bwriad rhaglenni Dwyieithrwydd dros y D诺r yw rhoi darlun o rai o ieithoedd eraill Ewrop sydd hefyd yn bodoli mewn cyd-destun dwyieithog.

Mae rhai fel y Wyddeleg a鈥檙 Fasgeg yn ieithoedd cymharol fach o ran nifer eu siaradwyr; mae eraill fel y Fflemeg, a鈥檙 Gatalaneg, yn rhifo鈥檜 siaradwyr yn y miliynau - ond maen nhw i gyd yn gorfod cydfyw hefo iaith arall fwy niferus, neu fwy dylanwadol. Beth yw natur eu perthynas nhw 芒 dwyieithrwydd 鈥 a beth allwn ni ddysgu ganddynt?

Ffynhonnell y llun, Ifor ap Glyn

Disgrifiad o'r llun, Man geni y llenor a'r bardd o Mallorca, Ramon Llull

Gwlad y Basg

Yng Ngwlad y Basg, gwelwyd sut mae Euskara (neu'r Fasgeg) wedi cynyddu ar raddfa y gallwn ond breuddwydio amdani yng Nghymru. Dyma wlad debyg i Gymru o ran maint poblogaeth, a鈥檙 canran ohonynt sy鈥檔 medru鈥檙 iaith gynhenid 鈥 ond yno mae niferoedd y siaradwyr Basgeg ar gynnydd. Mae addysg yn ganolog i hyn, gyda hanner plant Gwlad y Basg yn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng Euskara bellach.

Yn B茅al Feirste (Belfast) gwelwyd yr egni sydd o gwmpas y Wyddeleg o鈥檌 gymharu 芒鈥檙 syrthni yn y Weriniaeth 鈥 yno sefydlwyd y papur dyddiol cyntaf mewn unrhyw iaith Geltaidd, ac mae鈥檙 ffilm ddiweddar Kneecap yn tystio i鈥檙 bwrlwm ieithyddol hwn!

Cysylltwyd y Wyddeleg 芒鈥檙 mudiad gweriniaethol am ddegawdau, ond erbyn hyn mae鈥檙 adfywiad iaith wedi dechrau goresgyn yr hen raniadau sectaraidd yn y ddinas.

O鈥檙 ddwy brif iaith sydd yng Ngwlad Belg, mae鈥檔 debyg y byddai siaradwr Cymraeg yn ymdeimlo鈥檔 haws 芒鈥檙 Fflemeg. Dyma iaith gafodd ei gormesu am gyfnod gan y Ffrangeg, ac hyd heddiw, mae鈥檌 siaradwyr yn deirgwaith fwy tebygol o fedru鈥檙 iaith arall, nag yw siaradwyr Ffrangeg.

Ond cymunedau uniaith sydd yn rhannau helaeth o Wlad Belg 鈥 dyw hanner trigolion y wlad ddim yn medru鈥檙 iaith arall. Dyma ddwyieithrwydd digon cyndyn felly...

Y Gatalaneg ym Mallorca

Ffynhonnell y llun, Ifor ap Glyn

Beth allwn ni obeithio ei ddysgu o鈥檙 rhaglen ddiweddaraf, Dwyiethrwydd dros y D诺r 鈥 Mallorca felly?

Fel gyda鈥檙 Euskara yng Ngwlad y Basg, gwaharddwyd y Gatalaneg yng nghyfnod Franco (1936-75). Mae鈥檙 iaith wedi鈥檌 hadfer fel prif gyfrwng addysg ar ynys Mallorca bellach, ond yma mae twristiaeth a mewnfudo yn creu pwysau tebyg i鈥檙 rhai a geir yng nghefn gwlad Cymru 鈥 ond ar raddfa dipyn mwy, yn enwedig yn yr ardaloedd arfordirol.

Ffynhonnell y llun, Ifor ap Glyn

Disgrifiad o'r llun, Slogan Mallorca: 'No est脿 en venda' (Nid yw ar werth)

Dysgwn am beryglon gor-dwristiaeth, a hanesion cyfarwydd am bobl ifainc yn methu fforddio lle i fyw, gan Pere Perell贸 i Nomdedeu. Bydd Rub茅n Chapella-Orri yn amlinellu cynllun sydd gan lywodraeth Andorra (yr unig wladwriaeth yn y byd lle mai鈥檙 Gatalaneg yw鈥檙 unig iaith swyddogol) i sicrhau fod mewnfudwyr yno yn dysgu鈥檙 iaith frodorol.

Ac ar nodyn ysgafnach, bydd No茅lia Diaz Vicedo yn rhoi blas ar ddiwylliant llenyddol arloesol yr ynys; a bydd Maria Magdalena Amengual yn cyfansoddi glosa, sef c芒n draddodiadol fyrfyfyr yn arbennig i wrandawyr Radio Cymru 鈥 a hynny o fewn eiliadau!

Gwrandewch ar Dwyiethrwydd dros y D诺r 鈥 Mallorca ar Radio Cymru ar Ddydd Sul, 3 Tachwedd am 16.00, ac ar 成人快手 Sounds.