'Mae'n treth cyngor ni wedi mynd lan i bron 拢4,000'

Watch Moments
Disgrifiad o'r fideo,

Mae un o berchnogion caban pren ger traeth Poppit yn Llandudoch yn dweud ei bod hi'n barod i fynd i'r llys i frwydro yn erbyn premiwm ail gartrefi.

Mae teulu Eira Harris wedi bod yn berchen ar yr adeilad ers y 1950au ac roedden nhw'n arfer talu lefel sylfaenol treth y cyngor.

"'Wen ni鈥檔 talu treth cyngor basic, a nawr ma' fe wedi mynd lan i bron 拢4,000!" meddai.

Mae'r adeilad wedi cael ei ddiffinio fel ail gartref gan y cyngor sir er nad oes ganddo doiled nac ystafell ymolchi, ac felly mae eu treth y cyngor wedi treblu.

Dywedodd Cyngor Sir Penfro bod yr adeilad yn cwrdd 芒'r diffiniad "sydd yn y ddeddf" a'i fod wedi'i "ddodrefnu yn sylweddol".