Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Pryder am hiliaeth o fewn gwaith cymdeithasol
- Awdur, Sian Elin Dafydd
- Swydd, Newyddion 成人快手 Cymru
Mae Jade Forbes yn dweud bod yr hiliaeth mae hi'n ei brofi yn ddyddiol yn ei "llorio".
Fel uwch-weithiwr cymdeithasol, mae sylwadau anwybodus yn rhywbeth mae'n ei brofi'n barhaus.
Mae angen mwy o wybodaeth i fynd i'r afael 芒 hiliaeth o fewn gwaith cymdeithasol, yn 么l y corff sy'n cynrychioli'r gweithlu yng Nghymru.
Rhaid cael mwy o ddata i daclo hiliaeth yn 么l BASW, y corff sy'n cynrychioli'r gweithlu yng Nghymru.
Mae'r corff yn pwysleisio bod angen i Gymru gyhoeddi'r un math o ddata sydd ar gael yn Lloegr.
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn dweud ei fod am sicrhau nad oes hiliaeth o fewn y sector.
'Gallu bod yn lle unig iawn'
Mae Jade Forbes hefyd yn awdur gwaith cymdeithasol ac yn gweithio yn y maes ers 13 blynedd.
Pan mae hi wedi profi hiliaeth yn y gweithle, un ai ar lefel fach neu ar lefel fawr, mae wedi effeithio ar ei hiechyd meddwl, ond mae'n dweud nad yw hi'n ystyried ei hun fel dioddefwr.
"Mae'n fy ngwneud i'n eitha' crac am bethau, a theimlo anghyfiawnder," meddai.
"Mae'n gallu bod yn lle unig iawn fel gweithiwr cymdeithasol du yn ceisio mynegi fy rhwystredigaeth am hiliaeth, pan yn aml nad oes ganddyn nhw yr un profiad bywyd."
Mae'n dweud bod angen polis茂au cliriach i ddelio gyda hiliaeth.
"Gan fod gennym ni hyfforddiant gorfodol ar bethau fel GDPR ac elfennau mwy biwrocrataidd o'n gwaith, mae'n sicr angen cael mwy o hyfforddiant am hiliaeth," meddai.
"Achos os ydw i'n wynebu hiliaeth fel gweithiwr cymdeithasol yna mae'n rhaid bod arwyddion clir o unigolion sy'n defnyddio gwasanaethau sy'n profi hiliaeth - un ai'n uniongyrchol neu ynghudd."
Dyw Jade ddim wedi profi unrhyw rwystrau uniongyrchol wrth iddi ddatblygu yn ei gyrfa ond mae'n dweud ei bod wedi gorfod gweithio'n galetach i gyrraedd y brig.
Mae'n dweud mai'r cyfnod caletaf iddi hi oedd wedi marwolaeth George Floyd - y dyn du a gafodd ei ladd gan blismon gwyn ym Minneapolis yn 2020.
Sylwodd Jade bryd hynny ar weithwyr proffesiynol yn gwneud sylwadau ar gyfryngau cymdeithasol oedd yn mynd yn erbyn symudiad Black Lives Matter.
"Roedd yn heriol iawn am fod consensws ar draws y byd bod hwn yn rhywbeth ofnadwy ac roedd sgyrsiau yn cyfiawnhau gweithredoedd y llofrudd," meddai Jade.
"Ro'n i'n ei weld yn hurt bost ac hefyd roedd yn codi ofn arna i achos mae mab gen i, ac ro'n i'n meddwl os yw pobl broffesiynol yn cyfiawnhau llofruddio dyn du mewn golau dydd ar y stryd, yna dwi'n poeni am ddiogelwch fy mab wrth iddo dyfu a'r ffordd y bydd yn cael ei weld fel dyn du."
Mwy o wybodaeth ar gael yn Lloegr
Mae BASW Cymru yn dweud bod yr hiliaeth sydd wedi ei nodi gan eu haelodau yn digwydd ymhlith staff yn hytrach na chleientiaid.
Dywedodd y corff bod angen mwy o wybodaeth i fynd i'r afael 芒 hiliaeth o fewn gwaith cymdeithasol.
Mae鈥檙 corff hefyd yn pwysleisio bod angen i Gymru gyhoeddi'r un math o ddata sydd ar gael yn Lloegr.
Yn 么l Abyd Quinn Aziz o BASW Cymru, mae llawer mwy o wybodaeth ar gael yn Lloegr, ac mae鈥檔 galw ar Ofal Cymdeithasol Cymru i gyhoeddi mwy er mwyn gwella dealltwriaeth.
鈥淩yn ni鈥檔 gwybod bod hiliaeth yn digwydd, ond mae angen deall sut mae鈥檔 digwydd, ble mae鈥檔 digwydd ac os yw鈥檙 pethau ry'n ni鈥檔 eu gwneud yn herio hiliaeth," meddai.
Mae鈥檔 dweud bod hiliaeth "yn brifo llawer mwy" pan mae鈥檔 digwydd ymhlith cydweithwyr ac o fewn sefydliadau gwaith.
鈥淵ng Nghymru, yn yr 20 mlynedd ddiwethaf dim ond un cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol sydd ddim yn wyn sydd wedi bod.
"Dwi ddim yn dweud bod yn rhaid i chi fod yn ddu i ddeall y sefyllfa - rwy鈥檔 meddwl bod diffyg hyder a gweithredu cadarnhaol."
Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ac mae Abyd yn gobeithio y bydd o gymorth, ond mae鈥檔 dweud y dylai Gofal Cymdeithasol Cymru edrych yn benodol ar y gweithlu.
Dywedodd bod angen nodi faint o weithwyr cymdeithasol sy鈥檔 ddu neu o gefndir ethnig leiafrifol, faint sy鈥檔 hyfforddi, faint sy鈥檔 llwyddo yn eu hyfforddiant a faint sy'n cael eu dyrchafu.
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru, sy鈥檔 rheoleiddio鈥檙 gweithlu yng Nghymru, yn dweud bod tua 80% o weithwyr cymdeithasol yn wyn a bod y gweddill o amrywiaeth o ethnigrwydd.
Yn 么l y corff mae tua 6% o鈥檙 holl weithlu gofal cymdeithasol - sy鈥檔 cynnwys gweithwyr cymdeithasol yn ogystal 芒鈥檙 rhai sy鈥檔 gofalu am bobl h欧n a phlant - yn ddu, a tua 5% o gefndir Asiaidd.
Dywedodd Bethan Price o Gofal Cymdeithasol Cymru eu bod nhw鈥檔 cefnogi Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol y llywodraeth.
鈥淯n o鈥檙 pethau hoffen ni neud yw sicrhau bo' ni鈥檔 cael gweithlu sy鈥檔 adlewyrchu鈥檙 boblogaeth ma' nhw鈥檔 gweithio gyda, sef poblogaeth Cymru," meddai.
鈥淢a' recriwtio a denu pobl i鈥檙 sector yn anodd beth bynnag - 'da ni鈥檔 gwybod bod problemau mawr recriwtio a chadw staff gofal cymdeithasol ar draws Cymru."
Ychwanegodd fod angen sicrhau nad y gweithlu rheng flaen yn unig sy鈥檔 adlewyrchu鈥檙 boblogaeth maen nhw鈥檔 gweithio gyda.
鈥淢ae鈥檔 bwysig sicrhau bod rheolwyr ac arweinwyr hefyd yn adlewyrchu鈥檙 boblogaeth a gwneud yn si诺r bod cyfleoedd i bobl o gefndiroedd gwahanol,鈥 meddai.