成人快手

Ap锚l ysgol am ddillad prom i helpu gyda chostau byw

disgyblion gyda rhai o'r dillad sydd ar gael
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Disgyblion blwyddyn 11 Ysgol Brynrefail - Betsan, Erin a Kieran - gyda rhai o'r dillad sydd ar gael i'w benthyg

  • Cyhoeddwyd

Mae ysgol uwchradd yng Ngwynedd yn galw am gymorth gan y gymuned i helpu disgyblion i fedru mynd i鈥檞 prom diwedd blwyddyn.

Gyda chostau byw yn pwyso mae Ysgol Brynrefail yn Llanrug wedi galw am roddion neu fenthyciad o siwtiau a ffrogiau i ddisgyblion fyddai methu mynd i鈥檙 dathliadau fel arall oherwydd y gost.

Dywedodd Jennifer Hughes, pennaeth blwyddyn 10 ac 11, a threfnydd y prom: 鈥淢ae 'na gwpl wedi dod atom ni a dweud yn blwmp ac yn blaen eu bod nhw methu dod oherwydd costau.

鈥淢ae鈥檔 ofnadwy o drist i wybod mai dyna鈥檙 rheswm - 'da ni鈥檔 gobeithio fod pawb yn edrych ymlaen at y prom.

"Felly mi rydyn ni wedi siarad efo nhw i weld os oes ffordd rownd y peth.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Jennifer Hughes bod rhai disgyblion wedi dweud na allan nhw fynychu'r prom oherwydd costau

Dros y blynyddoedd diwethaf mae prom ar ddiwedd arholiadau TGAU a Lefel A wedi dod yn boblogaidd mewn ysgolion ar draws Cymru.

Mae鈥檙 arfer Americanaidd wedi dod yn uchafbwynt y flwyddyn, ac yn ffordd o ddathlu gorffen arholiadau a nodi llwyddiant.

鈥淢ae鈥檙 prom yn bwysig i lot o bobl,鈥 meddai Kieran, disgybl blwyddyn 11 Ysgol Brynrefail.

鈥淢ae pawb wedi bod yma efo鈥檌 gilydd ers pum mlynedd a rhai ers dechrau ysgol gynradd - felly ers 15 mlynedd.

"Mae鈥檔 bwysig i ni ddod at ein gilydd i celebratio efo鈥檔 gilydd.

鈥淥nd mae 鈥榥a lot o pressure i impressio - a ma鈥 siwt yn costio o leia鈥 拢150.鈥

Ychwanegodd ei gyd-ddisgybl Betsan: 鈥淢ae 'na gymaint o luniau yn cael eu postio [ar y cyfryngau cymdeithasol] - 'da ni eisiau edrych ein gorau felly mae 'na bwysau i brynu ffrog newydd, a thalu am ewinedd a lashes.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Kieran - yn ei wisg ysgol, ac yn modelu un o'r siwtiau sydd ar gael

Mae Ysgol Brynrefail eisoes yn ceisio cadw鈥檙 gost yn isel drwy fynd i westy lleol ac arbed costau teithio.

Mae鈥檙 ysgol hefyd yn talu am hanner pris y tocyn - sy鈥檔 拢23 eleni - i ddisgyblion sy鈥檔 cael cinio am ddim.

Maen nhw nawr wedi gyrru neges at rieni yn gofyn am unrhyw roddion neu fenthyciad o ddillad addas ac yn ceisio lledaenu鈥檙 neges i weddill y gymuned.

Dywedodd Jennifer Hughes: 鈥淒wi鈥檔 meddwl, efo鈥檙 hinsawdd ar y funud, mae 'na dipyn o alw, ac mae dipyn o鈥檙 disgyblion wedi dod ata i i ddweud eu bod nhw鈥檔 pryderu.

鈥淢i rydan ni鈥檔 galw ar y gymuned ac yn gofyn am help os oes gan unrhywun ffrogiau, bagiau, crysau, unrhyw beth sy鈥檔 addas.

"Ella bod ganddyn nhw blant oedd yn ddisgyblion yma o鈥檙 blaen ac efo dillad addas.

"Mae鈥檙 ymateb wedi bod yn gr锚t - mae rhai wedi dod a phethau yma yn barod.鈥

Dillad ail law yn boblogaidd

Gan fod yr athrawon yn adnabod eu disgyblion, maen nhw鈥檔 ceisio trafod mewn ffordd sensitif gyda鈥檙 rhai sy鈥檔 debygol o fod angen cymorth.

Ond mae 'na obaith hefyd y bydd posib ehangu鈥檙 ddarpariaeth wrth i agweddau newid tuag at fenthyg ac ailddefnyddio.

Dywedodd Ms Hughes: 鈥淢ae鈥檔 fwy derbyniol r诺an i brynu yn ail law - mae鈥檔 rhywbeth mawr - felly gobeithio fydd mwy yn fodlon gwisgo dillad ail law neu swapio ffrogia'.

鈥淭ydi o yn ddim byd i deimlo cywilydd amdano, a dwi鈥檔 meddwl y byddai'r rheini yn falch os fydda ni鈥檔 cymryd y pwysau yna i ffwrdd.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhai o'r ffrogiau sydd ar gael i'w benthyg

Er y pryder am gostau, mae hefyd angen cydnabod pwysigrwydd y prom fel ffordd o wobrwyo disgyblion ar 么l eu harholiadau, meddai Non Gwyn Jones, arweinydd cynnydd yr ysgol.

鈥淵 prom ydy uchafbwynt y flwyddyn," meddai.

"Mae鈥檔 rhoi鈥檙 anogaeth i weithio鈥檔 galed ac yn gwneud i ddisgyblion feddwl am sut maen nhw鈥檔 ymddwyn yn yr ysgol.

"Maen nhw鈥檔 gwybod ein bod ni鈥檔 edrych ar eu hymdrech ac ymddygiad drwy鈥檙 flwyddyn ac mae鈥檔 wobr ar ddiwedd y flwyddyn.鈥

Y cymdeithasu sy'n bwysig

Ac yn 么l Erin, disgybl blwyddyn 11, mae鈥檔 bwysig cofio鈥檙 prif reswm dros fynd i'r digwyddiad.

鈥淥nd un diwrnod ydy o, ac mae鈥檙 prom yn fwy i 'neud efo cymdeithasu yn hytrach na sut 'da chi鈥檔 edrych.

"Dydi pobl ddim yn siarad am stryglo ac mae鈥檔 bwysig i wybod bod 'na help.鈥

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn bwysig i bob ysgol ystyried goblygiadau ariannol unrhyw weithgaredd a rhoi cefnogaeth i rai sydd ei angen.