Cadarnhau achos o TB mewn ysgol yng Nghasnewydd

Ffynhonnell y llun, Google

Disgrifiad o'r llun, Does dim awgrym bod yr unigolyn wedi dal yr haint yn Ysgol John Frost

Mae achos o'r dici芒u (TB) wedi'i gadarnhau mewn unigolyn sy'n gysylltiedig ag ysgol yng Nghasnewydd.

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) y bydd pob disgybl ac athro a gafodd gysylltiad 芒'r unigolyn yn ysgol uwchradd John Frost yn cael cynnig sgrinio ar gyfer TB.

Yn 么l ICC does dim i "awgrymu bod yr achos wedi dal TB yn yr ysgol", ond bod yr unigolyn wedi mynychu'r ysgol heb wybod bod ganddynt yr haint.

Dim ond un achos o TB sydd wedi'i gadarnhau.

'Risg i'r cyhoedd yn isel iawn'

Dywedodd James Adamson o ICC: "Mae hon y broses arferol, ac os caiff heintiau TB positif eraill eu nodi o ganlyniad i hyn, bydd triniaeth briodol yn cael ei chynnig.

"Mae'n anodd trosglwyddo TB. Mae angen cysylltiad agos a hir ag unigolyn heintus, er mwyn i berson gael ei heintio.

"Yn yr achos hwn, ac i gyfyngu ar ledaeniad posibl yr haint, rydym yn trin yr holl ddisgyblion ac athrawon a allai fod wedi cael cyswllt 芒'r unigolyn fel cysylltiadau personol agos.

"Byddwn yn pwysleisio bod y risg o haint 芒 TB i'r cyhoedd yn parhau'n isel iawn.

"Fodd bynnag, rydym yn annog rhieni, disgyblion ac aelodau o staff i fod yn ymwybodol o'r symptomau."