成人快手

Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2024 i Lemfreck

Lemfreck yng NghasnewyddFfynhonnell y llun, S4C
  • Cyhoeddwyd

Lemfreck sydd wedi cipio'r Wobr Gerddoriaeth Gymreig ar gyfer 2024.

Mewn seremoni yng Nghanolfan y Mileniwm, fe gyhoeddwyd mai Lemfreck yw enillwyr y brif wobr eleni am eu halbwm, Blood, Sweat & Fears.

Roedd Lemfreck yn fuddugol o blith 15 o artistiaid oedd wedi cyrraedd y rhestr fer.

Mae'r wobr - sy'n cynnwys tlws a gwobr ariannol o 拢10,000 - yn agored i albymau o bob math ac mae enillwyr y gorffennol yn cynnwys Kelly Rogue Jones, Boy Azooga, Deyah, Gruff Rhys, a Gwenno.

Cyflwynydd 成人快手 Radio 1, Sian Eleri, oedd yn arwain y seremoni a gafodd ei gynnal yng Nghanolfan y Mileniwm.

Cafodd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig ei sefydlu yn 2011 gan y cyflwynydd Huw Stephens a'r ymgynghorwr cerddoriaeth John Rostron, gyda phanel o farnwyr arbenigol o'r diwydiant yn dewis yr enillydd.

Beirniaid y wobr eleni oedd; Caroline Cullen, CassKid, Jude Rogers, Molly Palmer, Owain Elidir Williams, Sofia Ilyas a Tom Morgan.

Ffynhonnell y llun, Y Wobr Gerddoriaeth Gymreig

Y rhestr fer yn llawn

Aleighcia Scott - Windrush Baby

Angharad - Motherland

Buzzard Buzzard Buzzard - Skinwalker

CHROMA - Ask for Angela

Cowbois Rhos Botwnnog - Mynd 芒'r t欧 am dro

Elkka - Prism of Pleasure

Georgia Ruth - Cool Head

Gruff Rhys - Sadness Sets Me Free

HMS Morris - Dollar Lizard Money Zombie

L E M F R E C K - BLOOD SWEAT & FEARS

Mellt - Dim Dwywaith

Pys Melyn - Bolmynydd

Skindred - Smile

Slate - Deathless

Ynys - Dosbarth Nos