Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyflwr y GIG yn 'dristwch' i un o'r babanod cyntaf
Mae un o fabanod cyntaf y Gwasanaeth Iechyd wedi mynegi pryderon am ei ddyfodol.
Cafodd Ifora Owen o Dy鈥檔 y Groes yn Sir Conwy ei geni ar y diwrnod y cafodd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ei sefydlu 75 mlynedd yn 么l.
Mewn cyfweliad gyda 成人快手 Cymru i nodi鈥檙 achlysur, mae鈥檔 dweud ei bod hi鈥檔 鈥渄ristwch鈥 gweld y gwasanaeth o dan straen ar hyn o bryd.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod angen i鈥檙 gwasanaeth newid i fod yn 鈥済ynaliadwy鈥.
Cafodd Ifora Owen ei geni gartref ar fferm y teulu yn Nyffryn Conwy ar 5 Gorffennaf 1948.
鈥淒wi鈥檔 cofio Mam yn d鈥檈ud hanes y diwrnod ges i ngeni鈥, medd Mrs Owen.
鈥淢i ddaeth y meddyg teulu i鈥檙 fferm ac ar 么l imi gyrraedd y byd Mam a Dad yn gofyn 鈥楩aint sydd arnom ni i chi?鈥
鈥淎鈥檙 meddyg yn ateb 鈥極 na, mae o am ddim o heddiw ymlaen鈥 a dwi鈥檓 yn meddwl bod Mam a Dad druan yn coelio!鈥
Swllt a chwech
鈥淒wi wedi edrych wedyn ac mi fuasai鈥檔 costio swllt a chwech mewn hen bres - rhyw saith geiniog heddiw.
鈥淢i fuasai swllt a chwech yn rhoi dipyn go lew o fwyd. Digon o fara a digon o farjar卯n i deulu o bedwar neu bump am fwy nag wythnos.
鈥淔elly roedd swllt a chwech yn dipyn o arian ar y pryd. Ac yna, na, doedd 鈥榥a ddim cost o gwbl.鈥
Aeth Ifora ymlaen i fagu teulu a dilyn gyrfa fel prifathrawes yn Nyffryn Conwy.
Mae鈥檔 dweud na fu rhaid iddi ddefnyddio llawer ar y gwasanaeth iechyd, ond bod y gofal wedi bod 鈥測na bob tro鈥.
鈥淢ae鈥檔 destun tristwch mawr sut mae pethau鈥檔 mynd r诺an. Mae鈥檙 gwasanaeth deintyddol wedi mwy neu lai diflannu yn dydi?
鈥淒ydy o ddim yn wasanaeth am ddim, dim mwy, ac mae鈥檔 gwneud ei chi feddwl bod y gwasanaeth iechyd yn mynd yr un ffordd.鈥
鈥淧an fyddwn ni鈥檔 ei golli o - a鈥檌 golli byddwn ni鈥檔 wneud os na 鈥榙en ni鈥檔 ofalus iawn - wedyn mi fyddwn ni鈥檔 gweld yr angen ohono fo.
鈥淢ae pobl yn dweud 鈥楳ae o am ddim.鈥 Wel, dydy o ddim am ddim - mae pawb wedi talu dros eu hoes gweithio.
鈥淥nd 鈥榙an ni wedi cael y fantais hefyd sawl gwaith drosodd 芒 chymharu 芒 be鈥 鈥榙an ni wedi ei dalu i mewn.鈥
'Ni allwn barhau'
Mae Llywodraeth Cymru鈥檔 dweud bod y Gwasanaeth Iechyd yn wynebu galw 鈥渄igynsail鈥 am ei wasanaethau ac yn 么l y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan: 鈥淣i allwn fforddio i barhau fel yr ydym.鈥
鈥淩wy鈥檔 credu鈥檔 gryf bod pob un ohonom yn fodlon ymladd i drawsnewid ein gwasanaethau iechyd a gofal i fod y system gynaliadwy rydym ei hangen a鈥檌 heisiau ar gyfer y dyfodol, sy鈥檔 canolbwyntio ar atal ac ymyrryd yn gynnar.
鈥淏ydd angen i bawb chwarae eu rhan i鈥檔 helpu ni i gyflawni鈥檙 weledigaeth hon fel y gall y bobl hynny sydd 芒鈥檙 angen mwyaf am ein gwasanaethau gael mynediad at yr hyn y maen nhw ei angen, pan maen nhw ei angen, yn agos at eu cartref.鈥
Sawl newid, medd un o fabanod olaf yr hen drefn
Ag yntau eisoes wedi dathlu ei ben-blwydd yn 75 eleni, mae Geraint Davies yn disgrifio'i hun fel "un o'r babanod olaf bron" i gael eu geni yn yr hen Ysbyty Treherbert "dan y system breifat".
Fel cyn-fferyllydd a fu hefyd yn cynrychioli'r Rhondda dros Blaid Cymru yn nhymor cyntaf yr hen Gynulliad Cenedlaethol, mae wedi gweld sawl newid o fewn y GIG dros y blynyddoedd.
Mae'n cofio "paratoi moddion ac eli" ar ddechrau ei yrfa yn y fferyllfa "ond ma' hwnna wedi diflannu'n gyfan gwbl [erbyn hyn] - ni nawr yn prynu popeth mewn".
Mae cyfrifiaduron hefyd wedi "trawsnewid y gwaith".
Disgrifiodd ar raglen Dros Frecwast sut yr oedd yn arfer ysgrifennu labeli'r holl feddyginiaeth gyda llaw.
"O'n i ffili roi enw cyffur ar y label, dim ond 'y tabledi','y capsules', y moddion' a fi ddim yn gw'bod pam oeddan nhw'n gwneud hynny - cadw popeth yn ddirgelwch? Fi ddim yn gw'bod - o'dd e'n od iawn.
"Mae cofnodion gyda ni nawr o bob presgripsiwn sy'n mynd allan... ma' hynny'n sefyllfa lawer mwy diogel i'r cleifion."
Cymru oedd gwlad cyntaf y DU i gyflwyno polisi o beidio codi t芒l ar gleifion am bresgripsiynau.
Mae Geraint Davies yn cofio "ca'l pobl yn dod i mewn, yn brin o arian ac yn gofyn, os maen nhw'n ca'l rhestr o eitemau, 'Pr'un yw'n un pwysig?'
"Chi'n clywed am y sefyllfa yn yr Unol Daleithiau pryd mae mwy o bobl yn mynd yn fethdalwr oherwydd iechyd nag unrhyw beth arall.
"Mae'n rhaid i ni werthfawrogi'r gwasanaeth y'n ni'n ei gael ar hyn o bryd.
"Mae'n gallu gwella a dwi'n gobeithio yn y dyfodol bydd pobl yn gweithio mwy gyda'i gilydd - fferyllwyr, optegwyr, meddygon teulu - dros y claf.
"Beth y'n ni mo'yn yn y pen draw yw'r canlyniad gorau i'r claf."
Newid arall i'w groesawu yw'r ffaith bod fferyllwyr erbyn hyn yn gallu rhoi cyngor i gleifion a rhagnodi presgripsiynau eu hunain.
"Dwi'n gw'bod am enghreiffitau o fferyllwyr sy'n cael cannoedd o bobl bob mis, sy'n dod i'r fferyllfa yn lle'r mynd i'r meddyg teulu a ma' hwnna'n help i'r gwasanaeth iechyd yn gyffredinol ble maen nhw'n gallu arbenigo ar leddfu mwy o broblemau."