成人快手

Gang mawr wedi cyflenwi cyffuriau yn Aberystwyth

CyffuriauFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae pum person wedi eu cael yn euog o fod yn rhan o gynllwyn mawr i gyflenwi coc锚n a chanabis yn Aberystwyth.

Dywed Heddlu Dyfed-Powys bod yr euogfarnau'n golygu bod 15 o bobl erbyn hyn yn aros i gael eu dedfrydu ar 么l cael eu harestio fel rhan o Ymgyrch Burleigh.

Roedd swyddogion wedi canfod gwerth dros 拢400,000 o goc锚n ym meddiant aelodau'r gang, oedd yn "newid eu tactegau'n gyson" i osgoi cael eu dal.

Yn 么l y llu, roedd yna bedwar rhwydwaith llinellau cyffuriau (county lines) i'r dref, gyda'r trefnwyr yn Abertawe yn y lle cyntaf, ac yn fwy diweddar yn Birmingham.

Ceiswyr lloches oedd mwyafrif aelodau'r gang a gafodd eu hanfon i Aberystwyth gan Toana Ahmad, 33, o Orllewin Canolbarth Lloegr a pherson arall sy'n dal heb ei erlyn.

Daeth i'r amlwg bod aelodau gang wedi eu gosod mewn tri eiddo - yn Ffordd y M么r, Ffordd Alexandra a Pharc Graig Glais - ble y daethpwyd o hyd i "symiau sylweddol o arian, cyffuriau rheoledig ac arfau".

Defnyddio tacsis, trenau a gwestai

Dywed y llu bod y gang yn "soffistigedig, wedi ei drefnu'n dda ac yn esblygu".

Wedi i'r heddlu ddechrau arestio aelodau, fe wnaethon nhw newid eu tactegau gan gyflenwi cyffuriau o gerbydau, ac fe arhosodd aelodau'r gang mewn gwestai i osgoi cael eu dal.

Dywedodd y Ditectif Sarjiant Steven Jones o D卯m Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol y llu bod unigolion yr oedd y gang "yn ymddiried ynddyn nhw yn cludo cyffuriau i Aberystwyth ac yn 么l i Birmingham neu Abertawe".

"Cafodd nifer o gerbydau, gan gynnwys tacsis, eu defnyddio wrth i'r gang geisio osgoi cael eu dal ar y ffordd, ac fe wnaethon nhw ddefnyddio trenau hefyd pan gafodd cerbydau eu stopio gan swyddogion heddlu."

Ychwanegodd bod "ymdrechion di-flino" gan sawl t卯m o fewn y llu "wedi helpu i wneud Aberystwyth yn le mwy diogel i fyw heb y bygythiad a'r niwed o gyffuriau ar gael yn hawdd ar y stryd".

Tri 芒 chyfeiriadau yng Nghymru

Yn dilyn sawl achos yn Llys y Goron Abertawe ers dechrau eleni, fe gafwyd nifer o ddiffynyddion yn euog o'u rhan yn y cynllwyn i gyflenwi cyffuriau, tra bo eraill wedi pledio'n euog.

O'r 15 sy'n aros i gael eu dedfrydu, roedd tri 芒 chyfeiriadau yng Nghymru.

Fe newidiodd Karwan Karim, 39, o Abertawe ei ble i euog o gyflenwi cyffuriau Dosbarth A a B ar drydydd diwrnod ail achos, wedi i'r rheithgor yn yr achos cyntaf fethu 芒 dod i ddyfarniad.

Roedd Adel Mustafa, 39, o Gasnewydd, ac Akasha Smith, 24, o Aberystwyth ymhlith 10 o ddiffinyddion a blediodd yn euog i'r cyhuddiadau yn eu herbyn mewn gwrandawiad blaenorol.

Fe gafwyd Diar Yousef Zeabari, 35, o Abertawe yn ddieuog o gyflenwi cyffuriau Dosbarth A a B.

Roedd Toana Ahmad ymhlith y diffynyddion i gael eu dyfarnu'n euog yn yr achos mwyf diweddar.

Pynciau cysylltiedig