'Cwestiynau mawr' am ddyfodol Rob Page fel rheolwr Cymru
- Cyhoeddwyd
Cyfle i gael golwg ar chwaraewyr y dyfodol oedd un o amcanion y g锚m yn erbyn Gibraltar ym Mhortiwgal ddydd Iau, ond beryg mai crafu ei ben fydd y prif hyfforddwr Rob Page wedi鈥檙 canlyniad, oedd yn 么l rhai yn embaras.
I鈥檞 roi yn ei gyd-destun, cyn y g锚m yn erbyn Cymru, roedd Gibraltar yn safle 203 ar restr detholion FIFA, wedi colli pob un o鈥檜 13 g锚m ddiwethaf, heb sgorio g么l ac wedi ildio 50 o goliau.
Mi all rhywun ddadlau mai t卯m ifanc di-brofiad oedd yr un gafodd ei ddewis gan Page, ond hyd yn oed gyda鈥檙 chwaraewyr ifanc hynny, mi ddylai Cymru fod wedi curo un o dimau gwanaf Ewrop.
Wedi鈥檙 siom o golli yn erbyn Gwlad Pwyl yn rownd derfynol gemau ailgyfle Euro 2024 ym mis Mawrth, roedd angen rhywbeth i gynnig gobaith at y dyfodol.
Ond wedi'r chwiban olaf nos Iau, roedd yr ymateb gan rai cefnogwyr yn llugoer, a bwio i鈥檞 glywed tuag at reolwr Cymru.
Felly beth ydi鈥檙 ymateb gan rai o arbenigwyr p锚l-droed Cymru?
Malcolm Allen 鈥 Cyn-ymosodwr Cymru
Wrth siarad gyda rhaglen Dros Frecwast ar 成人快手 Radio Cymru fore Gwener, dywedodd Malcolm Allen fod nifer o'r chwaraewyr wedi methu cyfle euraidd.
鈥淩oedd y g锚m yn llwyfan i鈥檙 chwaraewyr ifanc greu argraff, ond wnaethon nhw ddim ar wah芒n i Lewis Koumas. Mae ganddo fo鈥檙 potensial i chwarae i鈥檙 t卯m cyntaf,鈥 meddai.
鈥淩oedd rhywun yn disgwyl mwy gan Rubin Colwill a Rabbi Matondo i wneud y mwyaf o鈥檜 cyfle, ond wnaethon nhw ddim. Fyddan nhw ddim ar flaen y rhestr i Rob Page pan y bydd yn dewis ei garfan nesaf.
鈥淢i fydd yna gwestiynau mawr yn cael eu gofyn os nad ydan ni鈥檔 ennill yn erbyn Slofacia nos Sul.鈥
Roedd Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones hefyd yn ymateb i ganlyniad nos Iau ar bennod ddiweddaraf Y Coridor Ansicrwydd.
Nia Jones 鈥 Cyn-amddiffynwr Cymru
鈥淢ae鈥檔 bwysig i鈥檞 roi yn ei gyd-destun. Doedd nifer o chwaraewyr allweddol ddim ar gael i ni, ac mae hynny yn gwneud gwahaniaeth mawr," meddai Nia Jones mewn cyfweliad 芒 成人快手 Radio Wales.
"Ond dwi鈥檔 meddwl fod gan Rob Page bob hawl i fod yn nerfus, ac nid ar sail y canlyniad yn erbyn Gibraltar yn unig fyddai hynny.
鈥淏eth oedd yn rhwystredig i mi fel cefnogwr Cymru oedd y diffyg angerdd ac ymroddiad. Fel cefnogwr Cymru, dyna mae cefnogwyr Cymru yn ei ddisgwyl.
鈥淥 ran y g锚m yn erbyn Slofacia ddydd Sul pan fyddan nhw鈥檔 dewis t卯m cryfach, dwi鈥檔 teimlo bod hon yn g锚m y mae鈥檔 rhaid i Rob Page ei hennill ar lefel bersonol.鈥
Nathan Blake 鈥 Cyn-ymosodwr Cymru
Dywedodd cyn-ymosodwr Cymru, Nathan Blake wedi'r g锚m bod y pwysau ar y rheolwr yn ddigon teg, ac yn rhan o'r g锚m fodern.
鈥淥s ydych chi鈥檔 edrych ar bapur ac yn gweld eich bod chi wedi cael g锚m gyfartal yn erbyn Gibraltar, mae hi mor syml 芒 hynny,鈥 meddai.
鈥淥nd i fod yn deg gyda Page, dydy o ddim wedi gwneud yn ddrwg wrth ystyried ei fod wedi arwain Cymru i Gwpan y Byd a鈥檙 Euros.
鈥淥nd ar ddiwedd y dydd, fedrwch chi ddim gorffwys ar eich rhwyfau.
"Mae pobl wastad angen mwy, dyna natur p锚l-droed.鈥
Fe gafodd Page gefnogaeth Cymdeithas B锚l-droed Cymru wedi鈥檙 golled yn erbyn Gwlad Pwyl, ac er mai g锚m gyfeillgar ydy hon yn erbyn Slofacia, mae鈥檔 bwysig bod rheolwr Cymru a鈥檙 t卯m yn cael canlyniad positif cyn bod yr ymgyrch yng Nghynghrair y Cenhedloedd yn dechrau fis Medi.
Mae Wes Burns a Jay Dasilva wedi datgan eu cefnogaeth i鈥檙 rheolwr, ond does dim dwywaith y bydd y pwysau yn cynyddu ar Page os na fydd y perfformiadau a鈥檙 canlyniadau yn gwella.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mehefin
- Cyhoeddwyd6 Mehefin