成人快手

Oes angen ymddiried mwy mewn gyrwyr ifanc?

Harri, Jacob, Evan a Mollie, disgyblion Ysgol Gymraeg Gwynllyw
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Harri, Jacob, Evan a Mollie yn ddisgyblion yn Ysgol Gymraeg Gwynllyw

  • Cyhoeddwyd

Cymdeithas foduro'r AA yw'r diweddaraf i alw am rheolau llymach ar yrwyr ifanc newydd.

Yn 么l yr AA, gallai cyflwyno trwyddedau gyrru penodol i yrwyr o dan 21 achub mwy na 50 o fywydau ac atal 900 o anafiadau difrifol y flwyddyn ym Mhrydain.

Mae'r gymdeithas yn credu bod angen rheolau llymach ar gyfer gyrwyr iau fyddai'n eu gwahardd rhag cludo teithwyr o oed tebyg am chwe mis ar 么l pasio'u prawf.

Daw hynny wedi i bedwar o bobl ifanc yn eu harddegau farw mewn damwain car yng ngogledd Cymru ym mis Tachwedd 2023.

Felly oes angen rheolau llymach ar gyfer gyrwyr ifanc?

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Jacob pe bai cyfyngiadau ar yrwyr ifanc, fyddai dim modd iddo wneud rhan o'i swydd

Mae disgyblion Ysgol Gymraeg Gwynllyw ym Mlaenau Gwent yn gymysg eu barn.

Mae gyrru yn rhan hanfodol o swydd ran amser Jacob, 17.

Fel rhan o鈥檌 swydd mae鈥檔 gofalu am fachgen ac yn aml mae'n mynd ag e allan o gwmpas yr ardal.

Dywedodd pe bai newid yn y gyfraith i gyflwyno cyfyngiadau ar yrwyr ifanc, byddai dim modd iddo wneud ei swydd.

鈥淩haid i fi yrru fel rhan o swydd fi,鈥 dywedodd Jacob.

鈥淥s oedd cyfraith newydd yn dod mewn yn dweud bod gyrwyr ifanc ddim yn gallu cario pobl ifanc yn y car fyswn i ddim yn gallu neud y pethau gyda鈥檙 bachgen sy鈥檔 rili manteisio fe,鈥 meddai.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae disgyblion Ysgol Gwynllyw yn credu bod angen i bobl ymddiried mewn gyrwyr ifanc

Mae Harri, 18, yn credu bod angen i bobl ymddiried mewn gyrwyr ifanc ar y ffyrdd.

Dywedodd: 鈥淢ae鈥檔 dibynnu ar ba fath o ffrindiau ti鈥檔 cael. Rhaid i鈥檙 gyrrwr gymryd bach o arweiniad yn y car 鈥 mae lan i鈥檙 person sy鈥檔 gyrru i reoli beth sy鈥檔 digwydd yn y car.

鈥淢ae angen ymddiried yn y gyrrwr.鈥

I Evan, sydd yn aml yn gyrru ei frawd i鈥檙 ysgol, dywedodd bod 鈥減ethau allan yna fel black box sy鈥檔 sicrhau bod chi yn gyrru yn ddiogel a bod yn synhwyrol wrth gyrru".

鈥淕r诺p bach o bobl sydd yn mynd i effeithio ar gr诺p mawr achos ma鈥 rhai yn amlwg yn credu bod gyrru yn rhywbeth i gael hwyl ond ma鈥 rhaid bod yn saff gyda phobl yn y car.鈥

Er bod Mollie yn gweld sut y byddai rheolau llymach yn gallu "rhwystro a stopio pobl marw neu cael anafiadau" mae hefyd yn poeni y " byddai neb o ni鈥檔 gallu pigo ffrindiau ni lan, so ma fe鈥檔 sbwylo fe bach".

Wrth siarad 芒 Cymru Fyw, dywedodd yr hyfforddwr gyrru profiadol, Austin Davies y byddai cyflwyno鈥檙 rheol yn 鈥渂eth da鈥.

Ag yntau wedi dysgu miloedd o bobl ifanc yn Sir G芒r, dywedodd bod cyfyngiadau ar brofion gyrru mewn dinas neu dref yn golygu nad yw pobl yn dysgu gyrru ar lonydd peryglus yng nghefn gwlad.

鈥淐hi鈥檔 neud y prawf mewn tref neu ddinas ond mae鈥檙 damweiniau gwaethaf yn digwydd y tu allan i鈥檙 llefydd yna lle mae鈥檙 terfyn cyflymder yn uwch.

"Does dim byd yn y prawf yn mynd i gefn gwlad, i鈥檙 troeon siarp yna."

Mae o鈥檙 farn y dylai鈥檙 Asiantaeth Safonau Gyrru fod wedi cyflwyno鈥檙 rheol yma yn y gorffennol.

鈥淢ae llai o distraction, ti wrth dy hunan, fi鈥檔 meddwl fod e鈥檔 good peth."

'S鈥檇im isie cosbi pawb'

Yn athrawes yn Ysgol Gwynllyw, mae Mrs Rhian James yn credu bod angen bod yn "realistig" gyda chyfyngiadau o鈥檙 fath.

鈥淣i fan hyn yn amlwg yn rhan o Went a ma lot o鈥檔 dysgwyr ni yn byw pellter mawr oddi wrth ei gilydd.

鈥淒yw鈥檙 trafnidiaeth cyhoeddus ddim yn gr锚t felly os nad ydyn nhw鈥檔 gallu cario ei gilydd, bod yn synhwyrol a bod ni鈥檔 rhoi ffydd ynddyn nhw, wedyn ma鈥 rhai yn mynd i gael eu hynysu."

Er ei bod hi鈥檔 cydnabod y peryglon, nid yw Ms James yn credu bod angen cosbi bob person ifanc.

鈥淪鈥檇im isie cosbi pawb am ffaeleddau ambell un...ma鈥 rhaid i ni gofio dim jest pobl ifanc sydd yn wyllt yn gyrru ar yr heol - ma pobl o bob oed.鈥

Pynciau cysylltiedig