'Bod yn Gymro' yn help wrth ddatblygu addysg Wyddeleg Gogledd Iwerddon

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Disgrifiad o'r llun, Iolo gyda'i wraig Aislinn. Mae'r ddau bellach yn byw yn ninas Galway

Mewn cymuned mor ranedig lle mae iaith yn bwnc mor sensitif roedd gan un tad fantais wrth frwydro i gael addysg Wyddeleg i'w blant yng Ngogledd Iwerddon - y ffaith ei fod o'n Gymro.

Dyna brofiad Iolo Eilian - ynghyd 芒 thalu staff o鈥檌 boced ei hun ar adegau - gan nad oedd o'n perthyn i un ochr wleidyddol.

Ac mae ystadegau鈥檙 ysgol yn fesur o'r llwyddiant - cynnydd o 24 i 150 disgybl, gyda rhai erbyn hyn yn dod o deuluoedd Protestannaidd.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Disgrifiad o'r llun, Iolo, y plant pan oedden nhw oedran ysgol - Niamh, Aoibhinn ac Uillin - a'i wraig Aislinn

Un o bentref Llanrug, ger Caernarfon, ydi Iolo ac ar 么l cyfarfod merch o Ogledd Iwerddon oedd yn y coleg gydag o yn Wrecsam yn yr 1990au fe symudon nhw i鈥檞 thref enedigol hi yn Dungannon er mwyn magu teulu.

Roedden nhw鈥檔 awyddus i鈥檞 plant gael addysg Wyddeleg ac mewn cyfweliad ar raglen Beti a鈥檌 Phobol ar 成人快手 Radio Cymru, eglurodd Iolo sut oedd gwleidyddiaeth yn agos iawn at y wyneb wrth iddo geisio bod yn rhan o wella鈥檙 ddarpariaeth i鈥檞 blant.

鈥淵ng Ngogledd Iwerddon os oedda chi鈥檔 bart o ysgol Gaelic roedda chi鈥檔 cael eich gweld fel part o鈥檙 Catholic community a鈥檙 bobl oedd wedi bod yn cwffio dros yr iaith,鈥 meddai. 鈥淔elly roedda chi鈥檔 mynd i mewn i gyfarfod efo pobl oedd ella wedi bod yn bart o鈥檙 Troubles. Mi oedd o鈥檔 reit anodd bod yn bart o鈥檙 system.鈥

Ysgol feithrin fechan yn unig oedd yn Dungannon, neu D煤n Geanainn, ar y pryd ac ar 么l i鈥檞 blant ddechrau yno dechreuodd Iolo fod yn rhan o鈥檙 criw bychan oedd yn rhedeg yr ysgol n么l yn 2007.

'Doedd yna ddim arian i dalu cyflogau'

Wrth geisio symud yr ysgol yn ei flaen roedd yn gofyn nifer o gwestiynau - tan i鈥檞 gyd-aelodau gael llond bol.

Eglurodd: 鈥淯n diwrnod dwi鈥檔 meddwl o鈥檔 i wedi gofyn gormod o gwestiynau a dyma'r chairman a鈥檙 ysgrifennydd a鈥檙 tri arall yn codi a gafael yn y bocs a rhoi bocs yn ganol y bwrdd a deud 鈥榙a ni wedi cael digon, gei di go 谤诺补苍鈥.

鈥淎 dyma nhw鈥檔 cerdded allan a gadael fi yno efo鈥檙 goriadau, y bocs a dau aelod o staff i dalu鈥檙 diwrnod wedyn.

鈥淒oedd 鈥榥a ddim arian i dalu cyflogau. Un neu ddau o weithia roedd rhaid i Aislinn a fi - a doedd ganddo ni ddim llawer o bres chwaith efo tri o blant a gweithio - roedd rhaid i ni dalu cyflogau un neu ddau o weithia. Doedda' ni methu disgwyl i bobl neud gwaith a ddim yn cael eu pres.鈥

Disgrifiad o'r llun, Iolo Eilian o flaen ysgol Aodha Rua D煤n Geanainn, yn 2018

Mae gan Dungannon, sydd yn sir Tyrone, le amlwg yn hanes trafferthion Gogledd Iwerddon.

Roedd yr orymdaith hawliau sifil gyntaf un i gael ei chynnal yng Ngogledd Iwerddon nol yn 1968 yn mynd o Coalisland i鈥檙 dref.

Fel cymaint o gymunedau eraill, fe gafodd nifer eu lladd dros y degawdau a tydi鈥檙 gorffennol byth yn bell o鈥檙 presennol yno.

鈥淸搁辞别诲诲闭 pipe bomb ar y ffenest i ni un bore,鈥 meddai Iolo.

鈥淢i roedd y staff wedi cyrraedd a ffonio fi, ac wrth gwrs roedd rhaid chi ffonio'r bomb disposal, so ddaeth nhw i gyd allan a mynd a鈥檙 pipe bomb i ffwrdd鈥 felly roedd hwnnw鈥檔 ddiddorol.

鈥淥nd nath o ddim stopio ni鈥 natho ni ddim troi a deud 鈥榥a da ni wedi cael digon鈥 natho ni gario mlaen i鈥檙 step nesa.鈥

'Ddim yn gweld fi fel Protestant na Catholig'

Roedd Iolo ar y pryd yn gweithio fel rheolwr gyda gwasanaeth iechyd Gogledd Iwerddon ac felly鈥檔 gweithio鈥檔 agos gyda gwleidyddion lleol ac yn Stormont.

Daeth i adnabod nifer o aelodau blaenllaw o bleidiau鈥檙 Unoliaethwyr yn y Senedd yn Belfast, a nifer ar ochr y gweriniaethwyr hefyd, gan gynnwys Bernadette Devlin McAliskey, oedd ar y brotest gyntaf honno yn 1968 a chafodd ei hethol i San Steffan y flwyddyn ganlynol - y person ieuengaf erioed ar y pryd.

Meddai Iolo: 鈥淒oedda' nhw ddim yn gwbod be鈥 i neud ohona fi.

鈥淵n llgada rhai pobl o'n i鈥檔 Brotestant yn dod i mewn yno i redeg ysgol Gatholig, ac o'n i鈥檔 ganol Sinn Fein a鈥檙 bobl yma i gyd a doedda' nhw ddim yn gwybod be' i neud ohona fi.

鈥淒oedda' nhw ddim yn gweld fi fel Protestant na Catholig鈥 roedda' nhw鈥檔 gweld fi fel Cymro yn dod i mewn efo profiad o iaith a nath nhw gymryd fi a deud reit 鈥come on ta, nawn ni weithio efo chi鈥 ac wrth gwrs roedd hynny鈥檔 agor drysau wedyn鈥

鈥淎c mi roedd yr education department yn cael ei redeg gan wleidyddion o鈥檙 DUP (plaid unoliaethol) ond ro'n i'n gweithio efo nhw efo鈥檙 adran iechyd felly o鈥檔 i鈥檔 gallu gweithio efo鈥檙 DUP a Sinn Fein ac o'n i鈥檔 gallu cael arian o bob ochr felly dyna sut o'n i'n gallu symud ymlaen.鈥

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Disgrifiad o'r llun, Iolo a'i deulu heddiw

Dros y blynyddoedd fe sefydlwyd ysgol gynradd a鈥檌 datblygu. Erbyn hyn mae 150 o ddisgyblion yno yn cael eu dysgu gan 12 o athrawon.

Bellach mae Iolo yn is-gyfarwyddwr cenedlaethol gwasanaeth iechyd Gweriniaeth yr Iwerddon a鈥檙 teulu wedi symud i Galway ond mae o鈥檔 dal mewn cysylltiad gyda staff yr ysgol.

鈥淧am o鈥檔 i鈥檔 gadael (yn 2018) roedda' ni wedi cael arian i adeiladu ysgol newydd a geshi fideo gan y brifathrawes wythnos ddiwetha' ac mi oedd yr education minister yn yr ysgol - ac mae o鈥檔 dod o鈥檙 DUP.

鈥淔edrwch chi feddwl o le yda ni wedi dod o - lle roedda' ni鈥檔 gorfod cwffio i gael yr ysgol feithrin i ddechrau, i鈥檙 minister o鈥檙 DUP yn yr ysgol鈥 sy鈥檔 anhygoel.

鈥淢ae petha' wedi newid yng Ngogledd Iwerddon. Mae cael yr iaith wedi mynd fwy middle class鈥 lot o bobl yn dod i mewn i鈥檙 ysgol, mwy o arian ganddyn nhw ac yn hapus i roi arian i鈥檙 ysgol felly mae o wedi newid yn hollol.鈥

  • Gallwch wrando ar y cyfweliad llawn ar raglen Beti a'i Phobol ar 成人快手 Radio Cymru am 18:00 dydd Sul 15 Medi ac ar 成人快手 Sounds