Teyrngedau i 'ffermwr cydwybodol a phrysur' fu farw ger Y Bala

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Roedd Islwyn Owen yn ffermwr adnabyddus yn ardal Y Bala

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i ffermwr fu farw mewn digwyddiad yn ardal Y Bala.

Roedd Islwyn Owen yn 67 oed ac yn byw ym mhentref Llanycil.

Cafodd yr heddlu eu galw i fferm yn yr ardal am 20:50 nos Fercher 4 Medi.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd, Andy Gibson eu bod yn gweithio "ar y cyd gyda'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch (HSE) er mwyn deall yr amgylchiadau a arweiniodd at y digwyddiad".

Ychwanegodd eu bod yn trin y farwolaeth fel un "heb esboniad" ar hyn o bryd, a bod y Crwner lleol wedi cael gwybod.

'Andros o golled i'r ardal leol'

Dywedodd un cynghorydd lleol fod y gymuned wedi'i "syfrdanu" yn dilyn ei farwolaeth.

Yn 么l y Cynghorydd Alan Jones Evans, sy'n cynrychioli ward Llanuwchllyn, mi oedd Mr Owen yn "ffermwr cydwybodol a phrysur".

"Dyna oedd ei fywyd - amaethyddiaeth, mi oedd yn ffermwr taclus a dyna oedd ei fyd yn gyflawn. Roedd pawb yn gwybod pwy oedd Islwyn," meddai.

"Hoffwn estyn fy nghydymdeimlad i'w weddw, Margaret. Roedd Islwyn yn adnabyddus iawn yn y byd amaeth yn lleol a thu hwnt.

"Mi oedd o'n wyneb cyfarwydd ym mhob sioe amaethyddol a chymdeithas yn yr ardal i gyd, ac mae'r newyddion yma yn andros o golled i'r ardal leol."

'Seren lachar yn ffurfafen ffermio Penllyn'

Dywedodd Alun Elidyr, sy鈥檔 un o gyflwynwyr rhaglen Ffermio ar S4C ac yn un o lysgenhadon Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru: 鈥淢ae seren lachar yn ffurfafen ffermio Penllyn wedi diffodd wrth i ni golli Islwyn Cefnbodig.

"Roedd ei w锚n barod a鈥檌 hawddgarwch wrth drafod materion amaeth digon cymhleth yn golygu fod ennyd yn ei gwmni鈥檔 werthfawr.

鈥淩oedd ei wybodaeth am wartheg a defaid, pridd a phorfa鈥檔 eithriadol o eang, a鈥檌 natur garedig wrth sgwrsio鈥檔 cynnig ateb i sawl problem, a hynny wastad gydag ychwanegiad chwerthiniad direidus a chipolwg dros ei sbectol.

鈥淒oedd bod yn ffarmwr llwyddiannus ddim yn ddigon iddo, roedd yn gymwynaswr brwd i鈥檙 gymuned wledig ehangach, a鈥檌 egni heintus yn ysbrydoli ble bynnag y bo.

鈥淢ae鈥檙 gymuned amaethyddol ar hyd a lled Cymru a thu hwnt yn cydymdeimlo鈥檔 ddwys iawn gyda Margaret a鈥檙 teulu, ac mae鈥檔 deg i ddweud na welwn i mo鈥檌 debyg eto. Roedd Islwyn yn unigryw.鈥

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd y cyflwynydd Alun Elidyr fod Islwyn Owen yn "unigryw"

Ychwanegodd Rhys Owen, pennaeth amaeth a chadwraeth Parc Cenedlaethol Eryri: "Roedd Islwyn Owen yn 诺r rhadlon agos i鈥檞 le.

"Roedd manylder yn bwysig iddo ac roedd ganddo lygad arbennig o dda am stoc.

"Roedd o鈥檔 arloesol i ddweud y gwir ac mae ei fferm wedi bod yn un o鈥檙 rhai sydd wedi鈥檌 harddangos gan y parc.

"Roedd o鈥檔 fodlon dysgu gwersi a鈥檜 rhannu hefyd.

"Roedd cynhyrchu yn bwysig iddo ond cadwraeth hefyd.

"Roeddwn i鈥檔 ei adnabod ers 20 mlynedd, ond yn fwy na hynny, roedd o鈥檔 ffrind.鈥

Dywedodd llefarydd ar ran yr HSE eu bod yn ymwybodol o'r digwyddiad ac yn "cynorthwyo Heddlu Gogledd Cymru gyda'u hymholiadau".

Mae Heddlu'r Gogledd wedi gofyn i bobl barchu preifatrwydd y teulu yn ystod y cyfnod anodd yma.