Methu siarad 'wedi fy siapio fel person, ac wedi helpu hefyd'
- Cyhoeddwyd
Pan oedd hi'n blentyn, dim ond gartref y byddai Erin Mared Gruffydd yn medru siarad, a hynny gydag aelodau agos o'i theulu.
Roedd hi'n byw gyda mudandod dethol, cyflwr sy'n gysylltiedig â gorbryder, ac sy'n golygu nad yw person yn gallu siarad mewn rhai sefyllfaoedd.
Mae'n effeithio un o bob 140 o blant, yn ôl y , ac mae'n fwy cyffredin ymysg merched.
Mewn erthygl i ³ÉÈË¿ìÊÖ Cymru Fyw, mae Erin yn trafod effaith y cyflwr ar ei phlentyndod, a hyd heddiw.
Chwaraeodd mudandod dethol ran fawr yn fy mhlentyndod, fwy neu lai trwy gydol fy nghyfnod yn yr ysgol gynradd.
Dechreuodd y cwbl wrth i mi gychwyn yn yr ysgol feithrin yn dair oed; ro'n i eisoes yn blentyn eitha’ sensitif, a dwi’n meddwl bod ffeindio fy hun mewn awyrgylch dieithr, swnllyd a phrysur wedi achosi teimladau o banig a phryder llethol ynddai.
Roeddwn mwy neu lai wedi rhewi i’r unfan, ac roedd gen i deimlad rhyfedd yn fy ngwddf, fel petai’n cau lan.
Teimla’n llythrennol fel petai fy ngeiriau’n mynd yn sownd yn fy ngwddf, ac yn methu dod allan.
Roeddwn yn medru siarad yn hollol arferol gartref, felly roedd yn brofiad eitha’ annifyr i mi, a doedd gen i ddim syniad pam ei fod yn digwydd.
'Cael ei weld fel styfnigrwydd'
Dwi’n bendant yn credu bod diffyg ymwybyddiaeth o hyd am y cyflwr, ond yn sicr 20 mlynedd yn ôl, roedd y sefyllfa hyd yn oed yn waeth.
Roedd fy ymddygiad yn cael ei weld fel styfnigrwydd, ac o ganlyniad roedd rhai athrawon yn delio â’r peth mewn ffyrdd cwbl groes i’r hyn y mae arbenigwyr yn y maes yn ei argymell.
Efallai bod pobl ddim yn gwybod sut i ddelio efo fy nghyflwr, a dwi’n teimlo mod i heb gael y gefnogaeth o'n i angen.
Roedd y teimlad o fod wedi gwneud rhywbeth o’i le yn un o fy triggers, yn dwysáu fy mhanig, ac yn gwaethygu’r cyflwr.
Ar fy mhwynt gwaethaf dim ond gydag aelodau agos o’r teulu roeddwn yn medru siarad, a dim ond adre, pan oeddwn yn sicr na fyddai unrhyw un arall yn clywed.
Trobwynt mawr i mi oedd symud o Gaerdydd i Aberystwyth pan oeddwn tua 6 oed. Symudais i ysgol fach leol, lle'r oedd fy mam-gu yn brifathrawes.
Roeddwn yn teimlo’n fwy cartrefol yno yn syth; roedd y staff i gyd yn ymwybodol o fy nghyflwr ac yn gwybod i beidio â rhoi pwysau arnaf i siarad, ac roedd y ffaith fod fy mam-gu yno yn gwneud i mi deimlo llawer saffach a mwy ymlaciedig.
Roeddwn yn medru sibrwd wrthi pan oedd angen, ac roedd gen i fwrdd gwyn bach er mwyn gallu cyfathrebu â phawb arall.
Gwnaeth hyn wahaniaeth enfawr i mi, ac roeddwn gymaint hapusach yno nag yn fy ysgol flaenorol.
Serch hynny, cymerodd rai blynyddoedd eto i mi ddod dros y mudandod dethol. Bu staff yr ysgol yn hollol wych yn fy helpu gam wrth gam, gydag amynedd a charedigrwydd.
Peth arall wnaeth fy helpu’n aruthrol oedd mynychu gwersi dawns yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Dechreuais fwy neu lai’n syth ar ôl symud, ac roeddwn wrth fy modd yno.
O ddydd i ddydd roeddwn yn aml yn teimlo rhwystredigaeth o beidio medru cyfathrebu’n hawdd, ond wrth ddawnsio dysgais ffyrdd o fynegi fy hun nad oeddent yn cynnwys siarad.
Roeddwn yn medru cymryd rhan 100% yn y gwersi, a chododd hynny fy hyder gymaint.
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2020
Erbyn i mi symud i’r ysgol uwchradd yn 11 oed, roeddwn wedi trechu’r mudandod dethol yn gyfan gwbl.
Fi oedd yr unig un o fy ysgol gynradd i fynd i Ysgol Penweddig y flwyddyn honno digwydd bod, felly teimlai fel dechrau newydd i mi heb unrhyw bwysau, a llwyddais i siarad heb unrhyw anawsterau o’r pwynt hwnnw ymlaen.
Mae’n rhyfedd edrych yn ôl ar y cyfnod yna nawr, mae’r atgofion yn dal i fod gyda fi ond maen nhw’n teimlo’n detached rhyw ffordd, bron fel petaent wedi digwydd i rywun arall yn hytrach na fi.
'Wedi fy siapio fel person'
Dwi’n fy ugeiniau erbyn hyn ac wedi dod dros y cyflwr yn gyfan gwbl, dwi ddim yn teimlo ei fod wedi fy nal yn ôl nac yn cael unrhyw effaith o gwbl ar fy mywyd bellach.
Ond wedi dweud hynny, bu’n rhan anferth o fy mhlentyndod felly mae’n rhaid ei fod wedi siapio fi fel person i ryw raddau.
Os unrhyw beth, dwi’n gweld hynny fel peth positif; mae’r holl brofiadau yna yn fy atgoffa fy mod yn berson penderfynol, ac yn medru goresgyn fy mhroblemau.
Dwi hefyd yn sicr ei fod wedi fy helpu i ddod i adnabod fy emosiynau yn well, a deall sut i ofalu am fy iechyd meddwl.
Hyd heddiw pryd bynnag dwi’n cael teimladau o orbryder, iselder neu’n teimlo wedi fy llethu mewn unrhyw ffordd, dwi’n gwybod y gallaf ddefnyddio dawns fel ffordd o ddelio â’r peth. Mae hynny’n beth wirioneddol werthfawr i mi.