Dyn wedi ei gyhuddo o geisio treisio menyw yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi ei arestio a'i gyhuddo mewn cysylltiad ag ymosodiad rhyw ar fenyw yng Nghaerdydd.
Mae ditectifs wedi bod yn ymchwilio i ddigwyddiad o dan bont rheilffordd sy'n agos i Neuadd Breswyl Senghennydd a Heol Sailsbury, yn ardal y Waun Ddyfal, oriau m芒n fore Sul, 12 Mai 2024.
Mae Fawaz Alsamaou, 32, o Huddersfield wedi ei gyhuddo o geisio treisio.
Mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Llun.