成人快手

Menyw wedi gadael gwesty heb dalu bil dros 拢800

Gwesty'r DiplomatFfynhonnell y llun, Gwesty'r Diplomat
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae gwesty yn Llanelli wedi rhannu fideo o'r ddynes maent yn honni sydd wedi gadael heb dalu ei bil

  • Cyhoeddwyd

Mae perchennog gwesty o Lanelli yn dweud ei fod wedi ei 鈥渟yfrdanu鈥 ar 么l i fenyw adael y gwesty heb dalu bil o 拢800.

Yn 么l Paul Jenkins, perchennog gwesty鈥檙 Diplomat, fe wnaeth y fenyw dreulio tair noson rhwng 10 a 13 Mehefin yn yfed a bwyta yn y gwesty, cyn iddi adael, heb dalu bil o 拢802.55.

Mae Heddlu Dyfed Powys yn ymchwilio.

Dywedodd Mr Jenkins ei fod yn credu bod y fenyw wedi defnyddio enw ffug ar 么l honni ei bod yn aros yn y gwesty fel rhan o鈥檌 gwaith.

'Diflannu heb arwydd'

Dywedodd Mr Jenkins: 鈥淲naeth hi gerdded allan yn y bore heb ddweud ei bod hi鈥檔 gadael.

鈥淩oedd y glanhawyr ddim yn gwybod os oedd hi yn yr ystafell neu beidio ac unwaith i ni sylweddoli be' oedd wedi digwydd, wnaethom ni agor y drws ac roedd hi wedi mynd.

鈥淩oedd ganddi fil o 拢802.鈥

Dywedodd Mr Jenkins fod y fenyw wedi archebu pysgod a sglodion, st锚c, gwin, ac 鈥渞oedd hi wedi mwynhau ei hun鈥.

鈥淩y鈥 ni erioed wedi cael problem fel hyn, weithiau mae rhywun yn anghofio, ond mae e鈥檔 dipyn o beth i ddelio gydag e.

鈥淎r 么l Covid, mae busnesau lletygarwch wedi dioddef, ac rydym yn brysur nawr ond mae o i gyd yn gwneud gwahaniaeth.

"Mae鈥檙 biliau i gyd angen eu talu.

"鈥橠ydy e ddim yn neis, ni yn siomedig.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyma'r tro cyntaf i Westy'r Diplomat gael achos o'r fath

Ers rhannu beth a ddigwyddodd ar gyfryngau cymdeithasol, mae Mr Jenkins yn dweud bod busnes arall yn Lloegr wedi cysylltu i ddweud eu bod nhw鈥檔 credu bod yr un fenyw wedi gadael eu gwesty nhw heb dalu.

Dywedodd: "Mae鈥檙 ymateb wedi bod yn ffantastig, ond ni dal ddim yn gwybod pwy yw hi.

"Buasai'n dda i ddod o hyd iddi ac i gael bach o鈥檙 arian yn 么l 'falle, ond rydym yn gobeithio bod hi ddim yn gwneud hyn yn rhywle arall."

Mae Heddlu Dyfed Powys yn ymchwilio, ac yn annog unrhyw un sydd 芒 gwybodaeth i gysylltu 芒 nhw.

Pynciau cysylltiedig