Teuluoedd rhai fu farw mewn carchar yn protestio
- Cyhoeddwyd
Mae teuluoedd wedi ymgynnull y tu allan i garchar yn ne Cymru i brotestio wedi nifer o farwolaethau carcharorion yn ddiweddar ac adroddiadau o gamddefnyddio cyffuriau.
Mae naw person wedi marw yng Ngharchar y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr ers mis Chwefror, a chredir bod o leiaf pedwar o'r rheiny yn gysylltiedig gyda chyffuriau.
Mae rhai wedi cael eu harestio mewn cysylltiad 芒 chyflenwi cyffuriau i'r carchar, gan gynnwys un aelod o staff y carchar.
Dywedodd llefarydd ar ran G4S, y cwmni sy'n rhedeg y carchar: "Rydym yn cydymdeimlo gyda theuluoedd a chyfeillion rhai sydd wedi marw'n ddiweddar. Fel gyda phob marwolaeth yn y carchar, maen nhw'n destun ymchwiliad gan yr ombwdsmon carchardai."
Dywedodd teulu'r cyn-garcharor Mikey Horton ei fod wedi lladd ei hun yn y carchar dair wythnos yn 么l.
"Mae'n ofnadwy," meddai ei fodryb Frances Jones. "Ry'n ni yma i gael cyfiawnder i Mikey ac i deuluoedd eraill sydd wedi gorfod mynd drwy hyn."
Ychwanegodd Ms Jones fod y teulu wedi cael mwy o wybodaeth am farwolaeth eu nai gan y cyfryngau.
"Roedden ni am gael gwybod pam nad oedd neb yn gwylio Mikey. Does dim geiriau. Dwi ddim yn gwybod sut i gysuro fy chwaer."
Dywedodd Dylan Williams o Bontypridd fod ei ffrind gorau - Cameron Lee Anthony - wedi marw yn y carchar fis diwethaf wedi iddo gymryd cyffuriau.
Roedd Mr Williams wedi siarad gyda'i ffrind yn ystod y cyfnod byr y bu yn y carchar.
"Dwi wedi colli fy ffrind gorau," meddai.
"Roedd e [Mr Anthony] yn dweud fod y lle'n anhrefn. Roedd cyffuriau ymhobman."
Bu farw brawd Naomi Lewis, Justin, a cafwyd hyd i'w gorff yn ei gell yng Ngharchar y Parc ym mis Mawrth. Roedd ganddo hanes o "hunan-niweidio difrifol".
"Doedd neb yn gwirio'i gell drwy'r dydd," medd Ms Lewis.
"Roedd e'n hunan-niweidio. Fe ddylai fod dyletswydd o ofal yno. Mae e wedi cael ei fethu yn fy marn i."
Mae Carchar y Parc yn garchar Categori B sy'n cartrefu dynion a throseddwyr ifanc, ac mae'n un o garchardai mwyaf y DU.
Mesurau mewn grym
Dywedodd llefarydd ar ran gwmni G4S, sy'n rhedeg y carchar, fod ganddyn nhw fesurau mewn grym i rwystro cyffuriau rhag dod i mewn i'r carchar, gan gynnwys mesurau diogelwch i staff ac ymwelwyr.
"Mae mwyafrif ein staff yn weithwyr caled ac onest. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r heddlu i ddal y nifer bach iawn sy'n torri'r rheolau," medd y llefarydd.
"Mae ein cefnogaeth iechyd meddwl yn seiliedig ar asesiadau, ac yn gweithio yn yr un ffordd ag y byddai yn y gymuned. Yn unol gyda pholisi cenedlaethol, mae carcharorion sydd mewn risg i hunan-niweidio yn cael eu rheoli gan d卯m arbenigol ac yn cael cynllun penodol ar eu cyfer.
"Mae swyddog cyswllt teulu wedi bod mewn cyswllt cyson gyda theulu agosaf Mr Horton."
Os yw cynnwys yr erthygl wedi effeithio arnoch chi, mae gwybodaeth a chymorth ar gael ar wefan Action Line y 成人快手.