成人快手

Ysgol Dyffryn Aman: Llys yn clywed i ddisgybl fygwth lladd athro

Dyffryn Aman
  • Cyhoeddwyd

Clywodd llys i ferch 14 oed drywanu athrawon a disgybl sawl gwaith mewn ysgol ger Rhydaman, gan fygwth lladd un o'r athrawon.

Cafodd dwy athrawes, Fiona Elias a Liz Hopkin, a disgybl arall, eu trywanu sawl gwaith yn Ysgol Dyffryn Aman ym mis Ebrill.

Ar ddiwrnod cyntaf yr achos yn erbyn y ferch 14 oed, na ellir ei henwi am resymau cyfreithiol, fe glywodd rheithgor sut wnaeth y ferch fygwth lladd athrawes yn ystod amser chwarae, cyn ei thrywanu sawl gwaith, cyn ymosod ar athrawes arall a disgybl.

Cafodd Ms Elias ei thrywanu yn ei breichiau, tra cafodd Ms Hopkin ei thrywanu yn ei gwddf, cefn, coesau a鈥檌 breichiau.

Clywodd y llys i ferch oedd yn ddisgybl yn yr ysgol ac a oedd ar yr iard ar yr un pryd gael ei thrywanu yn ei choesau.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y ddwy athrawes a gafodd eu hanafu - Liz Hopkins a Fiona Elias

Mae'r diffynnydd, oedd yn eistedd yn y llys gyda'i th卯m cyfreithiol yn hytrach nag yn y doc oherwydd ei hoedran, yn byw mewn uned ddiogel i bobl ifanc ers y digwyddiad.

Roedd yn gwisgo crys gwyn a siaced ddu wrth wrando ar William Hughes KC yn amlinellu achos y Goron.

Ym mis Awst plediodd yn euog i dri chyhuddiad o anafu bwriadol ac un o fod ag arf yn ei meddiant ar dir yr ysgol.

Mae wedi pledio yn ddieuog i dri chyhuddiad o geisio llofruddio.

Mi wyliodd y rheithgor fideo o gamera cylch cyfyng Ysgol Dyffryn Aman o'r digwyddiad ar fore 24 Ebrill.

Roedd y deunydd yn dangos y ferch yn siarad gyda Ms Hopkin a Ms Elias cyn tynnu arf miniog allan o boced ei throwsus.

'Dwi鈥檔 mynd i dy fg lladd di'

Clywodd y llys sut wnaeth y ferch ofyn: 鈥淵dych chi eisiau gweld beth sydd yn fy mhoced?鈥.

Yna dywedodd wrth droi at Fiona Elias 鈥淒wi鈥檔 mynd i dy fg lladd di.鈥

Fe wnaeth hi drywanu鈥檙 ddwy athrawes sawl gwaith tra鈥檜 bod nhw鈥檔 ceisio ei rhwystro.

Gwelwyd athrawon eraill, Mr Stephen Hagget a Mr Darrel Campbell yn cyrraedd gan geisio tawelu鈥檙 ferch.

Dywedodd yr erlyniad, William Hughes KC, bod y ferch wedi dweud wrth Mr Stephen Hagget a Mr Darrel Campbell y byddai鈥檔 lladd Ms Elias os byddai鈥檔 ei gweld hi.

Yna symudodd y ferch i ardal arall o鈥檙 ysgol gan droi at ddisgybl arall a dweud 鈥淒wi鈥檔 mynd i dy fg lladd di鈥 ac ymosod arni hi.

Cafodd y ferch ei rhwystro a鈥檌 dal mewn ystafell lle cafodd ei harestio.

Mae'r erlyniad wedi gorffen amlinellu eu hachos ac mae disgwyl i'r achos barhau fore Mercher.

Cyllell yn ei bag ar achlysur arall

Ar ddiwrnod cyntaf yr achos fe glywodd y llys bod cyllell wedi ei darganfod ym mag y ferch 14 oed yn gynharach yn y flwyddyn ysgol.

O ganlyniad roedd staff yr ysgol, a thad y ferch yn edrych ar gynnwys ei bag yn rheolaidd.

Clywodd y rheithgor i'r ferch ar ddiwrnod y digwyddiad adael y t欧 cyn i鈥檞 thad gael cyfle i edrych yn ei bag.

Dywedodd yr erlyniad bod y ferch wedi mynd 芒 chyllell pysgota ei thad o鈥檙 ystafell fyw heb yn wybod i'w thad.

Roedd Ms Elias wedi siarad gyda鈥檙 ferch y diwrnod hwnnw gan ofyn iddi adael adeilad nad oedd ganddi鈥檙 hawl i fod ynddo.

Fe ddywedodd Ms Elias ar y pryd fod ganddi 鈥渓ygaid sinistr鈥 a'i bod yn chwarae gyda gwrthrych ym mhoced ei throwsus.

Symudodd Ms Elias tu allan gan ymuno 芒 Ms Hopkin - yno dechreuodd y ddwy siarad gyda鈥檙 ferch a wnaeth ddilyn ei hathrawes allan.

Roedd Ms Elias yn dweud wrth y ferch bod ei throwsus ddim yn cyd-fynd gyda鈥檙 wisg ysgol a鈥檔 s么n am yr angen i siarad gyda鈥檌 rhiant am y mater.

Yna fe ofynnon nhw beth oedd yn ei phoced.

Dyna'r adeg, yn 么l yr erlyniad i'r ferch dynnu cyllell o'i phoced cyn ymosod ar y ddwy athrawes.

Mae'r ferch 14 oed na ellir ei henwi yn gwadu tri chyhuddiad o geisio llofruddio.

Clywodd y llys bod y ferch wedi gwneud 鈥渟awl sylw ansensitif鈥 i swyddogion yr heddlu wrth iddi gael ei chludo i鈥檙 orsaf yn Llanelli.

Fe wnaeth hi gyfaddef wrth swyddogion ei bod hi wedi trywanu disgybl gan ddweud 鈥oopsies.鈥

Ychwanegodd: 鈥淒wi鈥檔 eithaf sicr ybydd hyn ar y newyddion - dyna un ffordd o fod yn enwog."

Gofynnodd hefyd a oedd y tri wedi marw.

Dywedodd William Hughes KC fod Heddlu Dyfed-Powys wedi chwilio cartref y ferch.

Fe ffeindion nhw ddarluniau yn cyfeirio at y disgybl gafodd ei thrywanu a Ms Elias.

Roedd un darlun o fenyw yn cynnwys y geiriau 鈥楳iss Frogface 贰濒颈补蝉鈥.

Roedd darlun arall yn cynnwys enw鈥檙 disgybl gafodd ei thrywanu a鈥檔 cynnwys y geiriau 鈥渓losgi鈥, 鈥渕arw鈥 a 鈥渢orri eu cegau a鈥檜 llygaid鈥.

Mae鈥檙 ferch yn gwadu ceisio llofruddio ac mae disgwyl i'r achos barhau ddydd Mercher.

Pynciau cysylltiedig